Dewiswch eich cymeriad Fi Fach a dysgwch sut i greu brawddegau yn Gymraeg!
Sut i chwaraeDewiswch gymeriad Fi Fach, yna dewiswch naill ai'r adran Ymarfer neu Chwarae yng Ngêm 1 neu Gêm 2.
Ymarfer: Dysgwch sut i greu brawddegau yn Gymraeg drwy glicio ar yr opsiynau ar y sgrîn. Wedyn darllenwch a gwrandewch ar eich brawddeg. Gallwch chi ymarfer mor aml ag yr ydych yn dymuno.
Chwarae: Cliciwch ar y botwm CHWARAE i glywed brawddeg. Yna ewch ati i greu brawddeg sy'n cyfateb. Cliciwch ar y botwm NESAF i weld os ydy'r frawddeg yn gywir. Os nad ydych chi'n llwyddo y tro cyntaf, cliciwch ar y botwm CEISIWCH ETO neu GWELD YR ATEB. Gallwch chi greu a gwrando ar gynifer o frawddegau ag yr ydych yn dymuno.
Gallwch wrando ar y brawddegau eto drwy symud y llygoden dros y testun. Hefyd, clywir fersiwn y De a fersiwn y Gogledd ar gyfer y trydydd person unigol gwrywaidd (fe/fo).
Cliciwch yma i fynd i weithgaredd Fi Fach
Cysylltiad â'r cwricwlwmEr bod y gweithgaredd yn addas ar gyfer plant 7-11 oed sy'n dysgu Cymraeg Ail Iaith yng Nghyfnod Allweddol 2, gan ddibynnu ar allu, mae'r iaith yng Ngêm 1 yn fwy addas ar gyfer myfyrwyr 7-9 oed, a Gêm 2 yn fwy addas ar gyfer plant 9-11 oed.
Gêm 1: yn helpu myfyrwyr ifainc i greu brawddegau cadarnhaol a negyddol gan ddefnyddio'r ferf hoffi. Gan ganolbwyntio ar y person cyntaf unigol, y trydydd person unigol (gwrywaidd a benywaidd) a'r person cyntaf lluosog, mae'r gêm hon yn helpu myfyrwyr gyda strwythur gramadeg y Gymraeg, gan ddefnyddio'r themâu Anifeiliaid Anwes, Hobïau a Bwyd.
Gêm 2: yn helpu myfyrwyr ifainc i greu brawddegau cadarnhaol a negyddol gan ddefnyddio'r ferf hoffi. Gan ganolbwyntio ar y person cyntaf unigol, y trydydd person unigol (gwrywaidd a benywaidd) a'r person cyntaf lluosog, mae'r gêm hon yn helpu myfyrwyr gyda strwythur gramadeg y Gymraeg, gan ddefnyddio berfau pob dydd yn yr amser presennol, dyfodol a gorffennol.
Yn yr ystafell ddosbarth
Gellir defnyddio Fi Fach yn annibynnol neu fel gweithgaredd dosbarth. Isod, ceir detholiad o'r geiriau a ddefnyddir yn y gêm.
Gan ddefnyddio'r opsiwn sgrîn lawn ar y bwrdd gwyn rhyngweithiol, dangoswch i'r dosbarth sut i chwarae'r gêm. Nawr, rhowch y myfyrwyr mewn parau neu grwpiau bach a gofynnwch iddyn nhw edrych ar yr adran Ymarfer yn unig yng Ngêm 1.
Pan ydych chi'n hyderus fod y myfyrwyr wedi dysgu ystyr y geiriau a strwythur y frawddeg, gofynnwch iddyn nhw symud ymlaen i'r adran Chwarae yng Ngêm 1. Yn yr un modd, ac yn dibynnu ar allu a/neu oedran y myfyrwyr, gwnewch yr un peth ar gyfer Gêm 2.
Pan ydych chi'n hapus fod y myfyrwyr yn hyderus yn defnyddio'r gêm rhyngweithiol i greu brawddegau, gofynnwch iddynt greu cardiau fflach i ddyblygu'r rheiny yn Fi Fach, er mwyn creu eu brawddegau eu hunain, heb gymorth y cyfrifiadur. Efallai byddant yn dymuno creu eu brawddegau eu hunain gan ddefnyddio enwau gwahanol sy'n cyd-fynd â'r themâu sy'n bodoli eisoes (ee bochdew, cath, pysgodyn aur ar gyfer y thema Anifeiliaid Anwes). Neu yn hytrach, gofynnwch iddynt greu brawddegau newydd sbon gan ddefnyddio geirfa a themâu cwbl wahanol.
| Cymraeg | Saesneg |
| hoffi | to like |
| pêl-droed | football |
| gwylio teledu | to watch television |
| beicio | to cycle |
| siocled | chocolate |
| sglodion | chips |
| ffrwythau | fruit |
| llygoden | mouse |
| ci | dog |
| neidr | snake |
| ysgytlaeth | milkshake |
| anrheg | gift, present |
| esgidiau | shoes |
| iogwrt | yoghurt |
| hufen iâ | ice-cream |
| het | hat |
| siaced | jacket |
| sgarff | scarf |
| Cymraeg | Saesneg |
| gitâr | guitar |
| gêm gyfrifiadur | computer game |
| ffilm | film |
| gêm rygbi | rugby game |
| teledu | television |
| ysgol | school |
| parti pen-blwydd | birthday party |
| sinema | cinema |
| prynu | to buy |
| bwyta | to eat |
| gwisgo | to wear |
| chwarae | to play |
| gwylio | to watch |
| mynd | to go |
| ddoe | yesterday |
| heddiw | today |
| yfory | tomorrow |