Byd y ddramaPerfformio’n driw i’r cyd-destun

Byd y ddrama ydy'r cyd-destun diwyllianol a hanesyddol, yn ogystal â sefyllfa a pherthnasoedd y cymeriadau. Gallwn ni ailddehongli hen ddramâu gan newid eu cyfnod a'u lleoliad.

Part ofDramaYsgrifennu am ddrama a theatr

Perfformio’n driw i’r cyd-destun

Mae’n hanfodol fod dy waith yn driw i gyd-destun y ddrama wrth i ti ei pherfformio. Mae hyn yn amlwg os ydy wedi ei lleoli mewn cyfnod penodol, megis Brad gan Saunders Lewis sydd wedi ei gosod yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Ond byddai hefyd yn wir os ydy’r ddrama wedi ei gosod mewn lleoliad modern penodol. Felly am beth ddylai’r perfformiwr fod yn meddwl?

Betsan Llwyd yn actio yn y ddrama Y Wisg Sidan, Ffilmiau Llifon, S4C
Image caption,
Betsan Llwyd yn actio yn y ddrama Y Wisg Sidan, Ffilmiau Llifon, S4C LLUN: S4C/Ffilmiau Llifon

Gwisg

Os bydd gen ti sgert hir neu os byddi di’n gwisgo o oes Fictoria, ee yn y ddrama, Y Wisg Sidan, neu ddwbled a chlos cyfnod Shakespeare, bydd hyn yn cael effaith fawr ar dy symudiadau. Does dim modd i ti ymlacio mewn cadair esmwyth os byddi di’n gwisgo esgyrn morfil o gwmpas dy frest.

Cymeriad Shakespearaidd gyda swigen siarad yn dweud: "Cuddied yr wyneb ffals beth a ?yr y ffals ei galon."

Siarad

Mae Mwnci ar Dân yn defnyddio tafodiaith a bratiaith i helpu’r gynulleidfa i ddeall y lleoliad modern, felly mae angen meistroli hyn.

Iaith

Os wyt ti’n dyfeisio darn o theatr, cofia y bydd ansawdd yr iaith rwyt ti’n ei defnyddio o gymorth i greu’r cyd-destun cywir ac ymdeimlad o gyfnod os oes angen. Efallai y bydd angen i’r actor ddefnyddio slang neu acen benodol i nodi dosbarth neu gefndir. Er enghraifft fyddet ti ddim yn defnyddio Cymraeg lenyddol ffurfiol ar gyfer cymeriadau ifanc ‘streetwise’. A fyddet ti ddim yn defnyddio bratiaith neu eirfa fodern os byddi di’n portreadu cymeriad o’r 19eg ganrif.

Cymeriad Fictoraidd crand, gyda swigen siarad yn dweud: "Henffych well it!"

Acen

Cofia nad ydy hyn yn ymwneud â dy farn bersonol di am acen ac a ydy unrhyw acen benodol yn fwy neu’n llai dymunol na Chymraeg ffurfiol. Mae’n ymwneud â defnyddio’r llais a’r acen sy’n briodol i’r cymeriad rwyt ti’n ei chwarae a’i gyd-destun cymdeithasol.

Munudau allweddol

Meddylia am yr olygfa lle mae Hen ar fin ei saethu ei hun ar ddiwedd y ddrama. Mae’n olygfa amwys oherwydd does dim cyfarwyddyd i ychwanegu sain ergyd gwn ac mae’r ddrama’n torri i dywyllwch a cherddoriaeth cyn i ni weld a ydy Hen wedi ei ladd ei hun. Byddai’r amwyster hwn yn golygu mai’r gynulleidfa sy’n penderfynu a yw Hen wedi ei saethu ei hun ai peidio. Mae’n olygfa ddramatig allweddol a thasg yr actor ydy amlygu darnau pwysig o’r ddrama heb eu gor-wneud. Mae’r cyfarwyddwr yn medru defnyddio techneg megis saib dramatig i amlygu munudau allweddol yn y perfformiad.