Main content

Criw'r Ship v Bro Alaw

Criw'r Ship v Bro Alaw

Trydargerdd Gŵyl y Gelli

Criw’r Ship
Dewch draw i Ŵyl y Gelli
I weld darllediad Jamie.
Mae’n methu dweud sawl enw lle,
Ond mae Hay o fewn ei allu.

Arwel Roberts – 8.5

Bro Alaw
Rhaid mynd i Ŵyl y Gelli,
Rhag cael fy meio am gulni,
Mi bicia’i draw am hanner awr –
Ar ffor’ lawr i Gaerffili.

John Wyn Jones – 8.5

Cwpled caeth yn cynnwys gair o’r Ffrangeg

Criw’r Ship
Beth od, ond ers priodi
Mae Raoul ‘di troi’n Mari.

Arwel Roberts - 9

Bro Alaw
Mae famme fatale y Talwrn
Yn y Ship rwy’n eitha siwr.

Ken Owen – 8.5

Limrig yn cynnwys y llinell ‘Wrth fynd ar y bws i Gaerffili’

Criw’r Ship
Wrth fynd ar y bws i Gaerffili
Drwy Edern, Coedpoeth a Chwm Gwili,
Daeth cais o’r llawr uchaf
Am danio y satnav.
Atebodd y dreifar, “Wy’n ffili!”

Arwel Roberts - 8

Bro Alaw
Wrth fynd ar y bws i Gaerffili
Aeth mamau yr Urdd dros ben llestri,
Eu c’lonnau yn rasio,
Pan gawson nhw’u pasio
Gan Feuryn yn fflasio ei fini!

Ioan Roberts - 8

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Tyrfa

Criw’r Ship
Mewn gig Geraint Jarman

Down yn swil at ein gilydd,
y gwyfyn ar derfyn dydd
yn canfod ei ofod o’n
y golau, a ni’n gwylio’n
gymuned anweledig
yn y gwyll ar gychwyn gig.

Closiwn a dawnsiwn ar don
egnïol ei ganeuon.
Tiwn ar ôl tiwn yn tynnu
ni’n nes i’r lleill, nes i’r llu
ohonom rannu ennyd
o'r un ias a rhan o’i hud.

Nici Beech – 8.5

Bro Alaw
Bob blwyddyn yn ystod cyfnod tawel cofio trychineb Hillsborough yn Anfield, Lerpwl
mae sŵn aflafar gwylan yn tarfu ar yr awyrgylch

Yn ddi-gân mae’r dyrfa’n dod,
A’u dwndwr mwy’n fudandod,
Mae’n awr coffâd, a’r stadiwm
Heddiw’n drist a’r dydd yn drwm.
Yna’n glir, drwy sŵn y glaw,
Uwch dwyster y parch distaw,
Daw clebran hen wylan wen
 her eglur i’r rhaglen;
Edliw wna hon yn wawdlyd
Na chânt mewn tawelwch hyd
I gysur, ond drwy geisio
Y gwir hallt dros rai’n y gro.

Richard Parry Jones - 9

Pennill ymson beirniad yn Eisteddfod yr Urdd

Criw’r Ship
Mi ges i gan Ebrillwen Mai
Berfformiad graenus a di-fai.
Gan Medi Hydref, roedd y traw
Yn ddifrycheuyn drwyddi draw.
Roedd cynnal nodau Heulwen Hud
Yn well na’r gweddill oll i gyd,
Ond am i’w mam fy snogio i,
Meiriona Wyn sy’n mynd â hi.

Arwel Roberts - 9

Bro Alaw
Chafodd Zoë ddim llwyfan eleni - anghofio ei geiria, peth bach,
A dyna pam rydwi’n annhebyg o gael adra â nghroen i yn iach,
Dwi yng nghwt y swyddogion yn gwardio, mae’r teulu i gyd am fy ngwaed -
Mam Zoë, dwy nain a phum modryb a’i llysdad ’fo’i gi wrth ei draed
Tro olaf, byth eto, na, nefar, yn nwy fil un deg chwech mi na’ i’n well -
Fel pyndit TiFi answyddogol, ar soffa’n beirniadu o bell!

John Wyn Jones – 8.5

Cân ysgafn: Colli signal

Criw’r Ship
Dwi wedi cael ffôn newydd, y model gorau un –
Neu o leia roedd o’r gorau am bedwar pnawn dydd Llun.
Mae o’n ysgafn ac yn denau, yn wyrth o sgrîn a dur,
Ac am gelc bach ychwanegol, ges i gâs titaniwm pur.
Mae’n gamera, torts, recordydd; mae’n radio; mae’n dal dŵr
At ddyfnder o gan medr. Gallwch ffonio hefyd, siwr.
Mae arno apps rhyfeddol o bedwar ban y byd
Ac un app gwir anhygoel sy’n trefnu f’apps i gyd.
Mae o’n helpu pan dwi’n tecstio, yn hael yn cynnig gés
Am bob gair dwi’n ei deipio. Mae ganddo GPS
Sy’n dweud ble’n union ydw i bob awr o’r nos a’r dydd.
Dwi ar gael ble bynnag ydw i – yn gaeth, er mod i’n rhydd.
Pan mae gennych lu o ffrindiau – oddeutu pedair mil –
Mae negeseuon Facebook yn pingio rownd y rîl.
Dwi’n cael clywed, ond heb ofyn, am bob manylyn, bron,
O gysylltiadau LinkedIn efo’u sgiliau newydd sbon
I “berl” o lun o’r rhyngrwyd – rhyw gath fach, yn y bôn –
Neu drydariad newydd Llion mewn cynghanedd. Tewch â sôn.
Ac wrth i’r lleuad godi a minnau’n talu’r pris,
Un neges sy’n fy outbox. Ga i golli’r signal? Pliiiiis?

