Aberhafren v Tanau Tawe
Trydargerdd: Neges yn apelio am gymorth
Tanau Tawe
Fe gludon ni’ch paciau lawer gwaith,
Eich cynnal a’ch codi ar hyd eich taith ;
A’r ddaear yn crynu, a fedrwch chi
Droi nôl i’r mynyddoedd i’n cynnal ni?
Angharad Davies – 9
Aberhafren
Garmon Ceiro wedi bod yn trydar yn ddilornus eto fyth am feirdd a barddoniaeth Gymraeg!
@Garmonceiro* Dryw yw sy’n paldaruo. Eilun bôrs, gelyn beirdd. I’r Ceiro, uwch ei wich a’i big bach o, o’i weld, rhowch fwyd. A’i waldio.
Owain Rhys - 8.5
Cwpled caeth yn cynnwys gair o’r Sbaeneg
Tanau Tawe
Ceisio Eldorado ’rwyf
O hyd – siomedig ydwyf!
Iorwerth Mort - 9
Aberhafren
A doeth iawn fu De Thanet.
Hasta la vista’r hen fêt.
Mari George – 9
Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mae’n gas gen i fynd i’r ysbyty’
Tanau Tawe
Mae’n gas gen i fynd i’r ysbyty
A phawb yn fy ngweld yn y gwely,
Ond er colli parch,
Fy holl hunan-barch,
Gwell hynny nag arch ac awr claddu.
Griff Williams - 8
Aberhafren
Mae’n gas gen i fynd i’r ysbyty.
Tro dwetha, drws nesa, mewn gwely
roedd un Dafydd Ap
yn diodde o’r clap.
Ai Morfudd, me’ fi, ynte Dyddgu?
Rhys Iorwerth – 8.5
Cywydd: Stondin
Tanau Tawe
Amser cinio daw tlodi
Tre’ noeth at ein cownter ni ;
Un â’i gwedd feinach na’r gwynt,
Gruddiau heb gyhyr iddynt ;
Oer yw hi, eisiau rhywun,
Wrth ein silff yn rhythu’n syn.
Rhannu lles nid cronni llog
Yw gair y banc trugarog ;
Ond â’m henaid dymunwn
Weled oes y maeldy hwn
Heb un cwsmer i’w herio,
A’i duniau gloyw o dan glo.
Robat Powell – 9.5
Aberhafren
Mae'n llywio'r car, yn aros
dan y niwl, a'r farchnad nos
wedi'i rhoi yng ngolau'r stryd
ar y cýrb. Stop i'r cerbyd.
Un cipolwg heb holi
pwy na pham, cyn pennu ffi’n
y duwch ar ôl dewis
o'r parêd, a setlo'r pris.
A chyn gwawrio, hawlio hon
i'w fyd o fân-drafodion.
Aron Prichard – 10
Pennill ymson mewn siop DIY
Nid oes modd cael ’mond un hoelen,
Nid oes modd cael ’mond un sgriw,
Nid oes modd cael ’mond un washer
Er hir aros yn y ciw ;
Maent fel llygod yn lluosi
Mewn pacedi seloffên,
Nid oes gwerth i un ddim rhagor,
Gorau arfer - arfer hen!
Harri Williams - 9
Aberhafren
Mae’r troli’n llawn o geriach
i greu o bren a thun
y cwt i storio’r sothach
rwy’n ’prynu o fan hyn.
Owain Rhys – 8.5
Cân ysgafn: Gwneud Arbedion
Tanau Tawe
Mewn cyfnod o gyni ariannol, roedd cyfoeth naturiol yr iaith
Yn wastraff adnoddau difrifol, yn ôl rhyw gudd bwyllgor, mae’n ffaith.
A daeth penderfyniad gan Carwyn bod rhaid torri ’nôl eto fyth,
Gan ddechrau drwy werthu’r plu hyfryd arferid eu rhoi yn y nyth.
Fe logwyd pob mul oedd i’w lyncu, a’r frân oedd i fod i bob brân,
Ac ar hen aelwydydd dros Gymru, yn amlwg, châi neb gynnau tân.
Ar ddiwedd y gân nid oedd ceiniog, buddsoddwyd yr hen ddime goch,
Doedd dim gobaith i neb gael caneri, a’r un peth yn wir am draed moch.
