Profwch sgiliau pêl-droed Llew! Gwnewch yn siŵr ei fod yn cadw'r bêl yn yr awyr trwy glicio ar yr ateb cywir.
Sut i chwaraeGwnewch yn siŵr fod Llew yn cadw'r bêl yn yr awyr trwy ateb y cwestiynau'n gywir. Cliciwch ar yr ateb iawn ar y bwrdd sgorio. Os dewiswch chi'r un cywir, bydd Llew yn perfformio tric a byddwch yn sgorio pwynt. Os ydych chi'n anghywir, bydd Llew yn gollwng y bêl a byddwch chi'n colli bywyd. Bydd y cwestiwn yn ailymddangos ac yn rhoi cyfle i chi geisio eto. Gallwch wrando ar y cwestiynau dro ar ôl tro drwy symud y llygoden dros y geiriau.
Cliciwch yma i fynd i weithgaredd Clic am Gic
Cysylltiad â'r cwricwlwmGan ddefnyddio'r thema Chwaraeon, mae'r gêm hon yn ffordd hwyliog a rhyngweithiol i ymarfer ateb yn garadarnhaol ac yn negyddol yn y Gymraeg. Ceir pedair lefel, sy'n ymarfer y canlynol:
- Lefel 1: ateb yn gadarnhaol gan ddefnyddio'r ffurfiau Oes, Ydw, Ydy
- Lefel 2: ateb yn negyddol gan ddefnyddio'r ffurfiau Nac oes, Nac ydw, Nac ydy
- Lefel 3: ateb yn gadarnhaol neu'n negyddol gan ddefnyddio'r ffurfiau yn Lefelau 1 a 2
- Lefel 4: defnyddio cyd-destun i ddewis atebion cadarnhaol neu negyddol
Yn yr ystafell ddosbarth
Gellir defnyddio Clic am Gic yn annibynnol neu fel gweithgaredd dosbarth. Ymarferwch y gwahanol ffyrdd o ateb yn gadarnhaol ac yn negyddol yn Gymraeg gyda'r myfyrwyr, gan sicrhau eu bod wedi dysgu'r eirfa berthnasol ar gyfer y gêm. Isod, ceir detholiad o'r geiriau a ddefnyddir yn y gêm.
Rhannwch y myfyrwyr yn grwpiau o bedwar ac, yn ddibynnol ar eu gallu, gofynnwch iddynt chwarae lefel arbennig, neu bob un o'r lefelau yn Clic am Gic. Mae'r cwestiynau wedi'u dewis ar hap, felly os ydynt yn colli eu tri bywyd cyn gorffen y 10 cwestiwn sydd ym mhob lefel, anogwch nhw i geisio eto ac anelu am y sgôr uchaf posibl. Bydd hyn yn atgyfnerthu'r patrymau iaith a'r eirfa.
Nawr, gofynnwch i'r grwpiau ysgrifennu cyfweliad chwaraeon ar gyfer sioe deledu, gan ddefnyddio'r iaith maent newydd ei dysgu. Gofynnwch i'r grwpiau actio a ffilmio'r cyfweliadau a'u dangos i weddill y dosbarth.
| Enwau Cymraeg | Enwau Saesneg |
| pêl-droed | football |
| pêl | ball |
| cwpwrdd | cupboard |
| gwisg nofio | swimsuit |
| pwll nofio | swimming pool |
| clwb chwaraeon | sports' club |
| gogls nofio | swimming goggles |
| ras | race |
| maes chwarae | playing field |
| esgidiau pêl-droed | football shoes |
| pêl-fasged | basketball |
| pêl-rwyd | netball |
| wal ddringo | climbing wall |
| Berfau Cymraeg | Berfau Saesneg |
| hoffi | to like |
| chwarae | to play |
| cefnogi | to support |
| sglefrio | to skate |
| mynd | to go |
| sglefrfyrddio | to skateboard |
| rhedeg | to run |
| dringo | to climb |
| gwylio | to watch |
| dawnsio creadigol | creative dancing |
| mwynhau | to enjoy |
| nofio | to swim |
| eisiau | to want |