Lleoliad drama
Dyma’r amser neu’r cyfnod y mae’r ddrama wedi ei gosod ynddo, ynghyd â’r lleoliad daearyddol. Yn achos Mwnci ar Dân, y lleoliad ydy ystâd o dai tlawd sy’n swnio’n ddigon digalon, sef Park View yng Nghymru. Mae’r disgrifiad yn dweud bod y tai wedi eu gorchuddio â graffiti
. Mae byd y ddrama hon yn aros yn gadarn o fewn yr ystâd dai heb symud allan ohoni o gwbl. Dim ond y tu allan i rif 13 ac 15 Park View, ystafell wely Shell a’r parc mae’r gynulleidfa yn eu gweld. Mae hyn yn trwytho’r gynulleidfa ym myd y cymeriadau ac yn awgrymu nad oes modd iddyn nhw ddianc.
Mae’r ffaith bod Hen yn cysgu allan ac yn ddigartref a bod Shell yn dwyn o siopau pan fydd angen rhywbeth arni hefyd yn pwysleisio tlodi’r cymeriadau. Byddai modd dweud bod hwn yn lleoliad llwm ond mae fflachiadau o obaith pan fydd Mwnci, sy’n gymeriad angerddol, yn siarad am ddianc i fywyd gwell, er bod y gobaith hwn wedi ei ddryllio gan Shell erbyn diwedd y ddrama.
Gallet ti ddadlau mai ‘lleoliad’ arall i’r ddrama ydy maes y gad yn Rhyfel y Falklands gan fod Hen yn ail-fyw ei brofiadau fel milwr drwy’r ddrama: Duo’n wynebe. Brige ‘nglŵm i’n helmede. Landing craft. Mwy fel bwced na cwch. Sefyll yn y tywyllwch fel sardîns mewn tun. Ysgwydd wrth ysgwydd. Yn dishgwl am yr ordor i redeg i’r traeth. Ofn.

Iaith a hiwmor
Mae’r ddrama’n defnyddio iaith anffurfiol, gyda thafodiaith de Cymru gyda Mwnci yn enwedig yn defnyddio bratiaithDefnyddio geiriau ac ymadroddion sydd ddim yn gywir neu'n safonol. ac idiomau Saesneg: Moyn i bethe gico off y’t ti?
Mae iaith Hen yn fwy barddonol, gan ddefnyddio ansoddeiriau a disgrifiadau lliwgar wrth ail-fyw ei orffennol: Pob dim yn troi’n glaer llachar wyn. Ac wedi ‘ny, tywyllwch. All hell breaks loose ma’n debyg. Ond wi’n cofio dim.
Mae yna hiwmor sych hefyd yn frith drwy’r ddrama. Mae Mwnci’n dweud wrth Hen er enghraifft: Wi ddim angen alci mewn bra i ddysgu dim i fi.
Ac mae Shell feichiog hefyd yn ennyn chwerthin gyda’r frawddeg chwerw-ddoniol hon: Fyddai byth yn cael footballer nawr fydda i?