Dysgwch sut i ddweud yr amser yn Gymraeg gyda help y gwcw grawclyd! Mae hi'n 'amser' chwarae...
Sut i chwaraeDewiswch naill ai'r adran Ymarfer neu Chwarae.
Ymarfer: Dysgwch sut i ddweud yr amser yn Gymraeg drwy symud bysedd y cloc. Cliciwch ar y botwm CHWARAE i glywed sut i ddweud yr amser yn Gymraeg. Cliciwch ar y botwm DANGOS Y GEIRIAU i weld y geiriau.
Chwarae: Cliciwch ar y botwm CHWARAE i wrando ar yr amser. Yna symudwch fysedd y cloc i'r amser cywir. Cewch chi geisio ddwy waith, wedyn bydd y cloc yn dangos yr amser cywir i chi. Bydd y gwcw yn rhoi'r sgôr i chi.
Cliciwch yma i fynd i weithgaredd Tic Toc
Cysyllytiad â'r cwricwlwmDyma gêm apelgar a rhyngweithiol i ymarfer sut i ddweud yr amser yn Gymraeg gan ddefnyddio'r thema Yr Amser. Ceir tair lefel yn y gêm hon, sy'n ymarfer y canlynol:
- Lefel 1: ar yr awr a hanner awr wedi'r awr
- Lefel 2: chwarter wedi/chwarter i/munudau wedi/munudau i'r awr
- Lefel 3: cyfuniad o'r ffurfiau uchod
Yn yr ystafell ddosbarth
Gellir defnyddio Tic Toc yn annibynnol neu fel gweithgaredd dosbarth. Anogwch y myfyrwyr i fynd i'r adran Ymarfer yn gyntaf, cyn gweithio drwy'r lefelau gwahanol yn yr adran Chwarae.
Pan ydych chi'n hyderus fod y myfyrwyr yn gallu dweud yr amser, dewch â'r cloc yn fyw yn yr ystafell ddosbarth drwy ofyn i'r plant ddefnyddio eu breichiau i gynrychioli bysedd y cloc.
Dangoswch yr adran Chwarae ar y bwrdd gwyn rhyngweithiol gan ddefnyddio'r botwm sgrîn lawn, cliciwch ar y botwm sy'n fflachio a gofynnwch i'r myfyrwyr wrando ar y sain. Nawr, dylai'r myfyrwyr symud eu breichiau i gynrychioli'r amser cywir maent newydd ei glywed.
Yn seiliedig ar yr hyn mae'r rhan fwyaf o'r dosbarth yn ei ddangos gyda'u breichiau, gofynnwch i un plentyn symud bysedd y cloc ar y bwrdd gwyn rhyngweithiol i gyd-fynd â barn ei gyfoedion a derbyn adborth gan y gwcw.
Pe dymunir, gellir dangos y testun fel cymorth ychwanegol drwy glicio ar y botwm 'Dangos y geiriau'.