Gwybodaeth: Caffi Glan Môr - Penigamp

Caffi Glan Môr



Dewch i weithio yng Nghaffi Glan Môr! Gwrandewch ar beth mae pawb eisiau a rhowch y bwyd iawn iddyn nhw.

Sut i chwarae

Dewch i weithio yng Nghaffi Glan Môr! Mae'r cwsmeriaid eisiau bwyd a diod. Gwrandewch ar beth mae pawb eisiau a rhowch y pethau iawn iddyn nhw. Pan mae cwsmer yn gofyn am fwyd neu ddiod, arhoswch iddo ymddangos, cliciwch ar yr eitem yn gyntaf ac yna ar y cwsmer. Rhowch y pryd cywir a byddwch chi'n sgorio pwynt. Rhowch un anghywir a byddwch chi'n colli bywyd. Noder bod lliwiau'r is-deitlau a'r cymeriadau yn cyd-fynd â'i gilydd.

Cliciwch yma i fynd i weithgaredd Caffi Glan Môr

Cysylltiad â'r cwricwlwm

Gan ddefnyddio'r thema Bwyd a Diod, mae'r gêm hon yn ymarfer y ffurfiau gramadegol Ga i...? a Dw i eisiau...

Yn yr ystafell ddosbarth

Gellir defnyddio Caffi Glan Môr yn annibynnol neu fel gweithgaredd dosbarth. Gwnewch yn siŵr fod y myfyrwyr wedi dysgu'r eirfa berthnasol yn y gêm. Isod, ceir detholiad o'r geiriau a ddefnyddir yn y gêm.

Yn seiliedig ar yr eirfa a ddefnyddir yn y gêm, gofynnwch i'r myfyrwyr ddefnyddio'r cyfrifiadur i greu bwydlen sy'n cynnwys lluniau o'r prydau ar werth ynghyd â rhestr brisiau. Argraffwch y bwydlenni a'u laminiadu. Nawr, rhannwch y myfyrwyr yn grwpiau bach a gofyn iddynt chwarae rôl fel cwsmeriaid a gweinwyr, gan ddefnyddio eu bwydlenni newydd.

Anogwch y myfyrwyr i ffilmio eu dramâu. Gellid ymarfer geirfa ehangach drwy ychwanegu bwydydd eraill, cyfarch a diolch, ac archebu ar ran rhywun arall, ee Mae fy chwaer eisiau...; Mae fy nhad eisiau...; Maen nhw eisiau... yn ogystal â phwyntiau gramadegol, megis os gwelwch yn dda; Dw i ddim eisiau..., achos dw i'n hoffi...; Dw i ddim eisiau..., ond dw i eisiau...; Beth ydych chi eisiau?; Ga i helpu?; Rhywbeth arall?; Ga i ddau/dri/bedwar... etc.

CymraegSaesneg
Ga i...?May I have...?
Dw i eisiau...I want...
dŵrwater
llaethmilk
brechdanausandwiches
cofficoffee
selsigsausages
cyw iârchicken
saladsalad
pwdinpudding
cawlsoup
byrgyrburger
hufen iâ siocledchocolate ice cream
hufen iâ mefusstrawberry ice cream
CymraegSaesneg
hufen iâ fanilavanilla ice cream
ci poethhotdog
teisen lemonlemon cake
sglodionchips
pitsapizza
lemonêdlemonade
ysgytlaethmilkshake
pysgodynfish
cacen siocledchocolate cake
omletomelette
iogwrtyoghurt
sudd orenorange juice
sudd pîn-afalpineapple juice


Copyright © 2015 BBC.The BBC is not responsible for the content of external sites. Read more.

This page is best viewed in an up-to-date web browser with style sheets (CSS) enabled. While you will be able to view the content of this page in your current browser, you will not be able to get the full visual experience. Please consider upgrading your browser software or enabling style sheets (CSS) if you are able to do so.