Logio data a rheoliSiartiau llif systemau

Logio data yw’r broses o gasglu a storio data dros gyfnod. Mae’n bosibl cofnodi a dadansoddi’r data sy’n cael eu casglu.

Part ofTGChMeddalwedd rhaglenni

Siartiau llif systemau

Mae siart llif system yn gynrychioliad gweledol o brosesau, penderfyniadau, mewnbynnau ac allbynnau sydd gyda’i gilydd yn ffurfio system.

Beth yw siart llif system?

Mae siartiau llif system yn ffordd o ddangos sut mae data yn llifo mewn system a sut mae penderfyniadau’n cael eu gwneud er mwyn rheoli digwyddiadau.

Symbolau siart llif.
Figure caption,
Symbolau sy’n cael eu defnyddio mewn siartiau llif

Er mwyn dangos hyn, mae symbolau’n cael eu defnyddio. Maen nhw’n cael eu cysylltu â’i gilydd i ddangos beth sy’n digwydd i ddata a ble maen nhw’n mynd.

Mae siartiau llif systemau yn debyg iawn i siartiau llif data. Nid yw siartiau llif data’n cynnwys penderfyniadau. Mae siartiau llif data’n dangos llwybr y data, lle maen nhw’n cael eu cadw a’u prosesu, ac yna’r .

Syniadau ar gyfer defnyddio siart llif system

Mae’r hwn yn ddiagram ar gyfer system 'rheoli criwsio' mewn car. Mae’r system rheoli criwsio yn cadw’r car ar gyflymder cyson sydd wedi cael ei bennu gan y gyrrwr.

Siart llif yn cynnwys symbolau system.

Mae’r siart llif yn dangos beth yw’r canlyniad os yw’r car yn mynd yn rhy gyflym neu’n rhy araf. Mae’r system wedi’i chynllunio i ychwanegu tanwydd, neu i leihau tanwydd, felly mae’n gallu cadw cyflymder y car yn gyson. Yna mae’r (cyflymder newydd y car) yn cael ei fwydo yn ôl i’r system drwy’r cyflymder.

Enghreifftiau eraill lle gallai diagramau system gael eu defnyddio:

  • rheoli awyrennau
  • gwres canolog
  • peiriannau golchi awtomatig
  • systemau archebion cwmnïau awyrennau

Mewnbwn ac allbwn

Er mwyn i’r system weithio mae angen ac . Mae’r broses yn cymryd y mewnbwn ac yn gwneud rhywbeth gydag ef – ei addasu mewn rhyw ffordd – ac yna’n cynhyrchu allbwn.

Mewn system gyfrifiadurol bydd y prosesu’n cael ei wneud gan o ryw fath.

Adborth yw’r allbwn sy’n cael ei fwydo yn ôl i’r mewnbwn. Mae’r siart llif system ar gyfer rheoli criwsio yn enghraifft o adborth negatif oherwydd mae’r cyflymder yn cael ei gadw ar yr un gwerth bob amser. Byddai adborth positif yn gwthio’r cyflymder oddi wrth y gwerth dymunol.

Mewnbynnau

Dyma enghreifftiau o fewnbynnau:

  • bysellfwrdd
  • llygoden
  • microffon
  • sganiwr
  • camera
  • gwasgedd
  • synhwyrydd tymheredd
  • synhwyrydd magnetig
  • synhwyrydd lleithder
  • synhwyrydd golau

Allbynnau

Dyma enghreifftiau o allbynnau:

  • argraffyddion
  • seinyddion
  • motorau
  • gwresogyddion
  • electromagnetau
  • bylbiau/LEDs