Rôl synwyryddion wrth reoli
Mae synwyryddion yn cael eu defnyddio i fesur meintiau ffisegol, er enghraifft tymheredd, golau, gwasgedd, sain a lleithder. Maen nhw’n anfon signalau i’r prosesyddFfordd syml o gyfeirio at uned brosesu ganolog (CPU).. Er enghraifft:
- mae’n bosibl y bydd gan system larwm diogelwch synhwyrydd isgochPelydriad sy’n trosglwyddo ynni gwres. Rhan o’r sbectrwm electromagnetig sydd â thonfedd hirach na thonnau golau, ond byrrach na thonnau radio. sy’n anfon signal pan fydd y paladr yn cael ei dorri
- gallai synhwyrydd sy’n sensitif i wres sydd wedi’i osod yng nghornel ystafell synhwyro presenoldeb rhywun
- byddai’n bosibl defnyddio synwyryddion tymheredd i reoli’r gwres mewn adeilad mawr
- mae synwyryddion magnetig yn cael eu defnyddio i ganfod metel ac mae’n bosibl eu gosod mewn ffyrdd i fonitro llif traffig
Mae meintiau ffisegol eraill y mae’n bosibl eu trosglwyddo’n syth i brosesydd y cyfrifiadur yn cynnwys:
- glawiad/lefelau dŵr
- lefel ymbelydredd
- lefel pH
- lefel ocsigen
Trosi analog i ddigidol
Mae data fel gwasgedd, golau a thymheredd yn dataGwerthoedd, llythrennau neu rifau fel arfer.analogData parhaus sy’n gallu cael amrediad o werthoedd.. Rhaid i gyfrifiaduron gael data digidolGwybodaeth sy’n cael ei storio fel gwerthoedd arwahanol. Fel arfer mae’n cael ei chynrychioli gan rifau. Mae hyn mewn gwrthgyferbyniad â data analog sy’n cael eu cynrychioli gan ddata parhaus, fel arfer mewn tonnau..
Mae angen blwch rhyngwyneb neu drawsnewidydd analog i ddigidol (ADC) er mwyn trosi data analog y synwyryddion yn ddata digidol y gall y cyfrifiadur eu prosesu.