Main content

Y Cŵps v Crannog

Y Cwps v Crannog

Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 140 o nodau cyfrifiadurol): Gair o gyngor i joci

Y Cŵps
Gwisg drôns dan dy gilt yr hen Joci
Wrth dorri yn rhydd, rhag dy fo’ ti
Wrth groesi y ffin
Yn dangos dy din
I geffyl y Cwîn sy’ tu ôl ’ti.

Arwel Jones – 8.5

Crannog
Mewn ras i ennill calon
Gwell cymryd Pwyll drwy’r troeon
Cans ofer yw carlamu’n ffôl
Wrth fynd ar ôl Rhiannon.

Hywel Rees – 8.5

Cwpled caeth addas i’w osod wrth fynedfa darlithfa

Y Cŵps
Newydd hen yw’r neuadd hon,
Coleg rhwng muriau culion.

Huw Meirion Edwards -9

Crannog
Cofia drannoeth doeth a da
Amau’r hyn ddwedwyd yma.

Eirwyn Williams – 8.5

Limrig yn cynnwys y llinell ‘Camsyniad diniwed oedd holi’

Y Cŵps
Camsyniad diniwed oedd holi
Am weld y tatŵ ar ei bol-hi,
Ond o dan ei ffedog
Roedd limrig ardderchog
Gan Crannog. Mi ges f’ysbrydoli.

Geraint Williams – 9

Crannog
Camsyniad diniwed oedd holi
Y t’wysydd am gestyll y Cymry
Atebodd y wraig
‘ Mae’r rhai yn Gymraeg
Ond un Saesneg sydd gan Aberteifi.’

Hywel Rees – 8.5

Cywydd (heb fod dros 12 llinell) yn cychwyn a gorffen â’r un llinell

Y Cŵps
Palu

Daw Ebrill i’m dadebru
Ar larwm syn deryn du.
O dan fy ngwinedd heddiw
Mae baw’r ardd, ac ym mhob briw
Deffro’r hud mae gwaed a phridd
Dan geulo’n dynn i’w gilydd.

Dyfal fel Taid y palaf,
Gloywi rhaw yn oglau’r haf.
Rwy’n llenwi grynnau llynedd,
Rwy’n hau ddoe ar newydd wedd.
Ym myd gwyn y deryn du
Daw Ebrill i’m dadebru.

Huw Meirion Edwards – 9.5

Crannog
Cae’r Vetch sy’n allotments bellach

Mae’r Vetch yn gabetsh i gyd,
Waun Dew y garddwyr diwyd;
Yn ddi-hid carfan a ddaeth
I balu fy mabolaeth,
I droi Eden yr enaid
Yn bys, yn bannas di-baid
Ac ar y maes bags Grow-more
A saif lle dawnsiai Ivor.
Onid gwarth yw gweled gwedd
Y moron lle bu mawredd?
A chof yn fresych hefyd
Mae’r Vetch yn gabetsh i gyd.

Idris Reynolds – 9.5

Pennill ymson mewn siop fferyllydd

Y Cŵps
Mae gen i stwff peils, mae gen i bwmp asthma,
Mae gen i dabledi dŵr poeth a phoen cylla,
Mae gen i sawl eli at gosi neu gnofa
A’r moddion ers imi bron iawn ddal niwmonia,
Mae gen i rhyw hufen at ffwng neu facteria
A dropie i’w cymryd pan fydda i’n bethma.
Felly dwedwch i mi, pam ddiawch ddes i yma?
O ie, i gael pils at yr hypochondria.

Geraint Williams – 8.5

Crannog
Er bod ‘na gleifion rif y gwlith
Yn llanw yr heolydd,
Camsyniad ydoedd dod i Lourdes
I agor siop fferyllydd.

Eirwyn Williams – 8

Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau a heb fod yn soned): Arolwg Barn

Y Cŵps
Mae’n flwyddyn lecsiwn leni,
Mae’ch barn chi’n bwysig inni,
A dyma’ch cyfle chi yn nawr
So, gwnewch yn fawr o’r holi

I siapio eich dyfodol.
Pa siap sy yn ddelfrydol?
A’i sgwâr, ta cylch, ta hexagon
Neu boligon safonol.

O ddod yn ôl i’r byd ’ma,
Fel terier neu jiwawa?
O fod yn bwdin, pwdin reis
Sa’n neis, ta darn o fara?

A hoffech fod yn bolyn,
Neu fod, efallai’n, rhosyn,
Neu ydych chi yn gweld eich hyn,
Fel dyn, yn ddim ond chwynnyn?

