Cipio data
Cyn creu cronfa ddataStorfa ddata sydd wedi’i chynllunio mewn ffordd drefnus, i’w gwneud hi’n haws i ni chwilio am y wybodaeth sydd ei hangen. rhaid casglu’r dataGwerthoedd, llythrennau neu rifau fel arfer.. Mae’n bosibl gwneud hyn drwy ddefnyddio ffurflen cipio data.
Mae ffurflen sy’n cael ei llenwi gan gwsmer sy’n prynu car gan garej gwerthu ceir yn enghraifft o ffurflen cipio data.
Yn aml iawn mae ffurflenni cipio data’n defnyddio blychau neu nifer penodol o fylchau. Weithiau maen nhw’n rhoi enghreifftiau hefyd. Mae hyn er mwyn gwneud yn siŵr bod pob maes yn cael ei gwblhau’n gywir.
Mae data yn aml yn cael eu mewnbynnu fel cod mewn cronfa ddata. Er enghraifft, yn y ffurflen cipio data mae D yn cael ei ddefnyddio am Do ac N am Naddo. Mae codau fel hyn yn cael eu defnyddio oherwydd eu bod:
- yn cymryd llai o amser i’w teipio i mewn
- yn defnyddio llai o le ar y ddisg
- yn hawdd i’w dilysu
- yn gwneud y dasg o chwilio am ddata yn y gronfa ddata yn haws gan fod y data’n cael eu mewnbynnu mewn fformat safonol