Mae Jamie'n hoffi jamio ar ei gitâr drydan! Cliciwch ar y gair cywir ar y sgrîn neu bydd Jamie'n torri tant!
Sut i chwaraeProfwch sgiliau jamio Jamie! Cliciwch ar y gair cywir ar y sgrîn gyfrifiadur. Os bydd yr ateb yn gywir, bydd Jamie yn jamio i chi. Os byddwch chi'n anghywir bydd Jamie'n torri tant a byddwch chi'n colli bywyd. Bydd y cwestiwn yn ailymddangos ac yn rhoi cyfle i chi geisio eto. Gallwch wrando ar y brawddegau dro ar ôl tro drwy symud y llygoden dros y geiriau.
Cliciwch yma i fynd i weithgaredd Jamie'n Jamio
Cysylltiad â'r cwricwlwmGan ddefnyddio'r thema Y Byd o'n Cwmpas, mae'r gêm hon yn ffordd hwyliog a rhyngweithiol i ymarfer cwblhau brawddegau yn Gymraeg drwy gymharu geiriau gwrthgyferbyniol. Ceir pedair lefel, sy'n ymarfer y canlynol:
- Lefel 1: person cyntaf a'r trydydd person presennol (ffurf gwmpasog)
- Lefel 2: yr amser presennol (ffurf gwmpasog) + amser
- Lefel 3: person cyntaf gorffennol (ffurf gryno)
- Lefel 4: cyfuniad o'r uchod
Yn yr ystafell ddosbarth
Gellir defnyddio Jamie'n Jamio yn annibynnol neu fel gweithgaredd dosbarth. Gwnewch yn siŵr fod y myfyrwyr wedi dysgu'r eirfa berthnasol yn y gêm. Isod, ceir detholiad o'r geiriau a ddefnyddir yn y gêm isod.
Rhannwch y myfyrwyr yn grwpiau o bedwar ac, yn ddibynnol ar eu gallu, gofynnwch iddynt chwarae lefel arbennig, neu bob un o'r lefelau yn Jamie'n Jamio. Mae'r cwestiynau wedi'u dewis ar hap, felly os ydynt yn colli eu tri bywyd cyn gorffen y deg cwestiwn sydd ym mhob lefel, anogwch nhw i geisio eto ac anelu am y sgôr uchaf posibl. Bydd hyn yn atgyfnerthu'r patrymau iaith a'r eirfa.
Nawr, rhowch ddechrau nifer o wahanol frawddegau i hanner y dosbarth. Yn ddelfrydol, dylid seilio'r iaith yn y brawddegau ar yr eirfa mae'r myfyrwyr wedi ei dysgu yn y gêm. Rhowch ail ran y brawddegau i weddill y dosbarth.
Gofynnwch i'r myfyrwyr chwilio am bartner gyda hanner arall eu brawddegau. Os oes unrhyw gyfuniadau sy'n creu brawddegau annisgwyl, ac yn gadael rhai gyda brawddegau diystyr, yna awgrymwch eu bod yn ffeindio partneriaid mwy addas fel bod gennych gyflenwad llawn o frawddegau. Gellir ailadrodd y dasg hon mor aml ag y dymunir gyda chynifer o frawddegau ag yr hoffech.
Pan mae'r myfyrwyr wedi llwyddo i gael hyd i hanner arall eu brawddegau, gofynnwch iddynt recordio eu brawddegau cyflawn gyda'u partneriaid. Gofynnwch i'r parau wrando ar eu brawddegau eto ac ysgrifennu ystyr eu brawddegau Cymraeg yn Saesneg. Yn eu tro, gall y parau ddarllen eu brawddegau Cymraeg a Saesneg am yn ail ar goedd i weddill y dosbarth.
| Cymraeg | Saesneg |
| cario | to carry |
| dysgu | to learn, to teach |
| glaw | rain |
| gwynt | wind |
| ar y cyfrifiadur | on the computer |
| Cymraeg | Saesneg |
| yn yr ardd | in the garden |
| gwylio | to watch |
| beicio | to cycle |
| eira | snow |
| bwyta | to eat |
| Cymraeg | Saesneg |
| dringo | climb |
| coeden | tree |
| blodyn | flower |
| gwisgo | to wear |
| Cymraeg | Saesneg |
| yn yr haf | in the summer |
| menig | gloves |
| yn y gaeaf | in the winter |
| llaeth | milk |
| Cymraeg | Saesneg |
| clywais i | I heard |
| rhaglen | programme |
| bwytais i | I ate |
| mwynheais i | I enjoyed |
| es i | I went |
| canolfan hamdden | leisure centre |
| nofiais i | I swam |
| Cymraeg | Saesneg |
| archfarchnad | supermarket |
| gwyliais i | I watched |
| chwaraeais i | I played |
| cysgais i | I slept |
| stafell wely | bedroom |
| cegin | kitchen |
| sâl | ill, sick |
| Cymraeg | Saesneg |
| sglefrfyrddio | to skateboard |
| prynu | to buy |
| brechdanau | sandwiches |
| selsig | sausages |
| chwaer | sister |
| tîm | team |
| bechgyn | boys |
| merched | girls |
| Cymraeg | Saesneg |
| rhedais i | I ran |
| yn gyflym | fast, quickly |
| cadw | to keep |
| heini | fit |
| tywyll | dark |
| golau | light |
| prynais i | I bought |
| awyr | air, sky |