Manteision defnyddio TGCh mewn arbrofion gwyddonol
Dulliau mwy effeithlon o logio data
Mae arbrofion sy’n defnyddio cyfarpar logio data yn gallu:
- cymryd darlleniadau cywir iawn
- cael eu gadael heb fod angen pobl o’u cwmpas
- cael eu gosod i gymryd darlleniadau dros gyfnod hir, er enghraifft, darlleniadau tymheredd bob awr bob diwrnod
- cael eu gosod i gymryd llawer o ddarlleniadau mewn cyfnod byr
- cael eu defnyddio pan mae risg o ran diogelwch, er enghraifft, oerfel neu wres eithafol
Prosesu a chyflwyno canlyniadau’n well
- Mae’n bosibl prosesu’r dataGwerthoedd, llythrennau neu rifau fel arfer. sy’n cael eu casglu o’r arbrawf gwyddonol drwy ddefnyddio meddalweddY rhaglenni, apiau a data sydd mewn system gyfrifiadurol. Unrhyw ran o system gyfrifiadurol sydd ddim yn rhan ffisegol. arbenigol neu eu rhoi mewn taenlenMeddalwedd sy’n cael ei defnyddio i drin data. Mae’n cael ei defnyddio’n aml wrth fodelu..
- Mae’n bosibl cynhyrchu graffiau llinell, graffiau olwyn neu graffiau bar.
- Mae’n bosibl arddangos tabl gwerthoedd.
- Mae’n bosibl allforioAnfon data o raglen mewn fformat ffeil sy’n gallu cael ei darllen gan raglen arall. y gwerthoedd i becyn cyhoeddi bwrdd gwaithRhaglen sy’n caniatáu i rywun osod testun a delweddau ar dudalen. (CBG).
- Mae’n bosibl ychwanegu testun i egluro’r arbrawf a’r canlyniadau sy’n cael eu dangos.
- Mae’n bosibl mewnforioLlwytho ffeil i raglen feddalwedd o fersiwn neu system arall.cliplunDelweddau wedi’u gwneud ymlaen llaw. i roi amlinelliad gweledol a dangos yr arbrawf.
- Yna mae’n bosibl cadw’r adroddiad a’i ddosbarthu’n eang mewn gwahanol ffyrdd, er enghraifft ebostPost electronig. Dull o anfon negeseuon a ffeiliau at bobl eraill., post neu ffacsTechnoleg sy’n cael ei defnyddio i ddigido copïau caled o ddogfennau, eu trosglwyddo dros y rhwydwaith ffôn, a’u hargraffu ar ôl eu derbyn..