Main content

Caernarfon v Y Fforddolion

Trydargerdd – dadwneud camgymeriad

Fforddolion
#Pabam Pedr@yreglwys : Os anwadal am noson ydoedd hwn, fe rannodd ei
werthoedd drwy roi’r Gair i’r byd ar goedd o’i Rufain am ganrifoedd.

Geraint Roberts – 8.5

Caernarfon
Duw ddihunodd y dydd hwnnw a dweud:
"os dyn ar fy nelw sy'n troi fy myd yn lludw, myn diawl, gwnaf fotwm undo".

Llion Jones – 9.5

Cwpled yn cynnwys gair Almaeneg

Fforddolion
Mae brenin llawer llinach
yn anian pob baban bach.

Mari Lisa - 9

Caernarfon
Ein Führer yw Herr Ceri
Ac unben ein hawen ni!

Ifor ap Glyn -9

Limrig yn cynnwys y llinell ‘Rwy’n siwr i mi glywed y gwcw’

Fforddolion
Rwy’n siŵr i mi glywed y gwcw
yn dweud wrth ei ffrind, Desmond Tutu,
“Beth am fynd i Gwm Deri?
Cawn fod ar y teli
os ddysgwn ni ddweud ‘uffach-gols-w’”.

Mererid Hopwood – 8.5

Ar ôl imi dynnu y twtw
Ac eistedd i lawr i gael pwpw
A thuchan yn galed,
Er mor drwchus y pared
Rwy’n siŵr i mi glywed y gwcw.

Ifan Prys – 9

Cywydd - ‘Twm Siôn Cati’

Fforddolion
Rywle, a hi’n loer olau,
a gwynt yr helynt yn hau
yn fy nos ofon eisiau,
mi wn y daw; … mae’n un … dau … .

Rhy gras yw tincial alaw
hen lestri aur y plas draw
i’r sgweier crand gael gwrando
cri caledi’n nhwll y clo,
ni ŵyr e lais chwyldro’r lôn
a’r taliadau i’r tlodion.

Ond gwn y daw. Daw’r march du.
Daw f’arwr, cyn daw fory.

Mererid Hopwood – 9.5

Caernarfon
Bob diwrnod, rhwng penodau
Min nos, byddwn i’n mwynhau
Mor ddiofal ers talwm;
Cogio anturio fel Twm,
Rhodio’r fro, reidio ar frys,
Heglu hyd Ffordd Beryglus,
Dwyn yn graff, denig â’r aur;
Ewn fy anian; a finnau’r
Hogyn, â’i glogyn a’i gledd
Smal, yn Dial o’r Diwedd
Mewn byd dychmygus, dudew
Bron, Ymysg Lladron T. Llew.

Ifan Prys – 9

Pennill ymson mewn twba twym

Fforddolion
Yn yr ardd, rwyf wrthi’n ymlacio,
ar fy nghefn, mae hyn yn gwneud lles,
a chael bod yn un gyda natur,
yn rhydd yn y swigod a’r gwres.

A gwelaf rhyw grychydd yn hofran,
mae’n gweld ei bryd nesaf o fry,
ac mae’n gallu plymio i’r dyfroedd
a dal yn ei big . . . fy Aaawwiii!

Geraint Roberts – 8.5

Caernarfon
Mae’r swigod yn chwyrlïo
a minnau yn pitïo
y seithfed rhech a aeth yn drech -
Daeth siolen i’m difrïo.

Geraint Lovgreen – 8

Cân ysgafn – ‘Go brin’

Fforddolion
Fe gewch chi os mynnwch, ond bod yn garedig,
fy ngalw yn onest neu ’falle yn sinig,
Y gwir plaen amdani yw’r toreth o straeon
sydd mor annhebygol nes codi amheuon.
Meddyliwch yn gyntaf am Adda ac Efa
yn joio yn Eden, nôl reit ar y dechra.
Go brin y byddai y ddau mor annoeth
â cherdded o gwmpas yn hollol noeth
gan wybod fod neidir yn cuddio’n y bloda.
Mi fyddai dyn call wedi’i gwadnu hi o 'na.
A dyna chi'r hanes am broffwyd, sef Jonah,
yn hwylio am dridiau yn hapus drwy’r tonna’
yng nghrombil hen forfil - go brin byddai byth
’di bod 'na cyn hired heb golli pob chwyth.
Mae sôn fod ’rhen Arthur a'i osgordd mewn ogo’
yn disgwyl yr alwad i godi a deffro.
Go brin na chlywson nhw larwm y braw
wnaeth siglo Cymru yn saith deg naw.
Felly, go brin o ddeall na allwch chi
weld achos fy holl siniciaeth i.

