Logio data a rheoliAdborth

Mae TGCh yn cael ei defnyddio i reoli a monitro sawl agwedd ar ein bywydau ac mae gan systemau rheoli lawer o fanteision o’u cymharu â phobl.

Part ofTGChLogio data a rheoli

Adborth

Weithiau mae’n dda cael adborth mewn system TGCh. Mae hyn yn digwydd pan mae’r o system yn bwydo’n ôl i ddylanwadu ar y ac mae’r broses yn ailadrodd ei hun.

Enghraifft dda yw system sydd wedi cael ei sefydlu i reoli tymheredd dŵr mewn tanc pysgod trofannol. Mae tymheredd y dŵr yn cael ei gymryd fel mewnbwn o . Mae’r wybodaeth yn cael ei phrosesu a thymheredd y dŵr yn cael ei gymharu â’r paramedrau sydd wedi’u rhaglennu ymlaen llaw, er enghraifft, isafswm/uchafswm tymheredd. Mae’r allbynnau’n cynnwys y penderfyniad awtomatig i roi’r gwresogydd i fynd i gynhesu’r dŵr neu ei ddiffodd i adael i’r dŵr oeri. Mae’r allbwn, hynny yw y newid yn nhymheredd y dŵr, yn cael ei fwydo’n ôl wedyn gan y synwyryddion fel mewnbwn ac mae’r broses yn ailadrodd ei hun.

Esboniad o sut mae synwyryddion gwresogi’n gweithio mewn tanc pysgod.

Gall adborth ddigwydd mewn systemau sy’n seiliedig ar hefyd. Yn aml iawn bydd allbwn yn cael effaith ar fewnbynnau eraill. Er enghraifft, allbwn derbyn archeb ar-lein am docyn awyren fydd gostwng nifer y tocynnau sydd ar gael.