Cerddi Rownd 1
Pennill bachog: Cyngor i Chwaraewr/aig Pêl-droed
Yr Arglwydd de Grey
Os wyt yn deifio/ Yn dy amser sbâr
Paid a deifio/ O flaen y V.A.R.
Ond, os wyt ti’n deifio/ Cofia butty
Fynd ar y stretcher.../ Ac i’r ysbyty!
Arwel Emlyn 8.5
Bro Alaw
Rhy fyr ydy gyrfa pencampwyr y caea’
Rhaid meddwl o’r dechra’ am ffor’
I mewn i’r cyfrynga’ a’u swyno â’th berla’
A glanio mewn gyrfa ddi-dor.
Rhaid i ti Golmaneiddio ein heniaith heb wrido
Os wyt ti am lwyddo yn llawn
A phan ddoi di i rwdlan fel Malcolm a Dylan
Mi fyddi di’n seran – go iawn.
John Wyn Jones 8
Cwpled caeth yn cynnwys unrhyw derm yn ymwneud ag arlunio
Yr Arglwydd de Grey
Banksy
Â’i grefft hud, graffiti hwn
A ddaeth yn lais ei ddwthwn.
Steffan Tudor yn darllen gwaith Eleri Jones 8
Bro Alaw
Tyner yw dull cartwnydd
O ddinoethi dwli’r dydd.
John Wyn Jones yn darllen gwaith Richard Parry Jones 8.5
Limrig yn cynnwys y llinell ‘Roedd rhai wedi mynd dros ben llestri’
Yr Arglwydd de Grey
Roedd rhai wedi mynd dros ben llestri
Ac eraill i ganol y pestri
Yng nghanol y twrw
A gormod o gwrw
Digwyddiad go arw mewn festri
Geraint Llwyd Owens yn darllen gwaith John Owen 8.5
Bro Alaw
Yn Seion, Llanrwst, yn y festri,
Digwyddodd y dyn ’llnau ffenestri
Weld dau leuad llawn,
Yng nghanol y p’nawn,
Roedd rhai wedi mynd dros ben llestri!
Ioan Roberts 8.5
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Twyll
Yr Arglwydd de Grey
“Anheg! Pwy yrru neges?
Rwy’n gaddo: Naddo! Ni wnes,
Gwadaf drwy’r byd digidol
Na chês un neges yn ôl.
Mae’n wir nad oedd rhyngom ni
Ddau air i’th ymddiddori.”
Newid! Bîp neges newydd,
A gweld fesul tecst fu’n gudd
Gelwydd i dorri’r galon,
Chwalu ffydd... archwilio ffôn;
Ac mae’r cyfan o’r anwir
Yn brysur ddatgelu’r gwir.
Arwel Emlyn 9
Bro Alaw
Mae’n unig; mwy na hynny,
Mae’n gaeth i hiraeth ei thŷ,
Atgofion yn llifo’n llaith
Am enaid fu ’ma unwaith,
Yno’n graig, ei byd yn grwn
A’i ystyr yn ddi-gwestiwn.
Braw ’nawr yw’r ffôn. Ddoe soniai
Rhywun llym fod swm cryn llai
Ar dro’n ei chynilion hi,
Rhyw banig, ofn trybini...
O’i hefru aeth i’w chyfrif
A, gan grynu, rhannu’i rhif.
Ioan Roberts yn darllen gwaith Annes Glynn 9
Triban yn cynnwys y llinell ‘Pe bawn i’n dechrau eto’
Yr Arglwydd de Grey
Pe bawn i’n dechrau eto
Nid awn I fyth yn athro,
Fe chwiliwn am esmwythach byd
A rhoi fy mryd ar ffarmio
Huw Dylan 9
Bro Alaw
“Pe bawn i’n dechrau eto,”
Medd Owain, “Gwnawn grimetio
Y castell rhag i’r un de Grey
Gael t’wllu’r lle ‘ma heno”.
John Wyn Jones 9
Cân ysgafn: Hyfforddiant mewn Swydd
Yr Arglwydd de Grey
(Ar dôn ‘Ffarwel i Blwy Llangywer’ / ‘Gwnewch Bopeth yn Gymraeg’)
“So, ti di’r hogyn newydd ‘ma?
Mae gen i jobsyn i ti -
Dos lawr i Screwfix yn y fan
I nôl y stwff ‘ma i ni.
“Mae Osian angen brws llaw chwith
I beintio top y grisiau;
A thuniau paent - un polca dot
A’r llall yn bot o streipiau.
“Gofynna am gil newydd i’r drws,
Am fwy o blwc i’w chwythu,
Am fybl newydd i’m spirit-level,
Ac mae’r crowbar angen sythu.
