Main content

Rownd 2 - Penllyn v Tir Mawr

Penllyn v Tir Mawr

Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter,
heb fod dros 140 o nodau cyfrifiadurol): Cwestiwn Cwis Chwerthinllyd o Hawdd

Penllyn
P’run yw’r bwlch sy’n cael ei enwi
Bron bob tro y bydd hi’n rhewi?
Mae yn agos iawn i fama,
Ac yn debyg i’r Crimea.

Beryl Griffiths – 8.5

Tir Mawr
Fe wnant arian bunt wrth bunt,
Ond be sy'n gyrru melin wynt?

Huw Erith – 8.5

Cwpled addas i'w osod wrth fynedfa castell

Penllyn
Castell Aberteifi

Pa ots pan aiff I’r pen
Pa liw sydd ar dair pluen

Gruffudd Antur - 9

Tir Mawr
Castell Aberteifi

Galw, ac fe gei eilwaith
Englyn a thelyn – a'th iaith.

Myrddin ap Dafydd – 9

Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mi es i ar-lein i archebu’

Penllyn
Gan feddwl dal trên i Lanfaethlu,
Mi es i ar-lein i archebu.
Tra safwn i yno
Y trên ddaeth a’m taro,
A wnaeth o ddim hyd yn oed ‘rafu.

Aled Jones - 8

Tir Mawr
Mi es i ar lein i archebu
A phrynais rhyw handcuffs a ballu
Fe weithio nhw'n iawn,
Diwallwyd fi'n llawn,
Fe awn i nol mwy tawn i'n gallu.

Huw Erith – 9

Cywydd: Teml

Penllyn
Adar bach a'u trydar byw
Yn adfer daear ledfyw,
A chwa'r gwynt trwy glychau'r gôg
Yn dweud mor hardd odidog
Yw'r llethrau mawn, sy'n llawn lliw,
Mor hael yw mro amryliw.

Cywion lu yn llety'r llwyn,
Bref oen yn brawf o wanwyn
A'i afiaith imi'n grefydd.
Sŵn y nant a'i foliant fydd
Yn gân i rhywrai a gâr
Wyrthiau Duw o groth daear.

Dylan Davies - 9

Tir Mawr
Hen, hen hen nain i mi – yn groes i’r gred mai Catherine Edwards, Arglwyddes y Plas – roddodd y tir i godi Capel Newydd, Nanhoron, y ‘Capel bach gwyngalchog’ y canodd Cynan iddo. Mae dogfen ar gael yn yr Archifdy yn profi hynny. Y Parch. Benjamin Jones, Pwllheli – bregethai yn Llanfyllin adeg troedigaeth Ann Griffiths – a’i harwyddodd dros yr Annibynwyr.

Hen oerodd yn Nanhoron
ei hiaith hi, adnod a thôn,
yn si’r dail y daw’r eilio
a’r Amen drwy’r cen i’r co’.

Yma bu fflam ei bywyd,
a ddoe’i gweddiau o hyd
edrydd bennod am godi’r
meini, maent tu mewn i mi.

Ac os llawr pridd sydd iddo
yn y caeau, distiau’i do
roes siôl i bobol y byd
a nef i’w gafael hefyd.

Gareth Neigwl – 9.5

Pennill ymson ar lain galed y draffordd

Penllyn
Yma rwyf yn adyn unig
Diymgeledd a thrist iawn,
Cychwyn wnes i am yr Alban,
Do, o Fangor heddiw’r pnawn.
Biti na fawn wedi meddwl,
Cyn im fentro ar fy nhaith –
Byddai petrol yn beth buddiol.
Hithau’n awr sydd wedi saith.
Er bod golau’r Fflint yn lyfli
A Maes-glas, er ar y ffin,
Hefyd, cwylio’n, lle dymunol,
’Dyn nhw ddim yn Gretna Green.

Beryl Griffiths - 8

Tir Mawr
Y crancshaft a dau biston racs
Mae'n beryg am rhen Datsun,
Ac yma a'i Top Gêr yn llwch
Un tebyg iawn i Clarkson.

Huw Erith – 8

Cân ysgafn - Cyfri Stoc

Ar ddechrau llwybr bywyd, mor uchel oedd y nod,
Unrhyw beth yn bosib, a llwyddo oedd i fod.
Mi geisiais sgwennu opera wrth ddysgu tabl tri,
Ond deall cân i Gymru sydd tu hwnt i mi!

