Enghraifft o logio data
Mae’r enghraifft hon yn pennu pa mor gyflym mae dŵr yn oeri o’r berwbwynt.
- Mae synhwyryddDyfais sy’n mesur meintiau ffisegol ac yn eu trosi’n signalau i gael eu darllen a’u dehongli. tymheredd yn cael ei roi yn yr hylif.
- Mae’r synhwyrydd wedi’i gysylltu â blwch rhyngwyneb sydd wedi’i gysylltu â’r cyfrifiadur.
- Mae’r meddalweddY rhaglenni, apiau a data sydd mewn system gyfrifiadurol. Unrhyw ran o system gyfrifiadurol sydd ddim yn rhan ffisegol.logio dataY weithred o gofnodi data yn gyson. yn cael ei gosod i gymryd darlleniadau bob 30 eiliad (cyfwng amser) am 25 munud (cyfnod logio).
Arbrawf i gofnodi dŵr yn oeri
Fel arfer, bydd y feddalwedd logio data yn storio’r darlleniadau mewn tabl. Mae’n bosibl dadansoddi’r data yn nes ymlaen gan ddefnyddio offer graffiau.
Cromlin oeri – enghraifft o graff wedi’i greu drwy logio data
Graff y byddai’n bosibl ei ddefnyddio yn yr arbrawf hwn yw graff cromlin oeri. Mewn graff fel hyn byddai amser ar yr echelin X a thymheredd ar yr echelin Y. Byddai cromlin yn cael ei llunio i gynrychioli pa mor gyflym y gwnaeth y dŵr oeri.