Mae’n wythnos lecsiwn dydy
A’ch barn yn cael ei nodi
Am bob math o bynciau dwys
O bwys i’r sawl sy’n cyfri.

Arwel Jones – 8

Crannog
Heb ysbieinddrych y Gweledigaethau
Caf gip ar y wlad drwy wydr canrannau.
Mae mwyafrif yn teimlo, er clyfred eu ffons,
Taw chwaraewr rygbi yw Carwyn Jones.
Yn Aberteifi credodd un y cant
Fod y Bellow Head yn barti cerdd dant,
A sylwais fod cyfran sylweddol ym Meifod
Yn meddwl mai sioe anifeiliaid yw’r Steddfod.
Yn Aber a Hwlffordd mae pob un yn mynnu
Nad yw Bwrdd Hywel Dda mor dda a hynny
Ond mae dwy farn bendant ar bentiroedd yr iaith –
A yw’r heiffen yn ddigon i arbed Tresaith/Tre-saith?
Wyddai neb yn Poundland a oedd kilo yn bownd
Ond ym Môn mae’n nhw’n siŵr nad yw’r byd yn un rownd.
Mae Oweniaid Iwlo am newid y brand
A symud y pentref i Enger-land
Ond yng Nghasnewydd bydd pobol Maesaleg
Erbyn diwedd y ganrif yn wilia’r Wenhwyseg.
‘Does dim yn y byd na allwch chi honni
Drwy ddewis y cwestiwn a phwy ych chi’n holi.

Idris Reynolds – 8.5

Llinell ar y pryd – Y Mae’r môr a’i rym o hyd

Y Cŵps
Y Mae’r môr a’i rym o hyd
Yn unben hardd o enbyd

0.5

Crannog
Y Mae’r môr a’i rym o hyd
Yn chwalu a dychwelyd

0.5

Telyneg (heb fod dros 18 llinell) neu soned: Ar y Cyrion

Y Cŵps
(Teitl cyfrol o storïau byrion gan Harri Pritchard Jones. Cynnyrch deng mlynedd o lenydda)

Ti oedd y canol ymhob cyfarfod
gan arllwys gwin dy feddyliau o hyd;
y bon viveur gyda'th stori barod.

Ti oedd y canol ymhob un pwyllgor,
y llyw penderfynol; â'r llygaid hael
oedd unig agenda gwên dy gyngor.

Ond profaist hefyd yrfa anfoddog,
a'i charu hithau; ei chofleidio hi.
Anwylo claf a'th fwynder cyhyrog.

Mynnaist loches y mannau gerwinaf,
Ynysoedd Aran yr Iwerydd gwyllt;
canol llonydd y gorllewin eithaf.

 llygaid ffydd bu dy ddawn fforensig
yn datod dogma a’i meddiannu hi;
ti feirniad ufudd dy fyd Catholig.

Lladmerydd parod dy eglwys estron
yn dawel heddiw, ond mae’th Requiem di’n
rhoi Duw yn y canol; da was ffyddlon.

Dafydd John Pritchard – 10

Crannog
Mewn cilfach lle mae’r carafannau’n drwch
Tu hwnt i lygaid pŵl y clwstwr tai
Dim ond gwylanod, odyn a dau gwch
Sydd wrthi’n mesur mynd a dod y trai.
Er mor agored ydyw’r hafan hon
Ym mhen draw’r byd pan chwytho’r gwynt o’r bae
Heb unrhyw glawdd i atal ton ‘rôl ton
A thorri grym y llanw fel pe tae
Ger glannau y Gorllewin eto bydd
Rhyw ddau neu drri o Gymry crwm eu gwar
Yn gwylio’r haul yn machlud ar ei dydd
Uwch ben sawl peint yng nghornel pella’r bar.
Ac ar y traeth cawn godi cestyll tywod
Tra byddo’r Frenni’n ddigon mawr i’n gwarchod.

Hywel Rees - 9.5

Englyn: Barf

Y Cŵps
Ydyw, mae'n go drawiadol, - er hynny,
Er yr haenau hudol
Sy'n drwm at y botwm bol -
Ar Hawys nid yw'n rhywiol.

Iwan Bryn James – 8.5

Crannog
Tu ôl i’r farf hudolus – a brethyn
Ei brithwe roedd switsys;
Ym mhaent dy fyd rhamantus
Erys yr her, Osi Rhys.

Eirwyn Williams – 9

Cyfanswm
Y Cŵps – 71.5
Crannog – 70.5