Tir Iarll v Ffoaduriaid
Trydargerdd: neges yn cychwyn deiseb
Tir Iarll
Anghofiodd byd anghyfiawn
am dy hawl, ond o'r cawl cawn
ymyrryd, cymryd camre.
Rho dy lofnod yn ei le.
Aneirin Karadog – 8
Ffoaduriaid
Dyma’th gyfle i wneud gwahaniaeth,
sefyll dros yr hyn sy’n iawn
cyn cael suddo nôl i’r soffa
i wneud dim am weddill p’nawn.
Gwennan Evans – 8.5
Cwpled: Gair o’r Eidaleg
Tir Iarll
Mae'r bella donna'n dal dig
yn ei hanian gwenwynig.
Emyr Davies - 9
Ffoaduriaid
Mae dwyn hen Brima Donnas
Taeog gynt yn dacteg gas.
Gruffudd Owen – 9
Limrig: Mae’n debyg na ddylwn i chwerthin
Tir Iarll
Mi glywais am foi o Lanelli
oedd â problem cael limrics i odli,
roedd o'n dipyn o giamstar
tan ddiwedd lein pedwar...
mae'n debyg na ddylwn i chwerthin.
Tudur Dylan – 8.5
Ffoaduriaid
Mae’n debyg na ddylswn i chwerthin
wrth weld gwylan yn caca ar rywun
ond os yw y sawl
yn dipyn o ddiawl
mae’n well nad yw’n gwneud ar y pafin.
Gwennan Evans – 8.5
Cywydd: i unrhyw gantor neu gantores
Tir Iarll
Paul Robeson
O'r feinyl, am ryw funud
Dôi â'r gân yn stori i gyd;
Bwriai'i oll cyhyrog, brau,
Yn grynedig i'r nodau,
Nodau eiddil dioddef,
Yn gôr o un â'i sain gref
A chân yn llawn gwaed a chwys;
Alaw werin ddolurus
Yn bader i bawb ydoedd:
Galw Duw o'r gwaelod oedd.
Heno rwyf a hi'n hwyrhau
A'r record yn llawn craciau.
Emyr Davies - 10
Ffoaduriaid
Dyw’n geiriau ond yn geriach
tabŵ, neu rwdlian plant bach,
wir, i drwch y stryd wâr hon
a di-liw ’di alawon
ein hiaith i’n cymdogion ni.
Sut gallwn, nos dy golli
wrando curiad diatal
eu twrw hwy’n dod trwy’r wal?
Uwch eu reiat, chwaraeais
yn glir, alaw hir dy lais,
ac acen cân ryw gwcw
nes yr hwyr yn si'r hwi hw.
Llŷr Gwyn Lewis – 9.5
Pennill ymson: Mewn cyfarfod Pwyllgor
Tir Iarll
Ym mhwyllgor Barddas
Pwy fydd y cyntaf i gwympo i gysgu?
Pwy fydd y cyntaf i gynganeddu ei chwyrnu?
Pwy sylwith gyntaf ‘mod i wedi cnecu?
Pwy all wneud englyn teilwng o’i chlec-hi?
Aneirin Karadog – 8.5
Ffoaduriaid
Does gen i’m cworwm nac agenda
na chyfansoddiad llychlyd chwaith
nac is adran pum pwynt pedwar
cymal un hyd tri deg saith.
Neb yn gwneud cynigion gwirion
na chynnig llu gwelliannau maith.
Mae’n dipyn haws bod yn gadeirydd
pan mond fi di’r pwyllgor gwaith!
Gruffudd Owen – 8.5
Cân Ysgafn: Drannoeth y Ffair
Tir Iarll
Am hŵt! Bu canu ac adrodd a dawnsio’n y dail,
tan berfeddion, bu sgrechian a chrawcian a chri,
welodd “Y Dderwen Ger y Lli” rioed gystadlu mor frwd
medd mewnfudwraig o wylan, “they’re out of their tree!”
Yn gaib, fflachiodd turtur blu ei chwt ar jac-do
ond rodd o ar berwyl sguthan a’n gneud llygad llo
pan gynigiodd reit strêt iddi “tisho byw daili?”
ac mi ystyriodd a chŵian ...wel toedd y gloman ‘di dal hi!
Ar wahân ar bell glwyd, yn feddw lord, gwgai’r ffesant,
dan ei guwch gloywi iaith, troiai’i big rêl hen doff,
damiai’r ciaridyms â’u holl fratiaith o’r unlliw -
rwtch “brân i frân yn rhywle”, deuai Hayley i’w Hoff.
