Ydych chi'n gallu dyfalu Pwy ydy Pwy?
Sut i chwaraeMae'r gêm 'Pwy ydy Pwy?' syml hon yn canolbwyntio ar sgiliau gwrando a darllen yn Gymraeg wrth i ddysgwyr geisio adnabod casgliad o gymeriadau o'r wybodaeth sydd wedi ei chynnwys ar gardiau adnabod personol. I ddechrau, dylai'r dysgwyr edrych ar ddetholiad o gardiau adnabod. Wedyn, yn seiliedig ar gliwiau ysgrifenedig neu sain, ac yn hwyrach ar gliwiau sain yn unig, rhaid iddynt ddyfalu pwy sy'n cael ei ddisgrifio. Po gywiraf mae'r defnyddwyr, y mwyaf o bwyntiau a enillir. Gellir chwarae yn erbyn y cloc pe dymunir ac mae fersiwn Gogledd Cymru neu De Cymru ar gael. Gellir argraffu tystysgrif bersonol, sy'n nodi enw, sgôr ac amser y defnyddiwr.
Cliciwch yma i fynd i weithgaredd Pwy ydy Pwy?
Cysylltiad â'r cwricwlwmCeir datblygiad naturiol o fewn y gweithgaredd hwn, sy'n herio sgiliau ieithyddol drwy gynnig cliwiau ysgrifenedig ynghyd â sain, cyn symud ymlaen i gliwiau sain yn unig. Gan ddefnyddio'r themâu Y Corff/Ffrindiau, mae'r gêm hon yn ymarfer y ffurfiau gramadegol Mae gen i... (NW) a Mae... 'da fi (SW), ac yn canolbwyntio ar yr eirfa ar gyfer disgrifio wynebau a lliw gwallt, yn ogystal ag oed, taldra a dillad. Noder fod dau fersiwn o'r gêm hon ar gael - fersiwn Gogledd Cymru a fersiwn De Cymru.
Yn yr ystafell ddosbarthGellir defnyddio Pwy ydy Pwy? yn annibynnol neu fel gweithgaredd dosbarth. Gwnewch yn siŵr fod y myfyrwyr wedi dysgu'r eirfa berthnasol yn y gêm. Isod, ceir detholiad o'r geiriau a ddefnyddir yn y gêm.
Fel ymarfer i'w paratoi, gallwch ofyn i'r myfyrwyr ddisgrifio'u hunain, eu ffrindiau neu eu hathrawon, drwy dynnu lluniau o'i gilydd ar gamera digidol er mwyn ymarfer y geiriau a'r strwythurau targed. Mewn parau, gofynnwch i'r myfyrwyr chwarae Pwy ydy Pwy? ar y cyfrifiadur ac argraffu eu tystysgrifau fel eich bod yn gallu asesu eu canlyniadau.
Nawr, gofynnwch i'r plant greu eu cymeriadau Pwy ydy Pwy? eu hunain. Rhowch y plant mewn parau eto. Heb ddangos dim byd i'r plentyn arall, gofynnwch i un myfyriwr dynnu llun pen a rhan uchaf y corff ac i'r myfyriwr arall dynnu llun rhan isaf y corff a'r traed, gan ychwanegu cyn gymaint o liwiau ac atodion â phosibl. Gludwch y ddau ddarlun at ei gilydd i ddatgelu eu cymeriadau/angenfilod/estroniaid personol etc.
Gofynnwch i'r myfyrwyr ysgrifennu cardiau adnabod gan nodi enw a phriodoleddau eu cymeriad. Dangoswch y lluniau ar y wal a dosbarthwch y cardiau adnabod gorffenedig i bawb yn y dosbarth. Ar gyfer y myfyrwyr llai abl, chwaraewch fersiwn syml o Pwy ydy Pwy? gyda'r athro neu'r athrawes yn galw cliwiau allan. Ar gyfer myfyrwyr mwy abl, gofynnwch iddynt greu cliwiau ar gyfer eu cymeriadau eu hunain a'u galw allan i'r dosbarth/grŵp.
| Cymraeg | Saesneg |
| Mae gen i... | I have... (NW) |
| Mae ... 'da fi | I have... (SW) |
| lliw gwallt | hair colour |
| lliw llygaid | eye colour |
| lliw croen | skin colour |
| steil gwallt | hair style |
| oedran | age |
| taldra | height |
| dillad | clothes |
| esgidiau | shoes |
| het wellt | straw hat |
| menig | gloves |
| Dw i'n mesur... | I measure |
| Cymraeg | Saesneg |
| esgidiau uchel | high heels |
| cyrliog | curly |
| brychni haul | freckles |
| lliw haul | tan |
| cadwyn | chain |
| clustdlws, clustdlysau | earring, earrings |
| clipiau gwallt | hair clips |
| ffrog fer | short dress |
| sach deithio | rucksack |
| crys-chwys | sweat-shirt |
| sgert fer | short skirt |
| mwclis | necklace |
| Dw i'n gwisgo | I'm wearing... |