Byd y ddramaCyd-destun Macbeth: cymdeithas, hanes a diwylliant

Byd y ddrama ydy'r cyd-destun diwyllianol a hanesyddol, yn ogystal â sefyllfa a pherthnasoedd y cymeriadau. Gallwn ni ailddehongli hen ddramâu gan newid eu cyfnod a'u lleoliad.

Part ofDramaYsgrifennu am ddrama a theatr

Cyd-destun cymdeithasol, hanesyddol a diwylliannol Macbeth

Mae modd i ti gynnig dehongliad sy’n aros yn agosach at gyd-destunau gwreiddiol y ddrama a gallu siarad â chynulleidfa fodern o hyd. I wneud hyn, mae angen i ti edrych yn ofalus ar gyd-destun cymdeithasol, hanesyddol a diwylliannol y cyfnod yr ysgrifennwyd y ddrama ynddo.

Drama am frenin yn yr Alban hynafol ydy Macbeth sy’n troi at ddrygioni i geisio sicrhau grym. Mae’n derbyn bod rhaid iddo gyflawni llofruddiaeth os ydy am gipio’r orsedd. Nid oedd y ffigur hanesyddol gwirioneddol hanner cynddrwg â Macbeth yn y ddrama ond roedd Shakespeare yn ceisio ennill ffafriaeth i’w gwmni theatr drwy blesio’r brenin newydd, Iago I. Llwyddodd i wneud hyn drwy gynnwys y themâu canlynol yn y ddrama:

  • ei lleoliad yn yr Alban
  • gwneud Macbeth yn ddrwg
  • gwneud Banquo yn ddyn da gan fod Iago yn meddwl ei fod yn un o’i gyndadau
  • defnyddio dewiniaeth yn y ddrama gan fod y Brenin wedi ysgrifennu llyfr ar y pwnc ac yn ei ystyried ei hun yn dipyn o arbenigwr

Roedd dewiniaeth yn rhywbeth oedd yn cael ei gymryd o ddifrif yn oes Shakespeare. Byddet ti ymhell ohoni pe baet ti’n beirniadu defnyddio dewiniaeth yn y ddrama fel rhywbeth dwl neu blentynnaidd. Efallai y byddai gen ti sylwadau am y ffordd y cafodd y pwnc ei gyflwyno, ond fyddai hi ddim yn deg beirniadu’r ffaith ei fod wedi ei gynnwys yn y ddrama.

Mae’r clip Saesneg hwn yn edrych ar gredoau ac ofergoelion oes Shakespeare