Casgliad o wyth o weithgareddau a gemau rhyngweithiol a chyffrous, sydd wedi eu dethol yn arbennig ar gyfer dysgwyr Cymraeg Ail Iaith Cyfnod Allweddol 2 ydy gwefan Penigamp.
Ceir nodiadau athrawon ar gyfer pob gweithgaredd, sy'n egluro sut i chwarae pob gêm ynghyd â'i chysylltiad â'r cwricwlwm. Nodir geirfa ar gyfer pob gweithgaredd, ynghyd â syniadau ynglŷn â sut i ddefnyddio'r gemau yn yr ystafell ddosbarth.
Cysylltiad â'r cwricwlwmMae pob un o'r gweithgareddau ar y safle wedi eu seilio ar y cwricwlwm cenedlaethol ac maent yn cynorthwyo'r dysgwyr wrth i'w sgiliau iaith ddatblygu.
Help clyweledolCliciwch ar y botwm 'Preferences' i glywed y testun ar y sgrîn yn cael ei ddarllen yn uchel. Nid yw'r dewis yma ar gael yn yr adran 'Gwybodaeth'.
Bar llywioCeir bar llywio uwchben pob gweithgaredd, sy'n cynnwys yr opsiynau canlynol:
![]() | Yn ôl i ddechrau'r gêm | Dyma ffordd i ddychwelyd i'r brif ddewislen. |
![]() | Newid iaith | Saesneg ydy'r iaith sy'n ymddangos yn awtomatig ar ddechrau pob gweithgaredd, ond drwy glicio ar y botwm newid iaith, mae modd newid yr iaith i Gymraeg yn unig, ee ar gyfer athrawon neu ddysgwyr mwy profiadol. |
![]() | Sain/Dim sain | Mae'r botwm hwn yn diffodd neu'n cychwyn unrhyw gerddoriaeth gefndir neu effeithiau sain o fewn y gweithgaredd, ond yn cadw'r holl gynnwys sain Cymraeg. |
![]() | Help | Mae'r gofynnod yn cynrychioli panel help, sy'n darparu cyfarwyddiadau ar sut i chwarae'r gêm. Gellir newid yr iaith drwy glicio ar y botwm newid iaith ar y bar llywio. |
![]() | Sgrîn lawn | Mae modd gwylio'r adnoddau ar sgrîn lawn. Bydd hyn yn arbennig o ddefnyddiol i athrawon sy'n dymuno dangos y cynnwys ar fwrdd gwyn rhyngweithiol. |




