Ysgrifennu am gyd-destun
Wrth ysgrifennu am gyd-destun, dwyt ti ddim i fod i roi gwers hanes. Efallai y bydd angen rhoi ffaith hanesyddol, ond dylai fod yn gysylltiedig â phwynt rwyt ti’n ei wneud am y cynhyrchiad dan sylw.
Meddylia am ymateb Hen i’w gyfnod yn y Falklands. Gallet ti ysgrifennu fel hyn:
Bu Hen yn ymladd yn rhyfel y Falkands yn 1982 ac mae hynny wedi cyfrannu’n uniongyrchol at ei Anhwylder Pryder Ôl-Drawmatig a’i feddwl bregus. Mae’r dramodydd wedi dewis cymeriad sy’n filwr sydd â chreithiau emosiynol i wneud pwynt am effaith hirdymor rhyfel. Mae Hen yn dal i ddioddef effaith y frwydr 30 mlynedd yn ddiweddarach fel mae ei ôl-fflachiadau i’r cyfnod hwnnw’n dangos. Mae hefyd wedi aberthu ei berthynas gyda’i ferch gan ei fod i ffwrdd yn ymladd pan oedd hi’n ferch fach, a dyma un o themâu allweddol y ddrama.
Ddylet ti ddim ysgrifennu fel hyn:
Ar 2 Ebrill 1982, goresgynnodd yr Ariannin Ynysoedd y Falklands, trefedigaeth bellennig yn eiddo i’r DU yn ne Môr Iwerydd. Arweiniodd hyn at ryfel byr ond ffyrnig. Ymladdodd Hen yn y rhyfel hwn fel milwr ifanc. Yn ystod y brwydro, bu farw 655 o filwyr yr Ariannin a 255 o filwyr Prydain, a hefyd tri o breswylwyr ynysoedd y Falklands.
Mae dy ffeithiau’n dal i fod yn gywir yn yr ail fersiwn ond dwyt ti ddim yn eu cysylltu â’r effaith theatrig. Cofia, wrth ysgrifennu am berfformiad, fod rhaid i ti gysylltu dy bwynt a dy brawf a gwneud sylwadau priodol fel gydag unrhyw fath arall o ysgrifennu.
Dylet ti bob amser ystyried beth oedd cymhelliad y dramodydd i greu’r gwaith a pharchu bwriadau’r dramodydd wrth berfformio’r gwaith.
Y dramodydd Arthur Miller yn esbonio cyd-destun ei ddrama The Crucible, a addaswyd i’r Gymraeg fel Y Crochan