Main content

Talwrn Ysgolion Gŵyl Gerallt

1 Pennill bachog: adroddiad ysgol unrhyw gymeriad hanesyddol

Ysgol Bro Myrddin

Cymeriad direidus yw Dafydd ap G.

Mae’n dipyn o dderyn, credwch chi fi.

Caiff drafferth i setlo, er gwaetha’ sawl ‘ffrind’.

Mae’n well ganddo grwydro, ciniawa a mynd.

Awen 8.5

Ysgol Maes y Gwendraeth

Adroddiad Ysgol Neil Armstrong

Dim ond camau bychain/ gymerodd ef ers tro,

mae’i ben yn y cymylau’/ ’sdim cynnydd unwaith ’to.

I gael effaith ar ddynoliaeth/ rhaid cymryd camau mawr,

ond nes y gwnaiff e bach o waith/ bydd ei draed yn sownd i’r llawr.

Steffan 9

2 Cwpled yn cynnwys y gair ‘hen’

Ysgol Bro Myrddin

Daeth dalen newydd sbon i’r stori hen,

A chariad dau mewn un yng ngwres ei llên.

Mabli 8.5

Ysgol Maes y Gwendraeth

I’r blaid newydd, Reform

Un blaid dros ei phobl ei hun,

ni welaf ond hen elyn.

Elen 8.5

3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘O ydi, mae’n anodd esbonio’

Ysgol Bro Myrddin

O ydi, mae’n anodd esbonio:

Roedd tîm Talwrn Maes wedi’n concro,

Deg marc ym mhob rownd,

Bro Myrddin yn sownd …

Ac yna fe wnes i ddihuno.

Gwenan 8.5

Ysgol Maes y Gwendraeth

O ydy, mae’n anodd esbonio

pam fod ciwed mor sâl yn ein herio,

ni welaf ’r un dewin

yng ngharfan Bro Myrddin,

peth amheuthun yn wir fydd eu curo

Manon 8.5

4. Pennill ymson mewn siop

Ysgol Bro Myrddin

Teimlaf yn gynnes a chymunedol

wrth gerdded i mewn i’r siop.

Mae’r silffoedd yn llawn, ond y llawr sy’n wag.

Neb i ddychwelyd y wên wrth y til.

Cerddaf ymhellach a sylweddolaf y gwir,

Fod oes y stryd fawr wedi mynd ar ei hyd.

Lois 8.5

Ysgol Maes y Gwendraeth

Siop / Asiantaeth Deithio

Rwy yma’n prynu Ewros

i fynd ar f’antur gudd,

ond ofer fyddant maes o law

’rôl glanio ym Mhontypridd!

Iestyn 9

5 Triban beddargraff arolygwr neu arolygwraig ysgolion

Ysgol Bro Myrddin

Yn d’angladd doedd dim dagrau,

Dim straen nac estyn blodau,

Ni neidiwn ’to ar d’alwad di,

Na’th ofni, bigwr beiau.

Gruffydd 9.5

Ysgol Maes y Gwendraeth

Dim estyn cydymdeimlad

ar ddydd ei ymadawiad,

wrth fedd hen arolygydd blin

Twll tîn i bob adroddiad!

Marged 9.5

6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau a heb fod dros funud a hanner o berfformiad) : Ysgol Waetha’r Byd

Ysgol Bro Myrddin (ar alaw ‘Ni’n mynd nôl i Flaenau Ffestiniog)

Cytgan

Ni’n ymbil am transfer i ysgol arall,

Ni’n desbret iawn, ystyriwch plis ein cais!

Ni’n ymbil am transfer i ysgol arall,

Achubwch ni cyn inni golli’n llais.

Gwrandewch ar fy stori am fwyd ein ffreutur ni,

A pharatowch am sioc a hanner nawr –

Ces frechdan gaws i ginio, heb sylwi beth oedd ynddo,

Dwi’n eistedd ar y toilet ers tair awr.

Cytgan

Ni’n ymbil am transfer i ysgol arall,

Ni’n desbret iawn, ystyriwch plis ein cais!

Ni’n ymbil am transfer i ysgol arall,

Achubwch ni cyn inni golli’n llais.

Yr addysg sy’n rêl llanast yn ein hysgol afiach ni,

A phob un stafell fel ryw gaets mewn sw,

Athrawon sydd yn iapo, y pennaeth wedi danto,

A’r plant yn gwbod llawer mwy na nhw!

Cytgan

Ni’n ymbil am transfer i ysgol arall,

Ni’n desbret iawn, ystyriwch plis ein cais!