Roedd y dryw bach yn tampan, “y crechidindon diawl,
little man sindrom, Jac y bagle? Nawr gwed, ti moyn ffeit?”
Yna’i sgwario’i fel tae’n baffiwr o geiliog mewn talwrn
ond y cwrw odd yn siarad, gwyddai toedd o ddim cweit.
Er i’r haul ers ei deirawr syllu’n danbaid a chry
ni chlywyd run nodyn gan y gwawr-gorws fry;
ambell ebwch go wachul a thuchan poen bol...
roedd blwyddyn arall eto nes deuai’r steddfod ryng-ganghen-ol!
Dafydd Emyr - 8
Ffoaduriaid
Ddoe, es i’r ffair, yn ifanc a ffôl
i chwilio am gariad i’w lapio’n fy nghôl;
ac yno y gwelais y ferch hardda’n y wlad
yn nofio yn llunaidd mewn sach blastig rad.
Roedd ei chroen fel y machlud, a’i chynffon mor goeth
a’i dawns mor ddisgleirwych, a’i llygaid mor ddoeth.
Ei henw oedd Morfydd, a’i hennill a wnes,
y bysgodferch brydweddol a’i chynffon fel lês.
Marchogom yn dalog ar y meri-go-rownd
a daliais i sach fy nghariad yn sownd.
Ar reid y trên sgrech swatiasom yn glos
a llowciasom yn awchus ein candi fflos.
Fe garem ein gilydd, waeth beth ddywed neb;
‘rhen Ruffudd mawr barfog, a’i Forfydd fach wleb.
Ond och! Fore trannoeth, wrth ddod lawr y staer
roedd drewdod pysgodllyd yn llenwi yr aer.
Fe daeraf i yma nad oes cynddrwg dranc
na chanfod eich cariad yn gelain mewn tanc.
Does dim i’m cysuro drannoeth y Ffair
ond yr atgof am Forfydd fy nhlws ‘sgodyn aur.
Gruffudd Owen – 9
Ateb Llinell ar y pryd: Wedi’r bleidlais holais i
Tir Iarll
Charlotte yw wyres Charlie,
Wedi’r bleidlais holais i
Ffoaduriaid
Wedi’r bleidlais holais i,
A yw’n fory’n fueri
0.5
Telyneg neu Soned: Ffenest
Tir Iarll
Gwelais fy nhad yn edrych, sawl bore,
drwy ffenest na welwn ddim byd drwyddi.
Fe’i gwelwn yn gwylio byd o bethe
na allaf i hyd yn oed mo’u henwi.
Gwyliai e ymadroddion yn prancio
yn ŵyn draw ar ddolydd o feddyliau,
fe welai ffordd o fyw llawn tanco
a phesgi ar gigoedd coeth y geiriau.
Cododd chwilfrydedd ei grafangau’n ddraig
ynof un bore, es at ei ffenest,
arni roedd ei ana’l a llwch Cymraeg
yn drwch fel na welwn ddim o’r loddest.
Gyda “so long” bu i ‘nhad ganu’n iach,
nid yw fy iaith ond yn un ffenest fach.
Aneirin Karadog - 9
Ffoaduriaid
Yn yr ystafell aros mae ffenest fach fud yn y gornel uchaf
sy'n llawn sgrechfeydd Nepal.
Yn llwydni aneglur y static meddyliaf i mi weld bysedd bychan
yn ceisio dal eu gafael ar rhywbeth, rhywun.
Ond mae'r llinyn rhwng ddoe a heddiw
wedi ei dorri'n ddau.
Mae'r llwch yn lliwio popeth; yn duo'r gwaed.
Maen nhw'n ein galw i mewn
a dwi'n gorwedd nes bod byd o fol o'm blaen.
Llysnafedd oer llithrig, a wedyn llun -
mae'r eira'n clirio a'r ffenest yn llenwi
i ddangos bod calon arall yn curo tu mewn i mi.
Mae dagrau'n cosi fy nghlustiau
wrth i'r ddaear grynu.
Casia Wiliam – 9
Englyn: Potel
Tir Iarll
Ei rhoi i'r don a'r ewyn - nos o haf
wnes i, ond ddaw rhywun
i glywed na ddaeth wedyn
y don yn ôl... hyd yn hyn?
Tudur Dylan Jones – 9.5
Ffoaduriaid
Erioed yn fy seler i - hen hunllef
o winllan sy'n chwerwi
mewn potel ddofn. Rwyn ofni
yn sobor ei hagor hi.
Gruffudd Owen – 9.5
Cyfanswm
Tir Iarll – 70.5
Ffoaduriaid - 72