Arwel Roberts – 8.5

Bro Alaw
Ni allai Bonso sgwennu na darllen llyfrau chwaith
Am drin a thrafod defaid mae’n feistr ar ei waith.

Mae gennym ddealltwriaeth, “rhwydd gamwyr” ŷm ein dau –
Os na fydd Bonso’n gwrando fe’i ciciaf yn ei gnau.

Yn rasys mawr y gogledd fe wyddai beth i’w wneud
Gan ’mateb i bob chwiban a’r hyn ro’n ni’n ei ddeud.

Nid fel rhyw gi o Loegr yn cogio bod yn dallt
A’r bugail wrth y postyn yn rhegi a thynnu’i wallt.

Fe’i gyrrais rownd y defaid a saib i gael ei wynt
Gan ddod â nhw yn bwyllog o’r pellter ar eu hynt.

Fe’i heliodd yn ofalus drwy’r pyrth a’r pedair croes
Gan ymddwyn yn fonheddig heb stopio’i godi’i goes.

Nawr dim ond eu corlannu, gwnaed gwaith arbennig iawn,
Y dorf oedd yn grediniol y cawsem farciau llawn.

Ar ddiwedd pob ryw stori yn wastad mae ’na ond,
Ac ar yr eiliad ola fe safodd Bonso’n stond.

Gan godi’i ben fe ffroenodd ryw Ffi-Ffi ’ngerddi’r Plas,
Ei hormons oedd ymhobman – roedd Bonso am gael blas.

Fe chwalodd fwrdd y beirniad a’r defaid i bob man.
Roedd signal Ffi-Ffi’n gryfach a’m signal i’n rhy wan.

Geraint Jones – 8.5

Ateb llinell ar y pryd: Rwyf i yn siwr o gryfhau

Criw’r Ship
Dwi’n wael ond o gael golau,
Rwyf i yn siwr o gryhfau.

0.5

Bro Alaw
Dwi’n gam does neb yn amau
Rwyf i yn siwr o gryfhau.

Telyneg (heb fod dros 18 llinell) neu soned yn cychwyn â’r gair ‘Petasai’

Criw'r Ship
Petasai fy henaint yn cyrraedd heno
a fory yn taflu fy ienctid i’r cŵn,
nid galarnadu a wnawn, na sgrechian


fy mhrotest o doeau’r tai wrth ffarwelio
â chamgymeriadau a hen gariadon,
a chladdu camau gweigion


dan flynyddoedd profiad.
Llawenhawn am gael bod yn rhydd
o’r pwysau i godi baneri a dofi ’mreuddwydion


i gyd â dyletswydd at wlad ac iaith.
Cawn adael y gwaith o danio
gwawriau boreau’n rhyddid i


hyder seithug cenhedlaeth iau.
Yn hen, cawn fyw’n gysurus-farwaidd
heb boeni am bechodau fy ienctid


na’i gyfrifoldebau chwaith.

Elis Dafydd - 9

Bro Alaw
Niwl

“Petasai’r niwl ma’n clirio
cawn inna’ weld yn glir
heb orfod anobeithio;

cael gweld y coed yn deilio,
gwanwyn yn llenwi’r tir...
dim ond i’r niwl ’ma glirio;

gweld hada’ yn egino
gan suo’n gnwd ar grindir
heb imi anobeithio,

neu’r atgof am gofleidio,
y gwasgu llaw am hir...
dim ond i’r niwl ’ma glirio;

pe gallwn ganolbwyntio
clywn ddeunod cog o’r coetir
heb orfod anobeithio.”

Un llafn o weld y gwir
petasai’r niwl ma’n clirio...
ac oes o anobeithio.

Cen Williams - 9

Englyn: Cerdyn

Criw’r Ship
Dyma noddfa ein hawddfyd yn annog
a chynnal ein gwynfyd
a'n hadfer drwy bob adfyd.
Gyda'r ' hawdd' daw'r llogau drud.

Gari Wyn - 8.5

Bro Alaw
Heddiw ces ddau wahoddiad – un i roi
nghroes a’r llall gyfraniad
gwaed, at ddiben cyflenwad.
Ddoe roedd rhaid i ‘Nhaid a ‘Nhad.

Geraint Jones - 9

Cyfanswm
Bro Alaw -69.5
Criw’r Ship – 69.5

Rownd Ychwanegol


Gair i’w roi mewn llinell. Enw’r tim sy’n eich gwrthwybebu.


Criw’r Ship
Rho eiliad i Fro Alaw

Bro Alaw
Criw y Ship yn caru siopa

Cyfanswm
Bro Alaw – 70
Criw’r Ship – 69.5