Logio data a rheoliLogio data

Logio data yw’r broses o gasglu a storio data dros gyfnod. Mae’n bosibl cofnodi a dadansoddi’r data sy’n cael eu casglu.

Part ofTGChMeddalwedd rhaglenni

Logio data

Y broses logio data

Mae gan synwyryddion ran bwysig i’w chwarae yn y broses logio data. Mae’n bosibl mesur pob priodwedd ffisegol â synwyryddion, er enghraifft golau, gwres, sain, gwasgedd, asidedd a lleithder.

Mae’r synwyryddion yn anfon signalau i flwch rhyngwyneb, sydd wedi’i gysylltu â chyfrifiadur. Mae’r blwch rhyngwyneb yn trosi signalau analog yn signalau digidol fel bod y cyfrifiadur yn eu deall.

Bydd y cyfrifiadur sy’n rheoli’r broses yn cymryd darlleniadau yn rheolaidd. Y cyfwng amser ar gyfer logio data yw’r amser rhwng darlleniadau. Y cyfnod logio yw’r cyfnod cyfan ar gyfer cymryd darlleniadau.

Mae’r darlleniadau’n cael eu storio mewn tablau ac mae’n bosibl eu harddangos mewn graffiau neu eu trosglwyddo i raglen, er enghraifft , i gael eu dadansoddi yn nes ymlaen.

Weithiau mae angen cofnodi 'allan yn y maes'. Mae hyn yn cael ei alw yn gofnodi data o bell. Mae darlleniadau’n cael eu storio ac yna’n cael eu rhoi ar gyfrifiadur lle maen nhw’n cael eu a’u dadansoddi. Mae angen i’r offer yn y sefyllfaoedd hyn fod yn gryf iawn – byddai angen i gyfarpar sy’n cael eu defnyddio i fonitro lefelau dŵr allu gwrthsefyll effeithiau dŵr; yn yr un modd, byddai angen i gyfarpar sy’n gweithio mewn lloeren allu gwrthsefyll y dirgrynu sy’n digwydd wrth lansio a chasglu’r lloeren.

Esboniad o logio data o bell o amgylch Ynysoedd Prydain. Mae’r data’n cael eu hanfon i gronfa ddata.