Byd y ddrama ydy'r cyd-destun diwyllianol a hanesyddol, yn ogystal â sefyllfa a pherthnasoedd y cymeriadau. Gallwn ni ailddehongli hen ddramâu gan newid eu cyfnod a'u lleoliad.
Beth am gymdeithas y cyfnod? Pan fyddwn ni’n sôn am y cyfnod, mae angen i ni gofio bod y ddrama Macbeth wedi ei gosod yn y gorffennol, hyd yn oed yn oes Shakespeare. Roedd hyn yn rhoi rhywfaint o ryddid iddo o ran yr hyn roedd yn ei ddweud. Roedd y Macbeth go iawn yn frenin ar yr Alban yn yr 11eg ganrif. Ond roedd trais yn gyffredin yn y ddau gyfnod. Mae cymdeithas Macbeth yn hierarchaiddSystem sy'n trefnu aelodau cymdeithas neu gyfundrefn yn ôl eu statws neu eu hawdurdod. iawn, gan olygu bod arwyddocâd mawr i’r frwydr am y goron.
Mae’r clip Saesneg hwn yn sôn am gynulleidfa Shakespeare ac agweddau cymdeithasol yr oes
Roedd cynllun seddi’r theatr yn adlewyrchu natur cymdeithas ar y pryd. Roedd y ‘groundlings’, y bobl oedd yn prynu’r tocynnau rhataf ac yn sefyll o flaen y llwyfan, ar waelod hierarchiaeth cymdeithas a oedd â system ddosbarth gref. Roedd yr arglwyddi yn eistedd ar seddi â chlustogau i fyny yn yr oriel uchaf. Roedd y theatr yn sylwebydd cymdeithasol pwysig yn oes Shakespeare, felly dydy hi ddim yn syndod fod y theatr yn microcosmCymuned, lle neu sefyllfa sy'n crynhoi nodweddion rhywbeth llawer mwy, ee mae hi'n bosib disgrifio ysgol fel microcosm o gymdeithas. o’i fyd.
Image caption,
Darlun o theatr yn ystod oes Elisabeth yn dangos perfformiad o Hamlet LLUN: The Bridgeman Art Library/Getty