Byd y ddramaGosod cyd-destun y ddrama ar y llwyfan

Byd y ddrama ydy'r cyd-destun diwyllianol a hanesyddol, yn ogystal â sefyllfa a pherthnasoedd y cymeriadau. Gallwn ni ailddehongli hen ddramâu gan newid eu cyfnod a'u lleoliad.

Part ofDramaYsgrifennu am ddrama a theatr

Gosod cyd-destun y ddrama ar y llwyfan

Un o’r pethau sy’n peri syndod am ddrama Shakespeare ydy’r ffaith ein bod ni’n cydymdeimlo â Macbeth erbyn y diwedd er ei fod yn gymeriad llwgr a drwg. Mae hyn oherwydd ein bod ni fel cynulleidfa yn clywed ei feddyliau a’i deimladau dyfnaf. Rydyn ni hefyd yn condemnio ei weithredoedd ac yn derbyn bod rhaid iddo farw ar ddiwedd y ddrama. Dyma gymeriad y gwrtharwr sy’n boblogaidd mewn drama a ffilm.

Yng nghyfnod Shakespeare roedd diddordeb mawr mewn dyneiddiaeth, sef gofal am y ddynoliaeth ac roedd pobl yn arddel rheswm yn hytrach na ffydd grefyddol. Mae Macbeth yn gwrthod dynoliaeth ac yn dangos y math o benbleth mae llawer yn ei wynebu ar ffurf ddramatig.

Cofia fod gwybod y cyd-destun yn helpu pobl i ddeall y ddrama’n well ond dydy hynny ddim yn rhwystr i ddehongliad y cyfarwyddwr - mae’n cyfrannu ato.

Cymeriad Shakespeare, Macbeth wedi ei labelu: Hawdd ei dwyllo, Uchelgeisiol, Ofergoelus