Main content

Cerddi Rownd 1.

Tanau Tawe

Bydd eira ar Eryri, bydd grug y waun yn llosgi,

Bydd misoedd haf yn llawn o des, bydd mes ar frigau’r deri.

Bydd rhai yn dal i ffromi, bydd miloedd mwy mewn tlodi,

A finne’n dipyn byrrach dyn, ryw flwydd yn hŷn nag o’n i.

Keri Morgan 8.5

Y Ffoaduriaid (GWD)

Dyro im un Awst o wres; o'r myny’

i'r maen, croeso cynnes

y Las Garreg a’i neges

pan bafiliwn-waeddwn ‘Wês!

Hannah Sams-Jones yn darllen gwaith Gethin Wynn Davies 8.5

Cwpled caeth yn cynnwys unrhyw derm yn ymwneud ag arwerthiant

Tanau Tawe

(I’r gwadwyr newid hinsawdd)

Er ei stâd ddiymadferth,

Daear werdd, nid yw ar werth.

Keri Morgan 8.5

Y Ffoaduriaid (GWD)

Ni ddaw awch i heddycha

 rhyfel yn ddêl mor dda.

Gwennan Evans yn darllen gwaith Gethin Wynn Davies 9

Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mae sôn wedi bod ers peth amser’

Tanau Tawe

Mae sôn wedi bod ers peth amser

taw’r meirch biau sgwâr Llanybydder,

ond rhythu mewn dirmyg

wna’r merched ; mae’n debyg

taw’r cesyg biau’r britsh, ffrwyn a’r bowler!

Keri Morgan 8

Y Ffoaduriaid (GO)

Mae sôn wedi bod ers peth amser

bod rhai yn cael rhyw er mwyn pleser.

Mae'n digwydd mae'n debyg

ond gall fod yn berig

'nenwedig i'r sawl sydd heb arfer.

Llio Maddocks yn darllen gwaith Gruffudd Owen 8.5

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Ymweliad

Tanau Tawe

Rhythaf ar bob ystafell,

Trysorau, byrddau o bell,

Lliwiau gardd, a thlysau gwych

Drwy yr hafnau dodrefnwych,

A gwelaf remp ddig’wilydd

Drwy’r hen rwysg yn crwydro’n rhydd.

Ar fur, yn llun teulu’r tŷ,

Wele harddwch disgleirddu

Y gwas yn ymyl rhyw gi,

Dau a aned i weini ;

Arwydd pob uchelwriaeth

Gwneud y cain o gnawd y caeth.

Non Lewis yn darllen gwaith Robat Powell 10

Y Ffoaduriaid (GO)

(I fy mab pump oed sy’n mynnu dringo mewn i’r gwely efo ni yn yr oriau mân.)

O’i wely ar ymweliad

daw hwn i boenydio’i dad.

Y diafol dwyn y dwfe

sy’n joio llarpio fy lle.

Y cyw gog heijacio gwâl

ddaw ataf yn ddiatal

i swatio megis Satan

foch ym moch drwy’r oriau mân.

Be wnâi pan fydd babi ni’n

rhy hen i wâl rhieni?

‘Ddaw hiraeth am ddihiryn

y nos pan fydd hwnnw’n hŷn?

Gwennan Evans yn darllen gwaith Gruffudd Owen 10

Triban yn cynnwys y llinell ‘Gwyn fyd y ffoaduriaid’

Tanau Tawe

Gwyn fyd y ffoaduriaid,

wrth chwalu amaturiaid,

ond heno Rob, fe ddaw ein tro

i danio fel dewiniaid!

Non Lewis 8.5

Y Ffoaduriaid (GO)

Cânt fyw yn fras a'r damaid

o gardod hael dieithriaid

am gyfnod na ŵyr neb mo'i hyd;

gwyn fyd y ffoaduriaid.

Hannah Sams-Jones yn darllen gwaith Gruffudd Owen 8.5

Cân ysgafn: Rhyddhau’r Ffeiliau

Tanau Tawe

Wel dyma ni’n dwad

rhoi taw ar bob honiad

ond heb un esboniad, a rhaid bod camsyniad

Aeth rhain yn ddiniwad i barti.

Ond pam yr holl aros

fydd problem o’u dangos?

Fydd mwy yn ymddangos? Oes lot mwy i’r achos?

Bydd mwy yn ymddangos reit handi!

Ond rhaid bod ‘na warchod

a gwadu pob llofnod

a chuddio rhai hynod, o bob annibendod,

A’u gadael mewn syndod heb chwysu!

Ond chawn ni y werin

fyth weld ffeil mor gyfrin

gweld pwy oedd ‘da Epstein? Perthynas i’r brenin?

