Ebost a gwebost
Mae dau brif fath o ebost, ebost cleient a gwebost. Mae ebost cleient yn cael ei ddefnyddio’n aml gan ddefnyddwyr busnes ac mae’n golygu bod yr ebost yn cael ei llwytho i lawrCopïo ffeil o’r rhyngrwyd i gyfrifiadur neu ddyfais. o gweinyddCyfrifiadur sy’n cadw data i’w rhannu â chyfrifiaduron eraill. Mae gweinydd gwe yn storio ac yn rhannu gwefannau. i rhaglen (ap)Rhaglen feddalwedd sy’n caniatáu i ddefnyddiwr gyflawni tasg benodol. (er enghraifft Microsoft Outlook neu Mozilla Thunderbird) ar gyfrifiadur y defnyddiwr. Mae defnyddwyr yn cael mynediad i webost drwy porwr gweRhaglen (ap) sy’n arddangos tudalennau gwe. ac mae’n bosibl cael mynediad iddo o unrhyw gyfrifiadur sydd â cysylltiad rhyngrwydCysylltiad â’r rhyngrwyd gan gyfrifiadur neu ddyfais sy’n gallu defnyddio’r rhyngrwyd..
Ebost cleient
Er mwyn sefydlu’r math yma o ebost mae angen:
- cyfrifiadur
- cysylltiad rhyngrwyd
- cyfrif gydag ISP (Darparwr Gwasanaeth Rhyngrwyd)
- rhaglen (ap)Rhaglen feddalwedd sy’n caniatáu i ddefnyddiwr gyflawni tasg benodol. ebost, er enghraifft, Outlook, Thunderbird neu Entourage
Bydd y Darparwr Gwasanaeth Rhyngrwyd yn rhoi cyfrif ebost, cyfrinair a blwch postLle mae pob ebost sy’n cael ei anfon i’r cyfeiriad ebost cysylltiedig, neu o’r cyfeiriad ebost hwnnw, yn cael ei storio. i ti, er enghraifft [email protected].
Mae cysylltiad band eangCysylltiad rhyngrwyd cyflym. 'ymlaen o hyd' a bydd angen talu tanysgrifiad cyfradd safonol. Ychydig iawn o bobl sy’n talu fesul munud y dyddiau hyn. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn talu tâl misol am fynediad i fand eang.
Mae sganio gwrthfirwsMae meddalwedd gwrthfirws yn sganio dyfeisiau storio o bob math am firysau (rhaglenni sy’n gallu achosi niwed i gyfrifiaduron). Os yw’r feddalwedd yn dod o hyd i firysau mae’n ceisio cael gwared arnynt. yn dod yn safonol ar gyfrifon ebost, ac erbyn hyn mae llawer o ddarparwyr ebost yn cynnig gwasanaeth hidloMae ebyst digymell (sothach) yn cael eu dal gan hidlydd sbam. sbam (post sothach electronig).
Gwebost
Fel mae’r enw’n awgrymu, mae gwebost yn golygu ebost ar y we. Does dim angen i ti gael meddalwedd ebost er mwyn defnyddio gwebost – dim ond cyfrifiadur sydd wedi’i gysylltu â’r rhyngrwyd a phorwr. Mae cyfrifon gwebost yn ddi-dâl fel arfer.
Yr unig beth y mae angen i ddefnyddwyr ei wneud yw cofrestru ar gyfer gwasanaeth gwebost fel Gmail, Hotmail neu Yahoo. Byddant yn cael enw defnyddiwr unigryw, cyfrinair a blwch postLle mae pob ebost sy’n cael ei anfon i’r cyfeiriad ebost cysylltiedig, neu o’r cyfeiriad ebost hwnnw, yn cael ei storio. personol. Mae’n bosibl cael mynediad i’r blwch post drwy ymweld â chyfeiriad gwe penodol a mewngofnodi. Ar ôl mewngofnodi, gall defnyddwyr anfon a derbyn negeseuon.
Mantais gwebost yw bod defnyddwyr yn gallu derbyn ac anfon ebost o unrhyw gyfrifiadur yn y byd sydd â mynediad i’r rhyngrwyd a phorwr.
Bydd ambell ISPDarparwr Gwasanaeth Rhyngrwyd – mae ei angen er mwyn cael mynediad i’r rhyngrwyd. Mae hefyd yn darparu gwasanaethau fel gofod gwe ac ebost. yn galluogi ei gwsmeriaid i gael mynediad at eu blwch post drwy webost yn ogystal â thrwy’r feddalwedd ebost sydd ar eu cyfrifiadur personol.