Cerddi Rownd 1 2026
Pennill bachog: Rhybudd mewn Milfeddygfa
Beca
Cyn trin un creadur,
Boed fawr neu yn fach,
Gwnewch yn siwr fod perchennog
Yr anifail yn iach.
Eifion Daniels 8.5
Caerelli
Mae croeso i bob perchen/ a fynno’ch buwch yn iach,
mae lle i bob anifail/ beth bynnag yw eu strach.
Mae gofyn bod eich carden/ i’r banc, yn gadarn lawn -
ein greddf yw godro’n dyner/ boed fore neu brynhawn.
Denzil John 8
Cwpled caeth yn cynnwys unrhyw derm yn ymwneud â gwaith tŷ
Beca
Yn fy nhrôns neu ar fy nhrâd,
Ni allaf stilo dillad.
Eifion Daniels 9
Caerelli
Rhaid rhoi stop ar y mopio
os yw dyn am drwsio’i do.
Dilwyn Owen yn darllen gwaith John Manuel 9
Limrig yn cynnwys y llinell ‘Cyn belled â’i fod e’n bihafio’ neu ‘Cyn belled â’i bod hi’n bihafio’ neu ‘Cyn belled â’u bod nhw’n bihafio’
Beca
Nid ni yw’r ffefrynnau ‘ma heno,
Ond rhywfodd gall Tîm Beca lwyddo,
Cael marciau, llond bwced
Gall fod yn sgôr criced,
Cyn belled a’i fod e’n bihafio.
Eifion Daniels 8
Caerelli
Cyn belled â’i fod e’n bihafio
a chofio pa dîm sy’n ei frolio
bydd beirdd bach Caerelli
yn hapus ‘da Ceri,
ond yda ni wir yn ei drystio?
Eirian Dafydd 8
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Llwybr Cyhoeddus
Beca
( I gofio Jill)
Â’r gobaith maith hyd y mêr
Hon oedd ardal dy ddewrder.
Oet afiaith ein cymdeithas.
Fe heriaist, fe godaist gas
Arnaf i y llwfrgi lleddf
Â’m cwyn sy’n rhan o’m cynneddf.
Trwythaist hyd at yr eithaf
Yn rhan o glwb er yn glaf.
Synnaist bawb, swynaist y byd
A’th aeaf yn haf hefyd.
Enfys a erys ar ôl
I’n dyddiau yw dy waddol.
Rhiannon Iwerydd yn darllen geaith Wyn Owens 9.5
Caerelli
Yr hewl wledig a gerddai fy hen daid i’w waith ar Mynydd Parys ac a gerddwyd gan sawl cenhedlaeth o’r teulu.
Yn ias hewl a’i hun yn siôl
o anwes y gorffennol,
fy hunan dof i fynydd
fy hen daid ar derfyn dydd.
Hon a’i llwch i nain y lle
i edrych a ddoi adre’
ei thad o’i waith. Deuai hi
ar redeg a’i direidi.
Yng ngosteg y caregos
fy nhad yw f’atgof fin nos,
yn llais i hanes ein llu
hyd hewl a una’n teulu.
Eirian Dafydd 8.5
Triban yn cynnwys y llinell ‘Mae’n anodd iawn cymharu’
Beca
Mae’n anodd iawn cymharu
Fy ngardd â’r Kalahari,
Ond gwn, pan ddaw i’r ddaear naws,
Pa un fydd haws ei phalu.
Eifion Daniels 9
Caerelli
Mae’n anodd iawn cymharu,
dwy sosej heb eu blasu.
Os yw hi’n bîff neu banger porc,
ar ddant y fforc mae barnu.
Dilwyn Owen 9
Cân ysgafn: Codi Arian
Beca
Pwy yw’r rhain sy’n codi twrw
O Drefin i Eglwyswrw?
Codi bys i godi arian
O Gilgeti i Gilgerran?
Codi paish i ddilyn fashiwn,
Codi tâl am wledd Y Talwrn,
Codi llais, yn uwch na’r daran,
Codi’r to wrth ddyblu’r gytgan.
Cwis a chyri, rhostio mochyn,-
Nid ‘run drigodd yn Llwyncelyn;
Codi blas mynd mas i ginio,
Codi trwyn o weld y stwffio.
Ym Mlaenffos y mae ers tipyn
Ferched hŷn am nofio’n borcin,
Os yw’r gwŷr mewn claw yn cwato
Codi dwbwl am gael pipo.
