Ewch air am air gyda'r cyfrifiadur. Faint o eiriau Cymraeg ydych chi'n gallu eu cofio?
Sut i chwaraeGêm i ymarfer y cof ydy Gair am Air, sy'n helpu myfyrwyr i ddysgu ac ymarfer geirfa Gymraeg gan ddefnyddio sain, delweddau a geiriau dros bedair lefel. I chwarae'r gêm, rhaid i'r dysgwyr ddewis lefel a thema. Mae'r cyfrifiadur wedyn yn dechrau'r gêm drwy ddewis gair ar hap. Dylai'r dysgwyr ymateb drwy glicio ar y gair mae'r cyfrifiadur wedi ei ddewis. Bydd y cyfrifiadur wedyn yn ailadrodd y gair cyntaf ac wedyn yn dewis gair arall. Rhaid i'r dysgwyr ailadrodd trefn y geiriau. Os ydy'r defnyddwyr yn dewis y dilyniant anghywir, maent yn colli'r gêm.
Cliciwch yma i fynd i weithgaredd Gair am Air
Cysylltiad â'r cwricwlwmDyma gêm ryngweithiol a chyffrous, sy'n ymarfer geirfa drwy ddefnyddio 11 o brif themâu ynghyd â 19 o is-themâu ychwanegol. Dyma gyfle gwych i wella sgiliau gwrando, sillafu ac ynganu. Ceir pedair lefel, sy'n ymarfer y canlynol:
- Lefel 1: adnabod a deall geiriau gyda delwedd wedi'i haroleuo
- Lefel 2: adnabod a deall geiriau gyda delwedd a thestun wedi'u haroleuo
- Lefel 3: adnabod a deall geiriau gyda thestun wedi ei aroleuo yn unig
- Lefel 4: adnabod a deall geiriau heb unrhyw aroleuo fel awgrym
Yn yr ystafell ddosbarth
Gellir defnyddio Gair am Air yn annibynnol neu fel gweithgaredd dosbarth. Gofynnwch i'r myfyrwyr chwarae unrhyw un o'r themâu mewn parau neu ar eu pen eu hunain, er mwyn sicrhau eu bod wedi dysgu'r eirfa berthnasol. Ceir rhestr o'r is-themâu a ddefnyddir yn y gêm isod.
Gellir atgyfnerthu'r eirfa a gyflwynir yn Gair am Air mewn gweithgaredd dosbarth ychwanegol, drwy ddangos llythyren ar gerdyn fflach. Cychwynwch y gweithgaredd drwy weiddi allan ymadrodd yn Gymraeg, ee "Ydych chi'n barod i ddechrau?", "Pawb yn barod?", "1, 2, 3, i ffwrdd â ni!", "Amdani!" etc.
Dylai'r plant nawr ysgrifennu cynnifer o eiriau â phosibl sy'n dechrau â'r llythyren ar y cerdyn fflach. Dywedwch wrth y myfyrwyr fod rhaid galw allan ymadrodd Cymraeg, ee "Barod!", "Dw i wedi gorffen!", "Mae X gair 'da fi!" etc pan maent yn credu eu bod wedi ysgrifennu y nifer uchaf o eiriau. Dyma arwydd i bawb arall fod rhaid stopio ysgrifennu.
Dylai'r myfyrwyr gyfnewid papurau a marcio gwaith ei gilydd. Ceir un pwynt ar gyfer pob gair cywir. Bydd yr enillydd, sef y person gyda'r nifer uchaf o eiriau cywir, yn sgorio dau bwynt ychwanegol, ac nid y person a weiddodd allan fydd o reidrwydd yn ennill.
| Cymraeg | Saesneg |
| Prif liwiau | Basic colours |
| Lliwiau eraill | Other colours |
| Anifeiliaid anwes | Pets |
| Anifeiliaid y fferm | Farm animals |
| Anifeiliaid y sŵ | Zoo animals |
| Ffrwythau a llysiau | Fruit and vegetables |
| Bwyd parti | Party food |
| Diodydd | Drinks |
| Dillad haf | Summer clothes |
| Dillad gaeaf | Winter clothes |
| Cymraeg | Saesneg |
| Un i naw | One to nine |
| Deg i nawdeg | Ten to ninety |
| Gwyliau a dathlu | Festivals |
| Y Tywydd | Weather |
| Teimladau | Feelings |
| Chwaraeon | Sports |
| Amser hamdden | Spare time |
| Fy Ardal | My Area |
| Teithio | Travel |