Main content

Cerddi Rownd 1 2026.

Pennill bachog: Pôl Piniwn

Dwy Ochr i’r Bont

A fyddai’n well gennych gael cic yn eich tin?

Neu life time supply o gaws ac o win?

O ddewis rhwng cimwch neu fag cachu ci?

Beth fyddech chi’n rhoi ar eich bwrdd swper chi?

Pe bae chi yn gorfod cael gwyliau yn Ffrainc

neu Borthladd Caergybi, a’ch gwely yn fainc?

Hawdd iawn ydi gwybod sut aeth pethau o chwith

O roi’r dewisiadau i rai yn ein plith.

Llywela Siriol 8

Tir Mawr

Yn awr, yr arolygon barn

Bob Mwnci 'ta Wil Penbwl ?

Mae cant y cant o bobl Sarn

Am ddewis ' Neb o Gwbl'.

Gareth Jôs 8.5

Cwpled caeth yn cynnwys unrhyw derm yn ymwneud â’r heddlu

Dwy Ochr i’r Bont

Coffi, secs a hancyffs hardd…

Yr wyf yn gaeth i brifardd

Ynyr Williams 8.5

Tir Mawr

O achos rhyw ffrae fechan

Y Tŷ Mawr sy’n glytiau mân.

Carys Parry 8.5

Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mi neidiais cyn iddynt fy ngwthio’

Dwy Ochr i’r Bont

Meddyliais fy mod wedi cuddio

Y ffaith mod i rioed ‘di bod yno,

Ond mae yn y ffeiliau

Brawf clir o mhechodau:

Mi neidiais cyn iddynt fy ngwthio

Manon Wynn Davies 8

Tir Mawr

Dweud oeddent fy mod yn heneiddio,

Nad oedd y gwaith bellach yn siwtio,

Na fedrwn yn henwr

Wneud job parasiwtiwr,

Mi neidiais cyn iddynt fy ngwthio.

Carys Parry 8.5

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Neuadd

Dwy Ochr i’r Bont

Roedd y gân a’r gerdd i gyd

hyd loriau’r distiau, astud

a’n llafur yn blaguro

dan leuadau tyllau’r to.

Pob drama’n rym trydanol

Pob consyrt - ein Halbyrt Hall –

a hon yn ein gwylia ha

yn ysgolwych La Scala.

Difesur cyfyng furiau –

llwyfan oedd i’n holl fwynhau.

Ynyr Williams 9.5

Tir Mawr

Cyfarfod cefnogwyr aelodau seneddol newydd o Gymru yn Westminster Hall, Llundain

ar ôl etholiad 1992

Yn fywiog, yn dorf eang,

down yn sionc – mae dan ei sang;

meddiannwn y lle hwn, llys

holl hen, hen rym ein hynys.

‘Down ni,’ medd aelod newydd

‘yma ar waith y Gymru rydd

i droi’r grym adre’ o’r gwraidd,

daearu’r drefn Duduraidd.’

O dan gwaith pren ysblennydd

yr ymerodraeth, daeth dydd

hawlio’n ôl – eu gadael nhw

ac agor y ddôr dderw.

Myrddin ap Dafydd 10

Triban yn cynnwys y llinell ‘Ni wn ai ffug ai peidio’

Dwy Ochr i’r Bont

Ni wn ai ffug ai peidio

Yw'r brandiau wrth ‘mi sgrolio,

Ond fe gaf brisiau digon rhad

Am ddillad wnai mo’u gwisgo.

Llywela Siriol 8.5

Tir Mawr

Ni wn ai ffug ai peidio

Yw’r gair mai gwallt lliw cadno

A oedd ar ben arth wen fawr gas

Wrth Ynys Las yn nofio.

Huw Erith 9

Cân ysgafn: Dyrchafiad

Dwy Ochr i’r Bont

Annwyl Radio Cymru, gan obeithio'ch bod chi'n gwrando.

Parthed Tîm Dwy Ochr i'r Bont yn erbyn Tir Mawr...eto!

Dwy waith mewn llai na blwyddyn? Mae hyn yn destun ffrae -

Mae fel petai pum Daniel newydd gamu mewn i'r ffau!

A 'leni, i wneud pethau'n waeth, ry'm un yn llai na llynedd

Ac felly dyma'ch cyfle i ddangos mymryn o drugaredd.

Rhowch 'dransffyr' i un chwarter o Tir Mawr draw i'r tîm yma.

Rwy'n siwr y byddai'r cyn-archdderwydd yn mwynhau talyrna

A sgwrsio â Llywela am gynghanedd neu bêl-droed.

Mae ganddo fo ac Ynyr fwy'n gyffredin na jyst oed.

Mi ddadansoddith delynegion Manon gydag urddas

Ac Anest fydd yn siwr o gadw Cwrw Llŷn mewn busnas.

A'r Capten? Wel, mae'r cysylltiadau rhyngddynt yn chwedlonol -

Mae'r ddau yn caru yr un ferch ond mewn dwy ffordd wahanol!

