Cerddi Rownd 1 2026
Pennill bachog: rhybudd mewn festri capel
Talybont
Maddeuwn bechodau rif y gwlith,
trwy nefol rym ein bara brith.
Ond os am baned na fyddwch thýg,
na feiddiwch fyth defnyddio mýg.
Phil Thomas 8
Y Diwc
Llewyrcha Ei ogoniant
Wa’th Fe yw ein goleuni
Ond cofiwch ddiffodd popeth plis
Ar ôl bod yn y festri.
Martin Huws 8.5
Cwpled caeth yn cynnwys unrhyw derm yn ymwneud â fferylliaeth
Talybont
A oes rhai, wrth weld syrinj
yn gwawrio fathag orinj?
Anwen Pierce 8.5
Y Diwc
Arthur oedd methu chwerthin
‘Rôl jab, pŵr-dab, yn ei din.
Dewi Rhisiart 9
Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mi hoffwn i’n fawr fod yn aelod’
Talybont
Mi hoffwn i’n fawr fod yn aelod
o’r tîm fydd yn ffeinal y Steddfod,
ond heno’n Blaenffos
rwy’n glyd a jacôs
A Llantwd mor bell – dyna bechod.
Phil Davies yn darllen gwaith Anwen Pierce 8
Y Diwc
Mi hoffwn i’n fawr fod yn aelod
o Ferched y Wawr os daw’r diwrnod;
ar ôl cael yr op
rwy’n canu C top
ond a fydd y barf braidd yn ormod?
John Lloyd 8.5
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Ffos
Talybont
Ffos-y-Bleiddiaid, Swyddffynnon (fferm sy’n ein teulu ni ac a fu’n gartref am ganrifoedd i deulu Lloyd a oedd yn ddisgynyddion i Rhodri Fawr)
Yn fan hyn rwy’n cofio ni’n
do ifanc cyn ein dofi.
O dan y sêr gyda’n sŵn,
o’r gwair hir y gweryrwn.
Ebolion digon i’r dydd
yn winau o aflonydd.
Un hwyr, dim ond synhwyro
wnes dy hanes o dan do.
Y coed trawst, sŵn cliced drws,
aderyn mewn llofft storws.
Ac o nos eu cegin nhw
dihunais i dy enw.
Gwenallt Llwyd Ifan 9.5
Y Diwc
(Nadolig Wcráin)
Yn y ffos, dafliad o’r ffin,
Uwch y rwbel, clywch robin
A’i gân fel cloch dros gynnau’r
Ornest, ond â’i frest mor frau.
Arwr â’i gochni’n herio
Heidiau o frain ‘hyd ei fro.
Daw ôd enbyd i Donbas
Yn amdo blêr. Mwd a blas
Gwaed, nwy, baw, gydia’n ei big
Nid eli briwsion ‘Dolig.
Yn y ffos, dafliad o’r ffin,
Yn y rwbel mae’r robin.
Dewi Rhisiart 10
Triban yn cynnwys y llinell ‘Mae'n bosib cael llond bola’
Talybont
Mae'n bosib cael llond bola
ar fyw mewn byd llawn twpdra,
a dyna pam dwi'n pacio'n glou
a ffoi i Wlad y Rwla.
Anwen Pierce 8.5
Y Diwc
Mae’n bosib cael llond bola
â rygbi ar ei waetha’
ond a yw’r coffrau yn rhy fain
i’n harwain at y gora’?
John Lloyd 8
Cân ysgafn: Dewis Enw
Talybont
Ei waith oedd nodi enw pob cr’adur yn y Sŵ,
Pob Mwnci a phob Carw, pob Sgync a Gwdihŵ.
Ond wrth drosglwyddo’r data rhyw ddydd i ffeil Excel
Fe wasgodd ef y botwm rong a gwaeddodd ‘blydi hel’.
Cyn hir roedd Pwsi’r Bwji a Joey’r Gath, a’u plant,
A Jymbo’r Neidr Gantroed a Col yr eliffant,
A Begw blin y Camel a Humphrey’r Iâr a’u siort,
Ynghyd â Ceri’r Peithon yn awr yn destun sbort.
Gerllaw i gaets Goliath, Morgrugyn bychan bach,
Roedd cawell yn dal Siriol, Tarantula llawn strach.
