Main content

Rownd 2 - Y Glêr v Ffostrasol

Y Glêr

Trydargerdd - Neges yn esbonio absenoldeb o’r ysgol

Y Glêr
Athrawon wedi danto,
Minnau mewn car yn ranto …
Fe brynaf satnav mawr ei sgrin
Os byddaf i’n Fardd Plant ’to.

Eurig Salisbury – 8

Ffostrasol
Ni fydd fy mhlentyn Tomi
Yn dod i’r ysgol fory.
Mae sôn fod grŵp o rhyw wlad bell,
Yng Nghastell Aberteifi.

Emyr Davies – 8

Cwpled caeth i’w osod wrth fynedfa Neuadd Pantycelyn

Y Glêr
Mae'n neuadd ni'n brifddinas,
Ty'd draw mêt, a dere mas!

Eurig Salisbury - 9

Ffostrasol
Noddfa oes yw’n neuadd fach,
A’i hallwedd yw’r gyfeillach.

Emyr Davies – 9

Limrig - ‘Fe blygais fy nillad yn daclus’

Y Glêr
Gan fy mod i yn fachgen anghofus,
Mi blygais fy nillad yn daclus,
A sylwi wrth wisgo
Fy jîns am yr eildro
Fod beiro yn wrthrych peryglus.

Hywel Griffiths - 8

Ffostrasol
Ar y traeth

Fe blygais fy nillad yn daclus
Cyn mynd mas i’r môr yn reit hapus,
Ond wedyn uwchben
Daeth gwylan fawr wen
A dympio ei llwyth ar fy nhrowsus!

Iolo Jones – 9

Cywydd - Fy Hoff Le

Y Glêr
Na soffa saff, a oes well?
Diofid yw fy stafell
ar nos Wener. Na soniwch,
a rhyw niwlen drwy'r dre'n drwch,
am fynd mas, cymdeithasu,
roc a rôl a chwrw cry'.
Yma â 'nghi'n twymo 'nghôl
rwy'n ddewr o anniddorol
mewn slipers gwlân. Amdanaf
na phoenwch, ylwch: ni chaf
o gwbwl un trwbwl tra
yn ŵr saff ar y soffa.

Iwan Rhys - 9

Ffostrasol
O’r byd rwy’n cymryd camre
Nôl o hyd i fy hoff le
At yr hedd, a chael bob tro
Rhyw swyn wrth aros yno.
Lle unig sy’n fy llonni
Yw llys fy Afallon i.

I’w halogi ni ddaw neb
I sôn am holl gasineb
Hyn o fyd, na chwaith genfâu
O hen dwrist i’w herwau;
A gallaf lwyr ymgolli
Yn y fan sydd ynof i.

Dai Rees Davies – 8.5

Pennill ymson mewn arddangosfa gelf

Y Glêr
Er gweld o drwyn Llansteffan
Arswydo tir Cefn Sidan,
Nid ydi'r haul o dan ei glog
Â'r hebog heno'n hedfan.

Osian Rhys Jones - 9

Ffostrasol
Llun rhyw sied yn rhwd i gyd,
Caniau’n domen ar y stryd,
Ceffyl coch â chlustiau glas, -
Ble mae’r drws er mwyn mynd mas?

Dai Rees Davies – 9

Cân ysgafn - Y Gair Olaf

Y Glêr
“Gwlad y Menyg Gwynion! Dwedwch eich barn yn union,
mae'r byd eich hangen, mae'n wir!
Y wlad sy'n siarad o'r galon, rhoddwch yn hael atebion
i'n teyrnas eu clywed yn glir …
Lle rhown ein harfau niwclear? A pha dîm pêl-droed Lloegar
yw'ch hoff un chi, uff iw plîs?
'Dach chi o blaid arch-garchar? Pwy ydach chi'n ddilyn ar 'trydar'?
Mae angen cael gwybod ar frys.
A ewch i'r ’Steddfod eleni? Pam fod pawb yn caru rygbi?
Llefarwch cyn Sul y Pys!
Defnydd y gelyn o drones, minlliw newydd Alex Jones,
cewch ddweud yn blaen be' 'di be'.
Sut fedrwn achub yr hinsawdd? A ydych eisiau morglawdd?
(Fe wyddom am jyst y lle.)
Felly, Gymry, mae’n hollbwysig fod gennych farn i'w chynnig,
fe gewch ein diolch cyn hir.
Ond na soniwch yn Ngheredigion, da chi, am eich pryderon
am iaith na cholli tir:
yng Ngwlad y Menyg Gwynion ’chewch chi'm dweud eich barn yn union,
rhag ofn i chi gyffwrdd â'r gwir …"

