Logio data a rheoliCylchred adborth

Mae TGCh yn cael ei defnyddio i reoli a monitro sawl agwedd ar ein bywydau ac mae gan systemau rheoli lawer o fanteision o’u cymharu â phobl.

Part ofTGChLogio data a rheoli

Cylchred adborth

Mae’r diagram hwn yn dangos reoli ar gyfer cynnal lefel y dŵr mewn tanc pysgod.

Cylchred adborth yn defnyddio synwyryddion i ganfod lefelau dŵr mewn tanc pysgod.
Figure caption,
Cylchred adborth ar gyfer tanc pysgod

Mae’r rhaglen reoli yn storio’r lefelau dŵr uchaf ac isaf sy’n dderbyniol a pha gamau i’w cymryd os yw’r dŵr yn mynd yn uwch neu’n is na’r lefelau hyn.

Mae’r broses yn un barhaus ac mae’n cael ei galw’n gylchred adborth.

Camau’r gylchred adborth

  1. Lefel y dŵr yn mynd yn rhy isel.
  2. Synhwyrydd yn canfod bod lefel y dŵr yn rhy isel.
  3. Agor falf i adael dŵr i mewn.
  4. Synhwyrydd yn canfod bod lefel y dŵr yn rhy uchel.
  5. Agor falf i ollwng dŵr.