Cerddi Rownd 1 2026
Pennill bachog: Cyngor i Chwareaewr/aig Rygbi
Y Manion o’r Mynydd
Os wyt ti yn fachwr, paid deisyf
Un ffafor wrth drafod â Gwyryf,
Mi fynn hi dy alw
Yn butain fach salw,
Peth garw i hwcar cadarngryf.
Tudur Puw yn darllen gwaith Nia Powell 8
Y Gwylliaid Cochion
Os ydych yn anhapus
â’ch trwyn neu’ch clustiau chi,
dewch i’r cae bach yma
i chwarae efo ni.
Ifan Bryn Du 8.5
Cwpled caeth yn cynnwys unrhyw derm yn ymwneud â gwaith coed
Y Manion o’r Mynydd
Er eu cryfder mae’r deri
Yn llwch yn nannedd y lli.
Alwyn Evans 9
Y Gwylliaid Cochion
Heno’n groes i bob un graen
yn ei fyd nid yw’n f’adwaen.
Rhiain Bebb 8.5
Limrig yn cynnwys y llinell ‘Pa un, meddech chi, ydyw’r gwaethaf’
Y Manion o’r Mynydd
Peldroedwyr yr hen elyn pennaf
Yn codi y cwpan haf nesaf
Neu’ch rhwygo yn dri
Gan Satan a’i gi
Pa un meddech chi ydyw’r gwaethaf
Alwyn Evans 8.5
Y Gwylliaid Cochion
Os ofnaf ryw hil mi a'i bomiaf,
os hoffaf ryw wlad mi a'i prynaf.
Cytunwch a fi,
neu helpa'i mo chi.
Pa un, meddech chi, ydyw'r gwaethaf?
Ifan Bryn Du 8.5
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Tŷ Gwag
Y Manion o’r Mynydd
(Mam)
Clicied yn diasbedain
ar ei drws; camwn trwy’r drain,
i agor y ddor ar ddoe
a nychdod ei byw echdoe,
Dod adra’, ond mae’r dodrefn
wedi’u rhoi, yn ôl y drefn,
yn ymborth rhad i’r morthwyl,
rhoi ar werth ei haur a’i hwyl,
Ond i’m ffroen daw i’m poeni
rhyw sawr hen, ei phersawr hi,
a’i harogl sy’n ymyrryd
yn nwfn fy nghalon o hyd.
Nia Powell 9.5
Y Gwylliaid Cochion
(Ar ôl gwylio adar y tô yn pentyrru mewn i nyth gwennol i gadw'n gynnes.)
Mae hi'n storm a meinws deg,
yn niweidiol, mae'n adeg
troi am sgowt, rŷm am sgwatio'n
y nyth un llawr lawr y lôn
yn gynnes mewn nyth gwennol -
dwyn ei nyth nes daw hi'n nôl;
mynnu ein to mewn tŷ haf,
dan fin gewin y gaeaf
ni sy'n mynd ar derfyn dydd
i gilio hefo'n gilydd.
Nyth gynnes heb wres yr ha'
yw dilema'r dal-yma.
Tegwyn Pughe Jones 9.5
Triban yn cynnwys y llinell ‘Ar noson Santes Dwynwen’
Y Manion o’r Mynydd
Mae ias, a noeth yw’r fedwen,
Mae eira gwyn yn gaenen,
Ac o’r marwydos prin yw’r gwres
Ar noson Santes Dwynwen.
Gwilym Rhys Jones 8.5
Y Gwylliaid Cochion
Ar noson Santes Dwynwen
aeth Dai a’r ddêt ‘fo Alwen,
ond diwedd trist fu, ‘nôl y si,
pan alwodd hi yn Olwen.
Rhiain Bebb 8.5
Cân ysgafn: Prawf
Y Manion o’r Mynydd
‘Roedd Brian mewn andros o benbleth a’i wallt wedi gwynnu jest,
‘Roedd ei frodyr a’i chwaer a’i fam hyd yn oed i gyd wedi hen basio’u Test.
Yr oedd yr hen Breian YN trio, fe wyddai Pwllheli a’r fro,
Cyhoeddwyd rhybudd argyfwng pan driodd o’r degfed tro.
‘Roedd am drio y Test unwaith eto, fe lanwodd bob ffurflen yn glir,
Ac ofnai y byddai’n troi’n sefnti cyn gwneud - mae’r ciw am y profion mor hir..
O’r diwedd fe ddaeth y diwrnod a’r profwr yn siarad yn blaen,
‘Ewch, pan ddowch at y cylchdro, i’r ffordd sydd yn syth o’ch blaen’.