Dafydd Williams - 8

Caernarfon
Yn chwedeg oed eleni, a newydd ddod yn daid,
mae’r amser wedi dyfod imi wneud yr hyn sydd raid:
rhoi heibio’r stwff bachgennaidd, ac ymddwyn yn gyfrifol;
mynd i dŷ bwyta ar nos Sadwrn, nid rownd dre ar bybcrol;
treulio pob pnawn Sul yn tyfu llysiau yn yr ardd;
rhoi’r gorau i rigymu ffôl, a trio bod yn fardd;
mynd i rywle o ddiddordeb bob dydd efo’m bus pass;
stopio gwrando ar Yr Ods, mwynhau goreuon Crysbas;
mynd i’r ŵyl gerdd dant a doethinebu am y bwrlwm;
deud wrth bobol ifanc fod pob peth yn well erstalwm;
dechrau cael y Times bob dydd a pheidio darllen Viz;
anghofio’r Super Furry Animals, mynd i weld Les Mis;
treulio wythnos steddfod heb symud o’r pafiliwn;
deud “di Gareth Bale na neb ddim yn werth 70 miliwn”;
mynd i gonsarts Tonic yn y Galeri bob mis;
chware gwyddbwyll, gwneud jig-sôs, hel stampiau Japanîs;
gorwedd ar y soffa i gael napan bob prynhawn;
galw ar S4C i ailddarlledu “Disc a Dawn”;
dod yn aelod o’r Terfeliaid, mewn crys T sy’n deud “Go, Bryn!”
Ydi’r pethau hyn i gyd yn mynd i ddigwydd te? Go brin.

Geraint Lovgreen – 9

Linell ar y pryd - nid oes modd dewis mi wn

Fforddolion
Mor ddel yw’r ddwy a welwn,
Nid oes modd dewis mi wn

0.5

Caernarfon
Rhwng secs a sefyll lecsiwn,
Nid oes modd dewis mi wn

Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Losin (neu Fferins neu Melysion neu Da-da

Fforddolion
Fferins

Pe na bai machlud, na man gwyn man draw,
na dod i oed, nac ofn, na chwmwl du,
a phe bai modd gweld enfys heb y glaw,
neu droi pob carreg lem yn glustog blu,
a fyddet wedi ysu am y ddêl
arferet ti ei chael yng nghôl dy fam,
fu’n lleddfu blas y wermod gyda mêl
pan dynnai’r ffisig ei ystumiau cam?
Ni weli yn dy awch am bleser coll
fod i bob anterth ddyfnder, dydd ei nos;
bod bwrw allan dy gythreuliaid oll
yn codi diafoliaid byw o’r ffos,
sy’n alcemeiddio gwae i foddio’u blys,
gan gyfri’u pres, a byth yn cyfri’r pris.

Mari Lisa – 9.5

Caernarfon
Fferins

Pan fo dyn yn colli arno’i hun,
yn hepian cysgu mewn cartre henoed,
dyna pryd y deisyfa’r eiliadau siocled,
blas Nadolig yn ei geg,
yr hen lesmeiriol sipian
sy’n borth i niwl y cof.

Yno, ymhlith y cadeiriau caeth,
a theledu’r iaith fain yn efengylu’n uchel,
cura yn ofer ar ffenest pan wela
frân yn gollwng cregyn, fel gweddïau,
i’w malu ar gerrig y traeth;
ond mae cnoi cil ar daffi yn melysu’i siom.

Ac wrth ganu emynau’n y cartre heno,
- ‘fe sugna f’enaid innau’n lân’ -
fe ddegyma’r mintys o’u papurau cyndyn,
a’u rhoi ar ei dafod, fel afrlladennau
sy’n toddi’n ddim ond gwên ac atgof;
ac yna, daw’r paced i ben.

Ifor ap Glyn – 9.5

Englyn: Peiriant

Fforddolion
Er na egyr i’r curo, fe erys
ei leferydd heno,
yn nhir oer ei gartre o,
i ateb, ateb eto.

Mari Lisa – 9.5

Caernarfon
Nid yw sglodion ein ffonau, er eu grym
mor gryf â’r prosesau
hawlia’n bris am declyn brau
drueiniaid yn gydrannau.

Llion Jones – 9

Cyfanswm
Fforddolion 71.5
Caernarfon - 72