Byd y ddrama ydy'r cyd-destun diwyllianol a hanesyddol, yn ogystal â sefyllfa a pherthnasoedd y cymeriadau. Gallwn ni ailddehongli hen ddramâu gan newid eu cyfnod a'u lleoliad.
Roedd cynhyrchiad Kenneth Brannagh o Macbeth yn 2013 yn portreadu’r gwrachod mewn ffordd angerddolEnnyn emosiwn dwfn a phwerus. a hynod o frawychus. Cafodd y cynhyrchiad ei lwyfannu mewn hen gapel Cristnogol a oedd yn cyferbyniadGosod dau neu fwy o syniadau/delweddau gwahanol nesaf at ei gilydd er mwyn creu ystyr arall ar gyfer y gynulleidfa. diddorol ac effeithiol â’r gwrachod paganaiddPagan ydy rhywun sydd ddim yn credu mewn duw neu dduwiau’r prif grefyddau..
Image caption,
Y gwrachod o gynhyrchiad Kenneth Branagh o Macbeth, 2013 LLUN: Johan Persson/ArenaPAL
Mae’r clip Saesneg hwn yn dangos enghraifft o ailddehongli Macbeth. Mae’r cynhyrchiad wedi ei osod mewn lleoliad trefol modern ac mae cymeriad Macbeth yn filwr.