Bymp bymp, bympti bymp, bymti bymp bymp, cyn i’r cerbyd ailgyrraedd y tar,
A holl Gennin Pedr y cylchdro yn fflatars dan deiars y car.
Ymlaen at y parcio cyfochrog, a’r profwr a’i goesau yn wan,
A Brian yn stopio yng nghanol y ffordd, wrth ochr nid cydrhwng dwy fan.
Fel malwen cyrhaeddwyd Y gongol i fagio o’i chwmpas yn giwt,
Ond Brian a ddringodd y cwrbyn. A chlec! Fe aeth rhyw deiar yn ffliwt!!!
‘Y lembo, beth goblyn a wnest ti?, meddai’r profwr,’We’ll never get back!!
Cael jac fydd raid i ni sortio hyn’. ... Meddai Brian, ‘Pwy gythraul ‘di Jack???’
Fe aeth ei fethiant yn feiral i gyrion yr Internét,
Ond mae’n dal i weithio’n llwyddiannus fel peilot ar jumbo jet.
Nia Powell 8.5
Y Gwylliaid Cochion
Yn ôl nhw s’nam rhaid cael cwrw er mwyn joio,
na yfed ‘navy rum’ i liwio llong.
Does dim rhaid mynd i'r dafarn i ymlacio,
ond dwi am brofi hynny’n hollol rong.
Mae posib mynd i ‘Werddon heb gael Guinness.
S’nam rhaid cael glasied mawr o bort ‘fo caws.
Maen nhw’n deud fod yfed dŵr yn lot fwy iachus
a cherdded adre’n sobor lawer haws.
Mi gei di win Cymundeb yn yr eglwys
a darn bach sgwâr o fara yn y dîl,
cyn belled bo ti ddim yn mynd yn farus
a sticio’i lond llwy de ar bnawn dydd Sul.
S’nam angen joch o wisgi i wella'r annwyd,
na gwydriad mawr o Falbec efo stêc.
Maen nhw’ deud fod “sbirits” ddim yn dda i'r ysbryd,
mai alcohol yw tarddiad pob mistec.
Dwi ddim yn siŵr pwy ydi rhein sy’n barnu
a’n meddwl bod nhw’n well na fi o hyd.
Dwi am daro lawr am beint neu ddau i'r Dyfi
i brofi pa mor ddwl ‘di “nhw’s” y byd.
Aeron Pughe 8.5
Ateb llinell ar y pryd – Yn y sêls fe brynais i
Y Manion o’r Mynydd
Car Llanybydder Ceri
Yn y sêls fe brynais i
Nia Powell 0.5
Y Gwylliaid Cochion
Yn y sêls fe brynais i
Beic gwyn a thair bicini
Tegwyn Pughe Jones 0.5
Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Cymorth
Y Manion o’r Mynydd
Dwi’n wag.
Dwi’n unig,
dan blisgyn bwrlwm fy mywyd.
Y tir a’i draddodiad yn aerwy drom
a minnau’n gaethwas triw.
Gobaith,
wedi’i gau mewn corlan,
a’m breuder
wedi’i fugeilio dan gochl.
Edrych ar fy nwylo.
Dwylo cadarn,
yn gwegian
dan bwysau codi’r ffôn.
‘Bydd ddewr!’
Cydnabod
‘Dwi ddim yn iawn!’
Wedyn ...
Mi gaf wella?
Gwilym Rhys Jones 9.5
Y Gwylliaid Cochion
(Clustiau March)
Mae’n hogi cyllell.
Y gyllell, dan olau cannwyll
yn ei gwyll ei hun - y gyllell
yn ei law; a’i law
yn tynnu’r llafn
dros garreg hogi.
Yn ofalus, mae’n tynnu’i min
dros groen ei war, tynnu min
y gyllell dros amlinell
gwythïen las. Tynnu’r ellyn
dan labed clust, yn dyner, yn gyrru ias
dan goler crys.
Ac mae’r dyn o dan ei ddwylo,
o dan ei lafn, yn gyfrinachau i gyd.
Yn gryndod eisiau gollwng, eisiau bwrw’r
cwbl mewn i’r glaw a’r nant
a'r brwyn.
Grug Muse 9
Englyn: Deddf
Y Manion o’r Mynydd
(Bil Diwedd Oes)
Mae’r gallu i bennu ein byw – yn hawl
tu hwnt i ddynolryw
erioed. Ai hyfdra ydyw
rhoi ar ddyn yr urdd o Dduw?
Tudur Puw 9
Y Gwylliaid Cochion
Deddf Hawliau Dynol
O adel ei ddiogelwch rhoddwn
ein rhyddid. Na hidiwch,
mae’n iawn. Cawn wared pob cwch
yn heli rhyw anialwch
Gwion Aeron 9



