Cerddi Rownd 1.
Pennill bachog: Crynodeb o 2025
Y Lleill o’r Llew
Mewn cyfnod o heriol begynnu
A rhyfel nid heddwch yn trechu,
Daeth gobaith mewn pêl, i serennu,
Merch o Traws yn sgorio dros Gymru.
Ac awdl, rydd wefr i'w ryfeddu
Daeth AI i'n helpu neu'n llethu
Ac mewn plygain - daliwn i gredu.
Iwan Wyn Parry 8
Y Derwyddon
Bu’n ddeuddeng mis hir/ o Trump yn crechwenu;
Tîm y Derwyddon/ a gafodd ei drechu;
ond llwyddodd y Blaid/ i gipio Caerffili.
Jo Heyde 8
Cwpled caeth yn cynnwys unrhyw derm yn ymwneud â cheffylau
Y Lleill o’r Llew
Os gollwn y ‘piniwn pôl,
pwy hidia? Gwnawn dro pedol
Gwilym Bowen Rhys 9
Y Derwyddon
Dyhead dealladwy
yw perchen y ferlen fwy.
Siw Jones 9
Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mi gollais fy llais ar ol gweiddi’
Y Lleill o’r Llew
Drwy’r caeau a nhraed bron a rhewi
Mi gollais fy llais ar ol gweiddi -
Tyd yma plis Fflei,
Y cythrel cym bei!!
Bytheirio sy’n cadw fi’n heini!
Sioned Camlin 8.5
Y Derwyddon
Mi gollais fy llais ar ôl gweiddi
ar gyfaill, yn erbyn y cenlli,
er bloeddio i’r eithaf,
ni chlywodd ‘run sillaf,
tro nesaf defnyddiaf fy ffôn i!
Meirion Jones 8.5
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Ffair
Y Lleill o’r Llew
Yn llawn antur, gwŷr sy’n gwau
o’r oerfel i’r ffair arfau.
NEC sydd dan ei sang
â nwyd dial byd eang.
Pum can helmed ar gredyd?
Deugain drôn yn degan drud?
Neu ddryll â’r grym i ddryllio
cnawd dy frawd a chwalu’r fro?
O fagl y sioe gyfoglyd,
dônt atom â’u bom i’n byd,
yn tynnu am y tanwydd,
ar dân i ddifrodi’r dydd.
Sioned Camlin 9
Y Derwyddon
(Cofio ’nhadcu a’i stôr o straeon am ffair geffylau Llanybydder )
 deulais glec pedolau
addo’i hwyl wnai sêl Dydd Iau,
deuai’r byd o bedwar ban
eto i alaw’r trotian…
prynwyr, arwerthwyr yn rhes
yn rhannu cylch yr hanes.
Cwr o wên, mŵg baco rhad
a ffeirio gyda phoerad,
a’r waled ddi-sychedu
yn llywio dêl i’r Llew Du.
Af drwy’r iet yn ôl eto,
troi i weld ‘nhadcu bob tro.
Siw Jones 9.5
Triban yn cynnwys y llinell ‘Rwy wedi addunedu’
Y Lleill o’r Llew
Rwy wedi addunedu
i geidwad y goleudy
fil gwaith i ‘sbonio be ‘di be
nes i mi hen syrffedu.
Sam Robinson 8.5
Y Derwyddon
Rwy’ wedi addunedu
y prynaf dir a’i blannu
yn llawn o goed, byw’r bywyd gwyrdd,
a dilyn ffyrdd ailgylchu.
Meirion Jones 8
Cân ysgafn: Deiet
Y Lleill o’r Llew
Dwi’n ffermwr go gefnog o blwy Llanffestiniog, a’n fferm i yn enwog am safon ei stoc
ond mae gen i gyfrinach, un budur ac afiach, a mae’n bosib y berith hi ddipyn o sioc;
‘lly pawb sydd yn gwrando’r y ‘nghân yma heno, mae’n rhaid i chi addo ar boen uffern dân
i beidio datgelu’r gyfrinach sydd gen i – dwi’n ffermwr o Gymro a dwi yn VE-GAN!
Ers dyddiau fy mebyd oni’n pici ddiawledig, yn uffernol o ffyslud, a’n fytwr go wael
ac ers dyddia fy mhrifiant dwi’n lactôs intolrant, ac ma arogl wyau’n yn neud i yn sâl
ond yn gyson wastadol roedd cig yn bresennol ar ‘y mwydlen beunyddiol yn ddi eithriad bron
felly mis Rhagfyr dwytha ges i syndod o’r mwya pan glywisi’r doctor yn deud dros y ffôn:
“Y mae canlyniadau eich scan di dod drwadd, mae nhw yma o ‘mlaen i, a, brenisach y brain!
Y mae’ch calon ‘di llygru a hanner ‘di pydru a’ch gwaed fatha triog a’ch gwythienna llawn saim.
