Nodweddion ebost
Mae gan ebost lawer o wahanol nodweddion gan gynnwys:
- ateb negeseuon yn awtomatig
- ailgyfeirio negeseuon a’u hanfon ymlaen yn awtomatig
- opsiwn i anfon copïau o neges at lawer o bobl
- ffeilio ac adalw negeseuon yn awtomatig
- mae’n bosibl storio cyfeiriadau mewn llyfr cyfeiriadau a’u hadalw ar unwaith
- rhoi gwybod os nad yw’n bosibl anfon neges
- mae’r dyddiad a’r amser yn cael ei nodi ar ebost yn awtomatig
- mae’n bosibl atodi llofnod
- mae’n bosibl anfon ffeiliau, graffigwaithDelwedd weledol sy’n cael ei dangos ar sgrin neu ei storio fel data. neu sain fel atodiadFfeil sy’n cael ei hanfon gydag ebost., yn aml mewn fformatau cywasgedig
- mae’n bosibl defnyddio gwebost ac ebost symudolEbost y mae’n bosibl cael mynediad ato o ddyfais llaw, er enghraifft ffôn symudol. i dderbyn ac anfon negeseuon tra’n symud o gwmpas
Defnyddio ebost
Er mwyn anfon a derbyn ebost rhaid i ti fod wedi cysylltu â’r rhyngrwyd.
Anfon ebost
- Agor y cleient ebost, er enghraifft Microsoft Outlook. Os wyt ti’n defnyddio gwebost bydd angen i ti agor y porwr, mewnbynnu cyfeiriad gwebost, er enghraifft http://www.gmail.com a mewngofnodi.
- Clicio 'Newydd' neu 'Cyfansoddi’.
- Rhoi cyfeiriad(au) ebost y derbynnydd/derbynwyr arfaethedig yn y maes 'At'.
- Ysgrifennu pwnc addas yn y maes 'Pwnc'.
- Ysgrifennu’r neges yn y lle gwag o dan y maes Pwnc.
- Clicio 'Anfon' i anfon yr ebost.
Mae opsiwn i ychwanegu atodiad, er enghraifft llun.
Am resymau diogelwch, dylai defnyddwyr gwebost allgofnodi ar ôl gorffen oherwydd mae’n bosibl y bydd y cyfrifiadur maen nhw’n ei ddefnyddio’n cael ei ddefnyddio gan bobl eraill hefyd. Pe bai’r defnyddiwr gwebost yn anghofio allgofnodi byddai defnyddwyr eraill yn gallu cael mynediad at ei ebost.
Derbyn ebost
Mae cleientiaid ebost a gwebost yn edrych bob hyn a hyn i weld a oes ebyst newydd wedi cyrraedd. Mae’n bosibl gwneud gwiriad â llaw drwy glicio ar 'Anfon a Derbyn' mewn cleient ebost neu drwy adnewyddu’r dudalen wrth ddefnyddio gwebost.
Mae cleientiaid ebost yn llwytho atodiadau i lawr yn awtomatig, ond rhaid i ddefnyddwyr gwebost ddewis llwytho atodiadau i lawr.
Ebost ar ddyfeisiau eraill
Erbyn heddiw dydy ebost ddim wedi’i gyfyngu i gyfrifiaduron. Mae’n bosibl anfon ebost o lawer o ddyfeisiau eraill hefyd, er enghraifft:
- ffonau symudol (gan ddefnyddio rhwydwaith y cludydd neu fannau poeth di-wifr)
- tabledi
- consolau gemau
- setiau teledu
Wrth i fannau poeth di-wifr ddod yn fwy a mwy cyffredin, mae cysylltu â’r rhyngrwyd tra’n symud o gwmpas yn haws nag y mae wedi bod erioed.