Logio data a rheoliTŷ gwydr sy’n cael ei reoli gan gyfrifiadur

Mae TGCh yn cael ei defnyddio i reoli a monitro sawl agwedd ar ein bywydau ac mae gan systemau rheoli lawer o fanteision o’u cymharu â phobl.

Part ofTGChLogio data a rheoli

Tŷ gwydr sy’n cael ei reoli gan gyfrifiadur

Er mwyn cael yr amodau tyfu gorau i blanhigion, rhaid rheoli’r tymheredd a’r lleithder (gwlybaniaeth sydd yn yr aer).

O ganlyniad, mae gan y tŷ gwydr tymheredd a lleithder sydd wedi’u cysylltu â chyfrifiadur, ac mae gan y cyfrifiadur reoli sy’n storio manylion y gosodiadau tymheredd a lleithder cywir. Mae gwresogydd, system chwistrellu a motor ffenestr wedi’u gosod yn y tŷ gwydr ac mae’r rhain hefyd wedi’u cysylltu â’r cyfrifiadur.

Os bydd y lleithder yn mynd yn is na’r gwerthoedd sydd wedi’u storio yn y rhaglen, bydd y cyfrifiadur yn cychwyn y system chwistrellu ac yn cau’r ffenestri. Os bydd y tymheredd yn mynd y tu allan i’r gwerthoedd sydd wedi’u storio yn y rhaglen, bydd y cyfrifiadur yn cychwyn y gwresogydd.

Tŷ gwydr sy’n defnyddio synwyryddion i reoli system chwistrellu, gwresogyddion, gosodiadau lleithder a motor ffenestr.

Mae’r system yn monitro’r amodau drwy’r dydd a’r nos ac yn ymateb ar unwaith i unrhyw newidiadau. Mae’n bosibl newid y rhaglen gyfrifiadurol wrth gwrs er mwyn newid yr amodau tyfu.