Cyn hir gewch chi flocej mor llydan a sosej os na fydd ‘na newid go hegar i’r sgan
‘lly ‘rol ‘styried hynny byswn i yn awgrymu mae’ch gobaith chi rwan ‘di troi yn VE-GAN”
Roedd fy nghinio nadolig yn rhyfedd ddiawledig, a ffeindio’r cynhwysion yn ddipyn o strach-
Ces tofu ‘di berwi yn hytrach na thwrci a madarch mewn ffeicyn yn lle soch mewn sach,
ces cinwâ’n lle stwffin, ces sorbet i bwdin, ac yn lle malteasers ces gneuen mam bach!
ond peidiwch a dweud wrth hen ffermwyr Llanstiniog, dwi rioed yn fy mhywyd ‘di teimlo mor iach…
Felly acw ‘r y fferm da ni’n arall gyfeirio, dwi am werthu y stoc, cael y llechan yn lân
a phlannu naw erw llawn coed avocado, dyma ddechrau y chwyldro, dwi’n ffermwr VE-GAN!
Gwilym Bowen Rhys 9
Y Derwyddon
“Yr rydych yr hyn fytwch”. Wrth fynd o gylch y sw -
mi sylwais ar jiraffs go hardd yn bwyta coed bambŵ;
fe hoffwn i gael gwddwg hir a choesau lluniaidd main
a phenderfynais yn y man i fwyta fath â’r rhain.
Yn groes i gred y Senedd, mae lot o goed yng Ngwalia,
ond does ’run sprigyn o bambŵ i’w gael yn Fforest Brechfa!
Ac wedi chwilio Tesco, cês broblem fawr yn Leekes -
dim son am set i’r patio… rhaid aros “nineteen weeks!”.
Mae gan y crychydd goesau main a gwddf gosgeiddig hynod,
mae’i ddeiet e yn dipyn haws ag yntau’n byw ar bysgod;
ond dwy’m yn siwr a fyddwn i yn hapus yn balansio
mewn afon ar un goes am sbel, a minnau’n methu nofio!
Gan nad ’wy’n bwyta brigau, na physgod... ond ‘da sglods,
i beth yr ymdebygaf – dwy’n credu fod yr odds
yn pwyntio at un peth yn glir, yn union fel fy nrych,
dwy’n hoff o fwyta popeth… dwy’n fochyn bach… “gwich, gwich!”
Eryl Mathias 8.5
Ateb llinell ar y pryd – Eira mân sy’n eira mawr
Y Lleill o’r Llew
Eira mân sy’n eira mawr
Yn wyn mae lonydd Ionawr
Sioned Camlin 0.5
Y Derwyddon
Eira mân sy’n eira mawr
Eira all rewi’r oriawr
Eryl Mathias
Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Oriel
Y Lleill o’r Llew
Ar lannau Tafwys seimllyd, geometreg lychlyd.
Tu fewn, gwagle sy’n atseinio fel cadeirlan ddi-dduw,
ac yna blociau concrit, byddin, catrawd o leiaf,
yn aros, ond i be’?
Lodes pedair oed aeth atyn nhw,
ei cheg yn llawn cyfarchion a’i bysedd llawn mwythau,
yn gwau llwybrau o’i dewis rhwng y blociau,
tra sefais yn stond, yn crafu am adlais o’r cerrig.
Tynnodd ei chôt a’i lapio o gwmpas bloc bychan:
‘Mae’n ffrind i mi, Mymi, ac mae hi mor oer.’
A dyna fi, yn oer i fêr fy esgyrn, yn dysgu gwers.
Hi welodd ddynoliaeth, enaid mewn bloc concrit,
rhinweddau methais adnabod ym mhobol ddiarth ar y Tiwb.
Sam Robinson yn darllen gwaith Myfanwy Alexander 8.5
Y Derwyddon
Ysmygwr fu hi erioed,
Benson and Hedges,
pant blwch llwch ym mraich ei chadair;
dyna oedd ei lle,
a’r wal gyferbyn yn frith o’i Polaroids pŵl,
i gyd wedi’u gwasgu i gof fframiau,
i gyd fymryn yn gam,
ond fiw i neb eu symud;
“Paid di â’u twtsio!”
Un chwerw fu hi,
tafod siarp priodas wast …
amhosib cynhesu ati;
a daeth yr amser i wagio ei thŷ
a stwffio’i horiau’n gorneli pren a gwydr brau
i focs cardfwrdd,
a melyn ei mwg yn arddangos
sgwariau gwyn y casgliad parhaol
ble gynt y bu curadu gobaith.
Jo Heyde 9.5
Englyn: Plygain
Y Lleill o’r Llew
Ar ôl yr holl gwerylon a llanast
llynedd, awn am foddion.
Nawr drwy’r llan a’r dyrfa’n don,
daw Duw y clwyfau duon.
Sioned Camlin 9.5
Y Derwyddon
Liw nos awn i lawenhau yn stori’r
Geni â chytganau,
fore’r wyrth cawn ei fawrhau,
a’i anwylo'n garolau.
Meirion Jones 9