“Gofynna i’r manijyr am ddisgownt,
Mae hwnnw’n hogyn iawn;
‘Ceri Ross’ di enw’r boi,
Ond ‘Ceri R. Ross*’ yn llawn.
“Wel, faint o’r gloch ‘di erbyn hyn?
Diawcs, mae’n amser paned!
Cofia - dwi’n licio ‘nhe yn sych,
A iwsia’r tebot siocled.”
Geraint Llwyd Owens 8.5
Bro Alaw
Yn Efrog Newydd ’slawer dydd, doedd dysgu Hanes fawr o fudd
Nac o ddiddordeb chwaith i blant y crach,
Ac felly Stonewall Lee LeRoy a gafodd ŵys gan Trump i roi
Hyfforddiant addas ar fflachgardiau bach.
Er nad oedd sôn fod Stonewall Lee yn athro hanes mawr ei fri
Fe wyddai sut i droi y dŵr i’w rod,
Dechreuodd gyda’r Alamo a holl gamweddau Mecsico,
Gan raffu y rhagfarnau odia’n bod.
“ ’Mhell cyn Columbus,” medda fo, “Llychlynwyr ddaeth, sefydlu’n bro,
Cyn hwylio i’r Ynys Las gan hawlio hon
I Wlad y Rhydd, a ‘sneb a wad fod darn o dir sy rhwng dwy wlad,
Fel Canada’n gwneud talaith newydd sbon”.
Ac yn y drydedd wers medd Lee, “drwy’th fam mae gennyt bedigrî
Yn Bennaeth Clann Mhic Leòid o uchel dras
Mae fy holl ymchwil, a’r AI, yn dweud mai Donald J, neb llai,
Yw Ardrí Alba drwy nawdd Duw a’i ras”.
“A pheidiwch chi yng Nghymru bell â chredu na ddaw pethau’n well,
Mae lluoedd MAGA’n hwylio’r funud hon,
Daw hil Pruns Madog o fewn dim, mewn tair ar ddeg o longau chwim,
Bydd Cymru, Lloegr a Llanrwst o dan Y Don.”
Ioan Roberts 8.5
Ateb llinell ar y pryd – Dewisais i beidio sôn
Yr Arglwydd de Grey
Yng ngalar torri calon
Dewisais i beidio sôn
Arwel Emlyn 0.5
Bro Alaw
Rydw i’n dal yn ddigalon
Dewisais i beidio sôn
John Wyn Jones
Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Cam neu Camau
Yr Arglwydd de Grey
Camau
Fforio’n hyderus hyd ymyl y soffa
a thoes meddal ei ddwylo a’i draed yn uno
yn sigl ei ddawns.
Cyrraedd y pen.
Troi a gwenu ar Nana yng ngharchar ei chadair.
Balchder yn pefrio yn llygaid gleision y ddau.
Yna gollwng,
Codi un droed,
Petruso,
Simsanu’n feddw,
Mentro cam arall,
Yna i lawr a fo ar ei ben ôl
A’i chwerthin yn tincial ar lestri’r ddresel.
Ymestyn am waelod ei gwisg
Hithau’n estyn ei bys a’r dwrn yn cau amdani,
Mae’n codi.
‘Dos di, fy ngwas i, cerdda’.
Huw Dylan yn darllen gwaith Eleri Jones 9.5
Bro Alaw
Cam
Mae’n fam ar oledd heddiw,
Y tŷ’n oer a’i byd ar sgiw
Ac er bod siawns i oedi
Un aflonydd, flin yw hi.
Twtia’r lluniau a’u sythu,
Edrych ’nôl ar hyn a fu
 hanner gwên, hanner gwg
Cyn eu cadw o’r golwg.
Rhaid rhoi trefn cyn troi’n ei hôl
I’w dyddiau rhydd, hamddenol,
Unioni clorian ei byw,
Adfer ei llais unigryw.
Teimla’n simsan er hynny
Â’i seiliau’n eiddil fel plu.
Pa werth ‘rhyddid’ beth bynnag? -
Hedodd ei chyw o’r nyth gwag.
Ioan Roberts yn darllen gwaith Annes Glynn 9
Englyn: Cigydd
Yr Arglwydd de Grey
Gan iddynt feganeiddio - daw dyddiau
Di-dyddyn drwy'r henfro,
Arlwy hollt yr ail-wylltio,
Torri cig cownteri'r co'.
Arwel Emlyn 9
Bro Alaw
Cudyll ar gyrion coedwig – a’i grafanc
Mor gryf a mileinig,
Yno’n rhwygo i’r briwgig
Un oen byw â llafn ei big.
John Wyn Jones yn darllen gwaith Richard Parry Jones 9