Ni’n ymbil am transfer i ysgol arall,

Ond peidiwch plis â’n hala ni i Maes!

Pawb 9

Ysgol Maes y Gwendraeth

Wel, croeso mawr i’r ysgol, i Ysgol Waetha’r Byd,

lle does dim trefn na rhyddid, na gweithio ar y cyd;

lle does dim hawl i wenu, na chwerthin wir i chi,

na hawl i fynd i’r toiled, mae’r llawr yn llawn pî-pî!

Dim hawl i dynnu siwmper a hithau’n ganol ha’,

a ras trawsgwlad yn ddyddiol o gwmpas ugain ca’.

Mae Maths a Ffis yn orfodol nes blwyddyn un deg tri

a ffug arholiad dyddiol ar drigonometrî.

Rhaid gwisgo sgertiau pensil sy’n cyrraedd at y llawr

ac adrodd Gweddi’r Arglwydd yn gyson bob un awr.

Pob athro sy’n ddiogyn, drwy’r amser ar eu ffôn,

yn sgrolio trwy’r opsiynau am ‘hotties’ o Sir Fôn!

Fe dreuliwn ein hawr ginio yn ciwio am y ‘bwyd’,

ond afiach ydyw’r fwydlen, ’mond uwd a phryfed llwyd.

Ataliad am ddim rheswm dan lygaid craff y Doc,

er gwaetha’i chymwysterau, ni all hi ddarllen cloc!

A nawr fe gawn ddatgelu yr Ysgol Waetha sy’

nid cyfrinach wir mohoni, Bro Myrddin ydy hi!

Pawb 9.5

7 Gorffen limrig ar y pryd :

Mewn palas gerllaw Abergwili,

Mae pethau rhyfedda eleni,

A’r odiaf o hyd

O’r cwbwl i gyd

Ysgol Bro Myrddin

Mewn palas gerllaw Abergwili,

Mae pethau rhyfedda eleni,

A’r odiaf o hyd

O’r cwbwl i gyd

Yw’r crys sgwariau salw ‘sda Ceri

Luned 0.5

Ysgol Maes y Gwendraeth

Mewn palas gerllaw Abergwili,

Mae pethau rhyfedda eleni,

A’r odiaf o hyd

O’r cwbwl i gyd

Yw’n Meuryn ni heddiw – sef Ceri

Saran

8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Lloches

Ysgol Bro Myrddin

Cysuraist, Mair, dy faban glân

Ag alaw leddf dy nodau,

Yn noddfa’r preseb suai’r gân

Yn rhodd o ryfeddodau.

Er llesged traed ar ben y daith,

Roedd gobaith yno’n drysor,

Mewn stabal lom ym Methlehem

Cest loches drws ar agor.

Mewn pabell unig dan y lloer,

Am ennyd, caf freuddwydio

Am gysur glân dy freichiau di,

I’m cadw a’m cysuro.

Gweddïo wnaf am hafan glyd

A chariad mam i’m lleddfu,

A gaf i glywed unwaith ’to

Dy lais a’th si-hei-lwli

Beca 9.5

Ysgol Maes y Gwendraeth

Ar fore Sul, yn selog anochel,

o gysur gwely pechod,

ymlwybraf yn ffyddlon at freichiau

croesawgar cymuned foesgar.

Trwy ddrysau trymion lloches Duw,

atseinia bob cam trwy f’enaid byw

fel cabledd, yn ffaeledd;

er y groes fach ffyddlon

ynghudd yn fy nghalon.

Gwrando, amenio, pregeth undonog, unochrog.

Ai llygaid graslon, ynteu saethau creulon

sy’n rhythu o’r pwlpud oddi fry?

A phwy fan hyn sy’n tafoli

rhwng purdeb plentyn tragwyddol

a llysnafedd gwaddol y Diafol?

 rhesi’r adnodau’n llosgi’n graith,

bygwth dianc mae’r cyfrinachau

a dw i’n syrthio, yn cwympo, o freichiau

‘croesawgar’ cymuned fyddar.

Saran 9.5

9 Englyn: Amgueddfa

Ysgol Bro Myrddin

Twll hel llwch, ynte lloches? Nid yw’n hawdd,

Ond o nôl dy hances,

Rhwbio, a’i bolisho’n bles,

Wir, dihunir dy hanes.

Eurig Salisbury 10

Ysgol Maes y Gwendraeth

(Ystafell wely’r ferch wedi iddi fynd i’r Brifysgol)

Tei’r chweched, dol, hen dedi – ei heiddo

sy’n waddol nawr hebddi,

a manion ei chymoni’n

un rhan fwy o’r hyn wyf i.

Lowri Lloyd 10