Cronfeydd data perthynol
Mae gan cronfa ddataStorfa ddata sydd wedi’i chynllunio mewn ffordd drefnus, i’w gwneud hi’n haws i ni chwilio am y wybodaeth sydd ei hangen. berthynol fwy nag un tabl ac mae’r tablau’n cael eu cysylltu drwy ddefnyddio maes allweddolDynodwr unigryw ar gyfer cofnod mewn cronfa ddata neu gofnod mewn tabl.. Er enghraifft, gallai cronfa ddata llyfrgell gynnwys tri thabl:
- Cwsmer - pan fydd cwsmer yn ymuno â’r llyfrgell bydd cofnod yn cael ei greu. Mae’n storio manylion y cwsmer, er enghraifft ei enw cyntaf a’i gyfenw, ac mae’n cynnwys Rhif Adnabod unigryw’r Cwsmer.
- Llyfr - mae gan bob llyfr yn y llyfrgell gofnod. Mae’n storio manylion am y llyfr, er enghraifft yr awdur a’r teitl, ac yn cynnwys rhif adnabod unigryw’r llyfr.
- Benthyca - pan fydd cwsmer yn benthyca llyfr, bydd y tabl benthyca yn storio rhif adnabod unigryw’r cwsmer a rhif adnabod unigryw’r llyfr mewn cofnod. Gallai’r cofnod hefyd gynnwys gwybodaethData sydd ag ystyr, nid rhif neu lythyren yn unig. ychwanegol, er enghraifft pryd gafodd y llyfr ei fenthyca a phryd mae disgwyl iddo gael ei ddychwelyd.
Mae rhifau adnabod y cwsmer a’r llyfr yn enghreifftiau o feysydd allweddol.
Manteision
- Dim ond unwaith y mae angen mewnbynnu manylion y llyfr a manylion y cwsmer i’r gronfa ddata.
- Oherwydd hyn, mae camgymeriadau’n llai tebygol o ddigwydd. Er enghraifft, pe bai cofnod cwsmer yn cynnwys camgymeriad, byddai cywiro’r camgymeriad unwaith yn golygu ei fod wedi’i gywiro ym mhob rhan o’r gronfa ddata.
- Osgoi dyblygu – mae hyn yn sicrhau nad yw ffeil y gronfa ddata yn mynd yn rhy fawr.
- Mae modd gweld manylion llyfrau a chwsmeriaid yn hawdd drwy ddefnyddio eu rhifau adnabod unigryw.
- Mae’n bosibl gwneud ymholiadau a chreu adroddiadau, er enghraifft, rhestr o lyfrau y mae cwsmer wedi’u benthyca ers ymuno â’r llyfrgell.