Gwybodaeth: DJ Dawnus - Penigamp


Dyma'ch cyfle i fod yn gynhyrchydd recordiau llwyddiannus! Gwyliwch a gwrandewch wrth i'r DJ fynd trwy'i bethau a helpwch ef i fynd i dop y siartiau.

Sut i chwarae

Dewiswch thema, yna drwy esgus fod yn gynhyrchydd recordiau, darllenwch y brawddegau wrth iddyn nhw ymddangos ar y sgrîn. Rhowch y brawddegau i mewn i'r categori cywir drwy glicio ar y botymau ar waelod desg gymysgu DJ Dawnus pan fydd y geiriau allweddol yn ymddangos ar y sgrîn. Po fwyaf o atebion cywir a roddir, mwya'n byd o recordiau sy'n cael eu gwerthu gan DJ Dawnus!

Gallwch chi wrando ar y brawddegau ar ddiwedd y gêm, a gwirio'r atebion cywir drwy glicio ar y botymau ar waelod y sgrîn. Mae'r brawddegau yn ymddangos ar hap bob tro.

Cliciwch yma i fynd i weithgaredd DJ Dawnus

Cysylltiad â'r cwricwlwm

Dylai'r gêm hon ddatblygu sgiliau darllen, a thrwy ddefnyddio cwestiynau casgliadol mae'n annog plant i gysylltu geirfa o un thema â thema arall. Defnyddir y themâu canlynol yn y gêm hon:

  • Lliwiau + eitemau pob dydd
  • Tywydd + tymheredd
  • Siopa + nwyddau
  • Dathlu a gwyliau + tymhorau

Er bod y gweithgaredd hwn yn addas ar gyfer plant 7-11 oed sy'n dysgu Cymraeg Ail Iaith yng Nghyfnod Allweddol 2, mae'r iaith a'r cysyniad o gwestiynau casgliadol yn fwy addas ar gyfer dysgwyr 9-11 oed.

Yn yr ystafell ddosbarth

Gellir defnyddio DJ Dawnus yn annibynnol neu fel gweithgaredd dosbarth. Gwnewch yn siŵr fod y myfyrwyr wedi dysgu'r eirfa berthnasol yn y gêm. Isod, ceir detholiad o'r geiriau a ddefnyddir yn y gêm.

Dyma rai awgrymiadau ar gyfer gweithgareddau pellach yn seiliedig ar themâu'r gêm:

  • Lliwiau: Gofynnwch i'r myfyrwyr ysgrifennu gosodiadau i'r cwestiynau yn y gêm, ee Mae'r tomato yn goch; Mae'r igwana yn wyrdd; Mae'r haul yn felyn etc.

  • Tywydd: Ymarferwch y gair achos drwy ofyn i'r myfyrwyr gysylltu'r themâu mewn brawddegau, ee Mae mam yn gwisgo sgarff achos mae hi'n oer; Roedd Anna yn gwisgo sbectol achos roedd hi'n boeth; Bydd Owain yn prynu cennin pedr achos mae hi'n ddydd Gŵyl Dewi etc.

  • Siopa: Gofynnwch i'r myfyrwyr ysgrifennu paragraff byr am fynd i siopa, gan addasu'r brawddegau maent wedi eu dysgu yn y gêm.

  • Dathlu: Gofynnwch i'r myfyrwyr greu calendr ar y cyfrifiadur, gan nodi yr holl wyliau a dathliadau newydd maent wedi eu dysgu yn y gêm, yn ogystal â rhai eraill maent yn ymwybodol ohonynt eisoes.

CymraegSaesneg
siop esgidiaushoe shop
esgidiaushoes
siop farabakery
rôl gawscheese roll
siop ddilladclothes' shop
dathluto celebrate
gwanwyn spring
Rydyn ni'n dathlu...We celebrate...
Dydd Gŵyl DewiSt David's day
Eisteddfod Genedlaethol yr UrddNational Urdd Eisteddfod
Dydd Mawrth CrempogPancake day
hafsummer
Dydd Mawrth CrempogPancake day
Eisteddfod GenedlaetholNational Eisteddfod
diwrnod mabolgampausports' day
hydrefautumn
diolchgarwchthanksgiving
dechrau blwyddyn ysgolstart of the school year
Nos Galan GaeafHalloween
gaeafwinter
NadoligChristmas
Dydd Santes DwynwenSt Dwynwen's day
Dydd Guto FfowcGuy Fawkes' day
CymraegSaesneg
lliwiaucolours
Beth ydy lliw...?What colour is...?
draig CymruWelsh dragon
crys tîm rygbi CymruWelsh rugby team shirt
trwyn clownclown's nose
tywodsand
cennin pedrdaffodils
pyspeas
letyslettuce
gwisgoto wear
meniggloves
cerddedto walk
eirasnow
Dw i angen...I need...
sbectol haulsunglasses
torheuloto sunbathe
mwynhauto enjoy
Dw i eisiau...I want...
diod oercold drink
gwlybwet
cot lawanorak; raincoat
sblasioto splash
cigyddbutcher
cyw iârchicken
selsigsausages
cidog
asgwrnbone


Copyright © 2015 BBC.The BBC is not responsible for the content of external sites. Read more.

This page is best viewed in an up-to-date web browser with style sheets (CSS) enabled. While you will be able to view the content of this page in your current browser, you will not be able to get the full visual experience. Please consider upgrading your browser software or enabling style sheets (CSS) if you are able to do so.