Mewn pwll roedd Ben y Morlo, a hefyd ei chwaer Bil,
Ac Arthur bach yr Hipo, a Rhodri’r hen Arth swil.
Mae Heulwen Haf yr Ystlum yn hongian ben chwith lawr,
A’r Siarc, a elwir Tiddles, yn destun c’wilydd mawr.
Fe glywyd Gwyn y Pathew a Pat yr Arth fawr wen
A Cedric yr Hyena yn chwerthin ar ei ben.
Beth ddaeth o’r warden druan, a gawliodd enwau’r Sŵ?
Yr oedd y mwlsyn bellach ’da Wini yn y Pŵ.
Fe’i welwyd yn llawn dychryn, yn jengyd mas y bac,
O afael Smot y Sebra a Llew y Teigr crac.
Phil Davies 9.5
Y Diwc
Ar ôl clywed neges peiriant ateb
sinema ‘Showcase’
Chi yn cofio’r swagman
a’th draw o Dregaron,
ei fywyd yn randibŵ.
Wel, dyn o Awstralia
ac nid o Walia
oedd yn sinema Nantgarŵ.
Ei lais yn beiriannol,
(ai hwn yw’r dyfodol?)
y robot yn Nantgarŵ.
Anfaddeuol yr amarch,
dim angen llongyfarch
y fandal yn Nantgarŵ.
Fe gas e ddyrchafiad
a newid lleoliad,
y fandal yn Nantgarŵ.
Ar raglen foreol
ma’n lladd enwe lleol
fel ‘traffig ger Nantgarŵ’.
Martin Huws 8.5
Ateb llinell ar y pryd – Daw o hyd i olau dydd
Talybont
Daw o hyd i olau dydd
Ei enw dros Dalfynydd
Gwenallt Llwyd Ifan 0.5
Y Diwc
Daw o hyd i olau dydd
Un llinell ddisglair llonydd
Dewi Rhisiart
Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Atgyweirio
Talybont
Bu dan glo am flynyddoedd
tan fod angen y drws i drwsio’r beudy.
Yna fe’i ddyrchafwyd yn dŷ twt, yn gaer
ac ambell i waith yn llety unnos.
Wedi’r glaw, a’r goliau a sgoriwyd yn erbyn y talcen,
fe blisgodd y gwyngalch
a rhedodd y wal bridd mewn storom.
Mieri yw’r mur bellach.
Tyfodd glaswellt yn y landeri.
A gan fod gwerth yn y llechi
agorwyd y nenfwd
i’r sêr i gael pip arno.
Un diwrnod, mewn llafn o haul
deffrowyd y pentwr dail crin yn ieir fach yr haf.
A heblaw am y botel laeth werdd
a’r darnau sinc rhydlyd,
mae’r gwaith wedi ei gwblhau.
Phil Thomas 9
Y Diwc
Rhai o gamau adfer alcoholig
Beth ddiawl ti’n neud fan hyn?
Yn ysu am ddiferyn.
Mewn criw dethol ti’n grwydryn.
Agor dy lyged. Ti’n ddall?
Ildia i bŵer arall,
hwnnw all dy gadw’n gall.
Heb os, y cam yn heriol,
yn fwy, yn chwyldroadol,
dirdynnol ond dyrchafol.
Pyslan am sbel. Ti’n rhy hwyr?
Fe hoffet ti gredu’n llwyr
ond llosga dy ffydd fel cwyr.
Wnei di godi o’r rhigol:
myfyria’n ddwys, yn ddyddiol.
Grynda ar gyngor tadol,
ar rywbeth mwy na’r hunan.
Bydd modd dadwneud cyflafan.
Rhan wyt o oriel lydan.
Martin Huws 8.5
Englyn: Tâl
Talybont
[Andrew / Virginia Giuffre]
Ar fantolen ei lechen lân – aeth gwerth
Y gwir yn frasamcan;
I'r un barus am gusan
Nid yw merch ond newid mân.
Anwen Pierce 10
Y Diwc
Llond dy wmed o fwledi - a gest,
Renee Good, am boeni
I’th wlad, heb weld ei thlodi,
Werthu twyll, a’th wrthod di.
Dewi Rhisiart 9.5