Os oedd gennych chi daten i’w hidlo, âi’r llywodraeth â hi ar wir frys,
A châi neb fwrw’r Sul braidd yn unman, a hynny tan ddydd Sul y pys.
Fe dynnwyd pob ffidil o’r atig, a’u rhoi i ysgolion y sir,
Bu casglu’r holl fêl oedd ar fysedd, a’r gwinoedd lle ceid yr holl wir.
Fe brynodd y Saeson y felin lle troesem ein gwenith yn flawd,
Diswyddwyd y meddyg, sef amser, a thagodd a mogodd ei frawd.
Cymerodd y siopau elusen bob esgid a wasgai yn gas,
A gwerthwyd yr aur, popeth melyn, a’r borfa oedd wastad yn las.
Ac yna, yn hollol ddirybudd, cyhoeddwyd bod popeth ar stop.
Doedd dim arian i redeg y cynllun; a’r hwch wedi rhedeg drwy’r siop.
Elin Meek – 9.5
Aberhafren
Ar frys darbodus, mi wnawn arbedion.
Awn a diweddu, meddai’n gwleidyddion,
â bwyell ddi-ildio’r gwario gwirion.
Yn ddewr rwy’n addo, medd arweinyddion,
ei ddweud a’i ddweud a dileu dyledion
anferthol ein gwlad. Ac er bwriadon
i ariannu’n hynaws ar ein hunion
longau niwcliar gwâr yn enw’r Goron,
rhaid mynd ymlaen, yn ein blaen i blanio’n
oes y diffyg, meddai’r siwtiau stiffion.
Oni chlywch chi hynt ein punt yn pwyntio’n
gronig tua’r tir coch peryg? Purion,
i’n diddori uwch ein bordydd hirion,
fydd tocio’n galed, crynhoi’n colledion
a lleihau’r diffyg, ond ni fydd ddigon.
Y gorau i’r bobol fydd troi’n grybibion
y rhes taliadau i bwrs y tlodion,
mynd ati i hollti fel pethau gwylltion:
dyna unig ddewis dynion bach clyd.
Ar hyd y byd, mae’n rhaid gwneud arbedion!
Rhys Iorwerth – 9
Llinell ar y pryd – Yn Llangynog heno caf
Tanau Tawe
Yn Llangynog heno caf,
Ganu hy yn gynhaeaf
0.5
Aberhafren
Yn Llangynog heno caf,
Yn fwrn fy nhalwrn olaf
Telyneg neu soned: ‘Pêl’
Tanau Tawe
Dau dîm yn dwlu arnaf
Yn fwy na’r byd yn grwn,
Ond garwedd tir priodas
Yw maes y cicio hwn.
Daw’r ’Dolig ag anrhegion
Na welswn yn fy myw,
A phob pen-blwydd yn wirion,
Penwythnos, parti yw!
Yn ôl y gwynt sy’n chwythu,
Fy ngyrru yma a thraw,
Chwaraewyr yn fy nghwrso
Nes baglu yn y baw.
Ryw ddydd o flaen dyfarnwr
A’r gweiddi yno’n groch,
Caiff un y bêl i’w chadw,
A’r llall y cerdyn coch.
Griff Williams – 8
Aberhafren
Ar bnawn o haf
pasiwn ein sgwrs at ein gilydd
yn dawel
ar gysgod o lawnt.
Ond dyma hi’n glanio’n fusnes i gyd
yn yr ardd drws nesa
a rhegwn
nad yw’r clawdd yn uwch.
Yna daw hi nôl
yn dawel.
Bownsio’n unig o‘n blaenau
cyn i rywun ei chodi
a’i magu
fel y machlud.
Gwaeddwn ein diolch
yn rhy dawel
ac fe ddychwelwn
yn hawdd
at ein sgwrs fach ni.
Mari George – 9
Englyn: ‘Theatr’
Tanau Tawe
Es i weld wynebau’r sêr – yn eu hwyl,
Ond gwelais drwy’r amser
Wyneb a loes ein byd blêr,
Anifail a’i fyw ofer.
Robat Powell - 9
Aberhafren
Y dadleuon teledu
Pan gwyd y llen, darllena o dy sgript.
Sgwria’r wên. Perfformia
i filoedd. Ond gofala
di ddweud dim, fel gwleidydd da.
Rhys Iorwerth – 9.5
Cyfanswm
Tanau Tawe – 71.5
Aberhafren - 72