Pob un sydd yn dan-din a llwfwr!

Non Lewis 8

Y Ffoaduriaid (LlM)

Annwyl hybarch Glerc ac Ysgrifennydd Cyngor Plwy

Llan-gymhleth-llwyn-banana-dros-ben-llestri-tost-ar-wy.

Mae gen i deadline ar y gweill, a dyma gais ar frys

Am sgandals cân-dalyrnaidd. Yn gywirach, Iwan Rhys.

Rwyf wedi sgwennu cân i bob rownd Talwrn ers fy ngeni

Ond diffaith ddi-syniadau wyf i’r ornest gyntaf leni.

Oes protest am y cul-de-sac osodwyd ar y bend?

Ond sgenai’m jôcs am cul-de-sacs. Mae’r syniad yn dead-end.

Fy annwyl Glerc. ATEBWCH NAWR. Rwy’n mynd i gael y sac.

Da chi’n tynhau’r gyllideb, ond mae f’odlau dal yn llac.

Dwi’n desbret, ac mae Capten Rhys yn mynnu cracio’r chwip.

Oes rhywun wedi derbyn hop a naid yn lle cael sgip?

I’r Clerc. Tri dydd aeth heibio heb un ateb gennych chi.

Fe ddof fi ar eich holau â holl rym y BBC.

Oes cwynion am y sbwriel? Dwi am ddechrau chwarae’n fudur.

Y nesaf i gysylltu fydd fy mailiff; Marged Tudur.

Annwyl Iwan. Sori. Dy geisiadau aeth yn ofer.
Roedd teipo’n y cyfeiriad. Cofion, Cyngor Llanybydder.

Llio Maddocks 8.5

Ateb llinell ar y pryd – Heddiw yn Llanybydder

Tanau Tawe

Heddiw yn Llanybydder

Â’r rhai glew i herio’r glêr

Elin Meek 0.5

Y Ffoaduriaid

Hyn o ffeit sydd ddim yn ffêr

Heddiw yn Llanybydder

Gwennan Evans 0.5

Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Ymarfer

Tanau Tawe

Yn y pwll, rywbryd ar ôl yr wythfed hyd,

mae’r byd yn graddol sirioli.

Ymryddhaf, ymlaciaf,

ymgollaf yng nglesni’r dŵr.

Ar y naill law,

siarcod chwim y lôn gyflym

yn corddi’r dŵr yn ddiamynedd;

ar y llall,

crwbanod amyneddgar y lôn araf,

a’u Tai Chi llorweddol yn creu patrymau cain.

Yn y lôn ganol,

rwy’n dal fy nhir – neu fy nŵr –

am y tro,

a churiad cerddoriaeth fy mhen

yn fy ngyrru ymlaen

i herio llif amser.

Ymfodlonaf.

Elin Meek 9.5

Y Ffoaduriaid (HS-J).

Mae’n ddechrau tymor newydd.

Yn fy lycra, rwy’n mentro trwy ddrysau’r gampfa.

Cyn dechrau,

rwy’n llaesu’r llafariad,

ac yn cymryd llwnc o gytseiniaid.

Galla’ i glywed beirdd yn codi llinellau croes o gyswllt ar fariau haearn

A chlec y gynghanedd ac ochenaid

wrth i’r bariau ddisgyn a chodi’n acennog ac yn ddiacen am yn ail.

Yn y gornel,

rwy’n clywed y limrigwyr wrthi

yn odli ffwl pelt yn dawnsio i rythmau eu dosbarth Zumba,

a’r tribanwyr yn trotian i guriad ar y treadmill

tra bod telynegwyr yn dychmygu sglefrio ar hyd wyneb afon

ar y peiriant rhwyfo.

Yn fy lycra newydd,

ar ôl llaesu’r llafariaid,

a chymryd llwnc o gytseiniaid,

rwy’n barod i ddechrau.

Hannah Sams-Jones 9

Englyn: Wyneb

Tanau Tawe

(Wyneb plentyn yn Gaza)

Oer a main yw’r drem honno - ac yn wag

O nerth i ymbilio,

Ond o wain ei lygaid o

Gwêl enau dryll yn sgleinio!

Elin Meek yn darllen gwaith Robat Powell 9.5

Y Ffoaduriaid (GO)

Ar ôl canfod enw fy hen Nain, Sarah Jones, ar Ddeiseb Heddwch Menywod Cymru, 1923.

Os angof a di-gofeb - erbyn hyn

yw hen neiniau’r ddeiseb,

ni wn pwy byddem ni heb

eu daioni di-wyneb.

Llio Maddocks yn darllen gwaith Gruffudd Owen 9