Dywedwch mai 'dyrchafiad' yw, llawn mawl a bri a chlod

(Ond 'falla' peidio sôn mai atom ni y mae o'n dod).

Treialwch system newydd yn fan hyn - mae'n gyfle perffaith.

Go brin y byddai'n gwrthod cynnig darpar fab yng nghyfraith!

Edrychaf 'mlaen i glywed eich ymateb yn o fuan.

Ar ran aelodau Dwy Ochr i'r Bont, Yn gywir, Eu Capten, Osian.

Anest Bryn 9

Tir Mawr

I geisio am swydd yr is-swyddog a'i farf wedi'w drimio mor neis

Fe laniodd rhyw greadur go flewog ei enw oedd Montague Preis

Ar gadair o'u blaenau'n lled-orwedd mewn coler a thei, chwarae teg

Ac aur oedd yn ticial mewn danedd a ddaliai sigar yn ei geg

Roedd Monti, heb os, yn berffomiwr a'i si.fi yn faith a di fai

Gwirionodd y tri efo'r dysgwr Dechraeodd yn syth fwy neu lai.

Beth amser ar ôl y penodiad, mewn swyddfa, dros baned o de

Fe sylwodd rhyw glerc bach mewn eiliad fod rhywbeth sylweddol o'i le

Taliadau am deiars ? am rwydi ? bananas a phowdwr lladd chwain ?

Ei fosus ddisgynodd ar Monti i ofyn "be goblyn 'di'r rhain?"

A dyna pryd ddaru nhw sylwi pwy'n union oedd Montague Preis

Nid dysgwr amryddawn o Surrey ond Orang Wtan mewn disgeis

Heb folchi, heb newid , heb fwgwd pan laniodd y tri gyda'r wawr

Fe sbonciodd i fyny i'r nenfwd a gwrthod yn lân a dod lawr

Edrychodd y tri ar ei gilydd gan feddwl cymeryd y goes

Eu tynged oedd anfri a chywilydd a hyny hyd ddiwedd eu hoes

Heb os, d'oedd ond un peth amdani - ail eistedd o gwmpas y bwrdd

A chynig dyrchafiad i Monti i swydd oedd yn bell bell i ffwrdd

A'n awr mae o'n genad ym Morneo ar bensiwn go dda rhaid mi ddweud

A neb efo syniad pwy ydy o na'n gwybod be ddiawl mae o'n wneud

Gareth Jôs 9

Ateb llinell ar y pryd - Heno ar nos Fawrth Ynyd neu Heno mae’n nos Fawrth Ynyd

Dwy Ochr i’r Bont

Heno ar nos Fawrth Ynyd

Beth am geisio bwydo’r byd?

Osian Wyn Owen 0.5

Tir Mawr

Heno mae’n nos Fawrth Ynyd

A gwag yw’r cypyrddau gyd

Huw Erith

Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Bwrdd

Dwy Ochr i’r Bont

Y Bwrdd Heddwch

Dewch, blant bychain, dewch ar frys

o’ch tiroedd trist neu’ch llysoedd hardd,

dewch drwy’r drain a thrwy ffosydd y byd,

dewch a’ch helyntion a’ch pechodau i gyd.

Dewch, blant bychain, cewch gladdu’ch gorffennol

a golchi’ch dwylo yng ngwyngalch fy nhŷ,

dewch, gyfeillion, mae fy nghynnig yn hael,

ac os rhowch imi’ch einioes, mae achubiaeth ar gael.

Ymlaciwch, gyfeillion, llaciwch eich crysau

a gadewch eich arfau wrth y drws,

cewch wledda’n wâr yng ngwâl ein cwrdd

tra’n hogi’ch cyllyll dan y bwrdd.

Rhowch eich gwledydd yn fy ngofal.

Rhowch eich llofnod fel cusan ar groen.

Rhowch, gyfeillion, eich ffydd yn gyfan

nad oes bradwr yn ein carfan.

Manon Wynn Davies 9

Tir Mawr

Cornel, a honno’n wag;

Cadair, a honno’n oer;

Lle llawn gwenwyn tawel,

Llygaid yn llawn poer.

Jwg o ddŵr i un

A’r gwddw’n sych o hyd;

Platiad, ond dim ond pigo

Rhyw bethau blas dim byd.

Dau ginio wedi hynny,

Rhywun yn chwifio llaw,

Yn hanner codi a chynnig

Fod y lleill yn symud draw

Myrddin ap Dafydd 9

Englyn: Morthwyl

Dwy Ochr i’r Bont

Morthwyl Dad

Mewn bybyl ráp fe’i lapiaf – holl lafur

y blawd llif a gliriaf,

a wylo pan ddychwelaf

i noddfa a braint swyddfa braf.

Osian Wyn Owen 9.5

Tir Mawr

Mae’i oed yng ngraen y coedyn – pren onnen

melynach bob blwyddyn;

mae i waith hwyl amheuthun

a lliw ei daid yn llaw dyn.

Myrddin ap Dafydd 9