O, na hwyl yw codi arian
 chefnogaeth ardal gyfan,
A’r gwmnieth sy’n ei hanfod
‘Narian byw i godi’r ‘Steddfod.
Rachel James 9
Caerelli
Alaw - ‘Claddu’r mochyn du’ (er parch i John Cwm Betws JCB)
Cyn bod wythnos fawr Eisteddfod -
bydd ‘na ardal yn darganfod,
bod na waith i gasglu arian -
dyna ddeunydd craidd pob ‘Clebran’,
Pwysig iawn yw’r digwyddiadau,
casglu cyfoeth cyfraniadau
trefnu llwyth o weithgareddau
er mwyn talu’r mynydd biliau.
cytgan:
Diolch am y rhoddion lu,
cash is king medd JCB,
mynydd mwy na Moel Cwm Cerwyn
fydd haelioni’r coffrau hyn.
Mae na raffl bob yn ddeufis
defnydd B-and-Bs y Cardis,
cewch chi aros yn y castell,
neu dan gromlech yn eich pabell.
Gwna holl feirdd tref Aberteifi
lunio cerddi pentigili
fel rhigymwyr ardal Beca
a rhoi’r tâl i’r ‘steddfod fwya’.
cytgan:
Diolch am y rhoddion lu,
cash is king medd JCB,
mynydd mwy na Moel Cwm Cerwyn
fydd haelioni’r coffrau hyn
Denzil John 8.5
Ateb llinell ar y pryd – Ym Mlaenffos mi hawliwn ffi
Beca
I’w chadw’n iach a’i chodi
Ym Mlaenffos mi hawliwn ffi
Eifion Daniels
Caerelli
Ym Mlaenffos mi hawliwn ffi
I weled y Preseli
Eirian Dafydd 0.5
Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Carreg
Beca
Bratha oerni’r llanw a thrai rhwng y clogwyni
a chwyrlia’r Pibydd yn ei ganfas llwydlas blin.
A thithe’n fforio’n braf yn y pyllau bás.
“Drych mam!
Pwyntiodd fys anturiwr bach at ei thrysor,
“Weli di rhwd yr edau rhedyn,
a sglein y gwlith
a’r smotiau sêr mewn llynnoedd mân? “
Gafaelais yn y garreg a chanfod ynddi gyffro’r cof.
Yma, bum innau’n rhedeg rhwng pennau tal y rhedyn,
a’r eithin lawr i’r traeth
gan fordwyo dros y cerrig rhydd
â’m breichiau’n hwyliau. .
Fel ti, ail gipiem ein clogfaen cyn rhannu gwledd Mamgu
lle cofnodwyd ein llanw a thrai cyn ffarwelio
a phlethu ein doe a’n hyfory rhwng ei wymon a’r heli.
“Dere cariad, awn gatre!”
Bachodd ei hysbail ac eilio “ tan tro nesa!”
Rhiannon Iwerydd 9.5
Caerelli
Ar gomin gwlyb ymysg y brwyn
fe safa faen o garreg las,
yn rhannu’r tywydd gyda’r ŵyn -
y dyddiau teg a’r gwynt llawn ias.
Yn gofeb gain i ŵr a fu
yn un o blant Mynachlog-ddu.
Rhwng bru a’r bedd gwahanlin sydd
i gofio lled blynyddoedd hir,
heb nodi dim o’i gred na’i ffydd,
na ffrwythau hael ei goeden ir,
na’i goel o’r gwir oedd ddiwahân,
na’i ddwylo mwyn a’i galon lân.
Dim gair yn sôn am gymar hael,
addysgwr doeth a chyfaill plant.
Dim pwt i gofio ffrind di-ffael,
gwrandäwr brwd ’da ’mynedd sant.
Rhwng bru a bedd gwahanlin sydd
i gofio un fu’n cario’r dydd.
Dilwyn Owen 9
Englyn: Sêr
Beca
O weld y dydd yn suddo – i dduwch
O ddoeau digyffro
Â’u drysau’n cau ar y co’,
Y sêr ddaw i’m cysuro.
Rachel James 9
Caerelli
Galar yw’r dagrau golau a wybu
am aberth eu hoesau,
lli hiraeth o allorau
rhoi’r hun i’r cread barhau.
Eirian Dafydd 8.5







