Byd y ddramaCyd-destunau Mwnci ar Dân

Byd y ddrama ydy'r cyd-destun diwyllianol a hanesyddol, yn ogystal â sefyllfa a pherthnasoedd y cymeriadau. Gallwn ni ailddehongli hen ddramâu gan newid eu cyfnod a'u lleoliad.

Part ofDramaYsgrifennu am ddrama a theatr

Cyd-destunau Mwnci ar Dân

Cyd-destun drama ydy’r sefyllfa lle mae rhywbeth yn digwydd sy’n dy helpu i’w deall. Mae’r ddrama, Mwnci ar Dân gan Sera Moore Williams wedi ei gosod mewn ystâd o dai modern. Ond ceir sawl cyfeiriad at Ryfel y Falklands a ddigwyddodd yn 1982 gan fod cymeriad Hen yn filwr yn y frwydr. Mae’n bwysig felly gofio bod cysgod rhyfel yn bresennol drwy gydol y ddrama. Nid yn unig pan fydd Hen, sy’n dioddef o Anhwylder Pryder Ôl-Drawmatig (PTSD), yn ail-fyw ei brofiadau dirdynnol ond hefyd yn uchelgais Mwnci i ymuno â’r fyddin.

Mae Mwnci a Hen yn cyfarfod am fod merch Hen yn byw drws nesaf i Mwnci. Mae Hen yn cysgu allan yn yr ystâd yn y gobaith o gymodi â’i ferch, Megan. Dydyn ni byth yn gweld Megan ac mae Hen yn gwibio’n ôl ac ymlaen rhwng y gorffennol a’r presennol wrth iddo ail-fyw blynyddoedd anodd y rhyfel. Gallen ni ystyried mai fe ydy Mwnci yn y dyfodol pe bai uchelgais y gŵr ifanc o ymuno â’r fyddin yn cael ei gwireddu. Mae’n arwyddocaol mai Hen ydy enw’r cymeriad. Gallai hyn ddisgrifio sut mae Mwnci, sy’n llanc 17 oed, yn meddwl am y cyn-filwr 48 oed.

Actorion yn perfformio yn Mwnci ar Dân, Arad Goch, 2008
Image caption,
Actorion yn perfformio yn Mwnci ar Dân, Arad Goch, 2008 LLUN: Andy Freeman/Arad Goch

Mae Shell yn disgwyl babi Mwnci ond yn anffodus dydy Mwnci ddim am wynebu cyfrifoldeb fod yn rhiant. Mae’n dweud wrth Shell am ffonio rhywun i gymryd gofal o’r sefyllfa. Er mwyn ei atal rhag ei gadael hi ac ymuno â’r fyddin mae hi’n penderfynu ei gyhuddo o ddwyn eitemau o siop. Mewn gwirionedd, hi sydd wedi eu dwyn.

Mae’r tri chymeriad yn dlawd ac yn llawn gofidiau. Mae Hen yn ddigartref ac yn dioddef o Anhwylder Pryder Ôl-Drawmatig, mae Mwnci wedi cael diagnosis o Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD) ac wedi cael Gorchymyn Ymddygiad Gwrthgymdeithasol () am ymddygiad gwrthgymdeithasol ac mae Shell, sydd dan oed, yn cuddio ei beichiogrwydd. Gallet ti ddweud felly fod hon yn ddrama sy’n cael ei symbylu gan broblemau cymdeithasol, a’i bod yn sylwebaeth am gymdeithas fodern sy’n mynd â’i phen iddi.

Mae pob cymeriad hefyd eisiau rhywbeth - mae Mwnci’n dymuno dianc i’r fyddin, mae Hen am gymodi â’i ferch ac mae Shell am i Mwnci ei charu. Ond dydy’r cymeriadau ddim yn cael yr hyn maen nhw’n ei ddymuno felly mae’n ymddangos bod y ddrama hon yn cyfleu neges bod dyheu am bethau gwell yn ddibwrpas yn y pen draw.

Mae themâu dieithrio teuluol a diffyg cyfrifoldeb rhieni yn frith drwy’r ddrama. Arwydd clir o hyn yw’r crys-t, un o’r eitemau mae Shell wedi ei ddwyn, sydd â’r slogan ‘Who’s the Daddy?’ arno. Gallai’r tegan meddal mae Hen a Shell yn cydio ynddo hefyd fod yn symbolaidd gan gynrychioli diniweidrwydd neu blentyndod coll.