Logio data a rheoliRôl cyfrifiaduron wrth reoli

Mae TGCh yn cael ei defnyddio i reoli a monitro sawl agwedd ar ein bywydau ac mae gan systemau rheoli lawer o fanteision o’u cymharu â phobl.

Part ofTGChLogio data a rheoli

Rôl cyfrifiaduron wrth reoli

  • Gall cyfrifiaduron ymateb yn gyflym iawn i newid.
  • Gall systemau redeg 24 awr y diwrnod, 365 diwrnod y flwyddyn.
  • Gall systemau rheoli weithio mewn lleoedd y byddai’n beryglus neu’n anodd i bobl fynd iddyn nhw.
  • Mae’r yn gyson a heb wallau.
  • Gall cyfrifiaduron brosesu data yn gyflym a gall peiriannau weithio’n gyflymach na phobl.

Mae cyfrifiaduron yn cael eu defnyddio heddiw i reoli llawer o fathau o ddyfeisiau, er enghraifft:

  • systemau aerdymheru a gwres canolog mewn adeiladau mawr
  • systemau diogelwch a larymau lladron
  • prosesau gweithgynhyrchu
  • goleuadau traffig a chroesfannau cerddwyr
Synwyryddion rheoli traffig yn trosglwyddo adborth o synhwyrydd i weithfan i weinydd.