Osian Rhys Jones – 8.5

Ffostrasol
Nid oedd y praidd yn Seilo i gyd yn bobl hen,
Er edrych yn ddifrifol, a neb yn rhoddi gwên.
Yr oedd ‘na reswm pendant am hyn a dweud y gwir,
Rôl gwrando am flynyddoedd bregethau sych a hir.
Roedd ganddynt ddannedd pwdwr, rôl sugno polo mint,
Wrth ddisgwyl y gair olaf i ddod yn dipyn cynt.
Y Parch un Sul gyhoeddodd i’r sawl oedd ar ddihun,
Ei fod e yn ymadael I Eglwys ym Mhen Llŷn.
Ar unwaith trefnwys tysteb, roedd ganddo ambell ffrind,
Nid fel rhyw werthfawrogiad, ond falch ei fod e’n mynd.
Does angen eich atogffa i’r Crëwr ar awr wan,
Greu Gogs, a iaith eu hunain, o Bont ar Ddyfi lan.
Ac felly roedd ‘na broblem, gan nad oedd iaith y Ne’,
I gyd yn ddealladwy a’r Parch yn dod o’r De.
Ond eto roedd ei bregeth ar rodio’r llwybr cul,
Yn gwneud y tro am fisoedd o’i chlywed bob dydd Sul.
Bu ‘chydig bach o gwyno, nad oedd botymau crys
A roddwyd yn y casglaid yn talu cyflog mis.
Ond dal wnaeth roi’r un bregeth, ac hefyd run tri phen,
Ac wrth ddod i’r gair olaf, mae pawb yn dallt Amsen.

Emyr Davies – 9

Llinell ar y pryd - Mae rhai yn hoffi ham rol

Y Glêr
Mae rhai yn hoffi ham rol,
Un wen nad yw’n wahanol

Ffostrasol
Mae rhai yn hoffi ham rol
Rissoles i dîm Ffostrasol

0.5

Telyneg -Taflu Cerrig

Cerddwn ni am dro lawr at yr afon,
at encil fach rhag sŵn y siop a’r parc,
law yn llaw at lan o gerrig llwydion
lle daw y criwiau iau i osod marc
eu chwyldro ar bileri’r pontydd pren
a chreu argaeau. Yno cydiaist di,
’rôl rhedeg at y dŵr, mewn carreg wen
a’i thaflu’n lletchwith. Do, fe chwerddaist di
ar gylch bach yn y dŵr, yr eiliad hir
nes bod y llif yn ’sgubo’r siâp i’r bae,
at siapiau coll yr oesau, olion tir
nad yw’n bod, ond rwy’n llon, oherwydd mae’r
un garreg fach a deflaist di o’th law
yn drwm ar lannau Rheidol yn y glaw.

Hywel Griffiths - 10

Ffostrasol
Mi ffoniais ddoe gymydog
Gan weiddi arno’n rhu
I gasglu tair o’i ddefaid
Ar frys o ‘nghaeau i.

Cymydog arall heddiw
Gynigiodd help i mi
I gasglu cant o ‘nefaid
Oedd yn ei phorfa hi.

Iolo Jones – 9

Englyn – Brwsh

Y Glêr
Yn ddig fy hwyl fe'i gwyliwn - dad a'i gŵyr
Du gwydn yn nefosiwn
Bore Sul syber, a sŵn
Y brwsh yn berorasiwn.

Eurig Salisbury – 9.5

Ffostrasol

O roi’n ysgafn rai dafnau –o’n hanes
Ar wyneb cynfasau,
Y mae oel ei holl themâu
I Aneirin yn eiriau.

Dai Rees Davies – 9.5

Cyfanswm
Y Glêr - 71
Ffostrasol – 71.5