Manteision ac anfanteision defnyddio ebost
Manteision
- Mae ebyst yn cael eu danfon yn gyflym iawn o gymharu â phost traddodiadol.
- Mae’n bosibl anfon ebyst 24 awr y diwrnod, 365 diwrnod y flwyddyn.
- Mae gwebost yn golygu ei bod yn bosibl anfon a derbyn ebyst o unrhyw gyfrifiadur, yn unrhyw ran o’r byd, os oes ganddo cysylltiad rhyngrwydCysylltiad â’r rhyngrwyd gan gyfrifiadur neu ddyfais sy’n gallu defnyddio’r rhyngrwyd..
- Rhad – wrth ddefnyddio band eangCysylltiad rhyngrwyd cyflym., mae pob ebost yn cael ei anfon am ddim i bob pwrpas. Mae defnyddwyr gwasanaeth deialuDull hen ffasiwn ac araf o gysylltu â’r rhyngrwyd gan ddefnyddio llinell ffôn. yn talu ar gyfradd galwadau lleol, ond mae’n bosibl anfon ebost mewn ychydig eiliadau (ebost arferol, er enghraifft, testun yn unig).
- Mae’n bosibl anfon ebost at fwy nag un person neu at lawer o bobl.
Anfanteision
- Mae angen i’r derbynnydd gael mynediad i’r rhyngrwyd er mwyn derbyn ebost.
- Mae firwsRhaglen fach sydd wedi’i hysgrifennu er mwyn achosi niwed i gyfrifiadur. yn lledaenu’n hawdd drwy atodiadFfeil sy’n cael ei hanfon gydag ebost. ebost (mae’r rhan fwyaf o ddarparwyr ebost yn sganio ebyst am firysau ar dy ran).
- Gwe-rwydo - anfon ebost at ddefnyddiwr gan ffugio bod yn gwmni cyfreithlon, er mwyn sgamio’r defnyddiwr i ddarparu gwybodaeth, er enghraifft gwybodaeth bersonol a rhifau cyfrif banc ar ffug gwefanTudalen we neu grŵp o dudalennau gwe sy’n cael eu lletya ar un gweinydd ac yn cael eu gweld mewn porwr gwe, sydd fel arfer yn cael ei gynnal gan unigolyn, grŵp neu sefydliad.. Bydd y manylion yn cael eu defnyddio wedyn i dwyn hunaniaethPan mae hunaniaeth unigolyn yn cael ei gymryd gan rywun arall er mwyn elwa, yn ariannol neu mewn ffordd arall..
- Dim sicrwydd y bydd y post yn cael ei ddarllen nes bydd y defnyddiwr yn mewngofnodi ac yn edrych am ebost.
- Sbam - ebost digymell, hynny yw, post sothach.