Mi gês fy nal yn tecstio tra’n dreifio dro yn ôl
Rwy’n dueddol, ar ôl yfed, i wneud ryw bethau ffôl!
Mi fûm yn Cruffts un flwyddyn yn cystadlu efo Mot,
Ond colli fu ei hanes, er bwyta Win-a-lot!

Fy ngheffyl rasio’n Aintree aeth rownd y trac ffordd rong,
A’r stiward a ddywedodd “He won’t live fur-long!”
Trwy arbrawf â’i enynnau, o dest tiwb y daeth e,
Ei fam a oedd yn wennol, a mudo wnaeth i’r de.

Fe ddringais lethrau’r Wyddfa i weld diffyg ar yr haul,
I rannu yn y profiad, a helpu’r diffyg traul,
Wrth nesu at y copa, fy nghalon oedd fel gordd,
Ni welais i ‘run diffyg, y lleuad oedd o’r ffordd!

Wrth gyfrif stoc fy mywyd, ar drothwy’r hanner cant
Mi gofiaf “bethau bychain” fel d’wedodd Dewi Sant,
Eleni, nid yw ngobeithion yn codi’n uwch na’r llawr
Dim ond cael cyrraedd Meifod, ‘di curo beirdd Tir Mawr!

Aled Jones - 9

Tir Mawr
Roedd ‘na greadur o Riwbeina efo tŷ ym mhen draw’r stryd
oedd yn gwerthu mariwana fel petasai’n ddiwedd byd

R’oedd hi bron yn ddau’n y bora (wedi pedwar n’ol y cloc)
Pan aeth Jac i’r parlwr gora’ unwaith eto’i gyfri’r stoc

Fe fu wrthi ers wythnosa’ yn cofnodi yn ddi-fai
Ac yn ol ei ystadega’ r’oedd ei gelc yn mynd yn llai

Pan o’r cloc, y munud hwnw, llusgodd Gog a’i llais yn groch
I rhyw hanner ganu “gwcw” cyn dweud “hei ddyn, faint ‘di o’r gloch?”

Fe aeth Jac yn hollol gandryll. Sylweddolodd wedi’r sioc
Taw y lleidr bondigrybwyll oedd y gwcw yn y cloc

Ac fe roddodd waedd wrth neidio am y Gog i drio’i dal
Roedd y Gog rhy stoned i fflio ac fe sbonciodd mewn i’r wal

Yn y drych, wrth blymio’n ara’, gwelai’r Gog drwy lygaid pinc
Fod ei phig fel consatina cyn diflanu mewn i’r sinc

Daeth y cloc yn destyn ymchwil, a thu mewn, be’ gafodd Jac
Ym mhob modfedd sgwar o’i grombil ond tri phwys o Afghan Black

Mewn gorfoledd fe bawennodd y bowndeli bach di-ri
Pan, heb gnocio, fe gyrhaeddodd Heddlu’r Gogledd…fesul tri

Gyda’r Gwcw’n amddiffyniad fe aeth Jac o flaen ei well
Ac mae’n awr yn cyfri defaid wrth drio cysgu yn ei gell

Gareth Jos – 9

Llinell ar y pryd - Yr oedd flynyddoedd yn ôl

Penllyn
Yr oedd flynyddoedd yn ôl,
Wanwyn ym mhob un wennol.

0.5

Tir Mawr
Yr oedd flynyddoedd yn ôl,
Gadw cyn oes ddigidol.

0.5

Telyneg neu soned: Drama
I Derek

Fe’i ganed yn gyfarwyddwr,
A phob modfedd o’r llwyfan
Yn llwyr dan ei reolaeth dynn
A’i gast yn rhoi, rhoi’r cyfan.

Yn gynnil iawn arferai’i grefft,
Pob gair ac ystum ganddo
Yn cuddio rhagom ni y gwir,
Ei fod, ers tro, yn actio.

Beryl Griffiths – 9.5

Telyneg: Drama

Tir Mawr
Yn angladd Merêd

Ar lwyfan gwag, mae llais na aeth o'r byd
Ar alaw hŷn na'r gwynt drwy ddeilen grin:
'Oes rhywun ar y rhodwydd uwch y rhyd?'

Mae'r llafnau i gyd dan bwysau'r meysydd ŷd.
Does fawr o awydd mynd. Ond ar y ffin,
Ar lwyfan gwag, mae llais na aeth o'r byd

Yn dod drwy wendid y clustogau clyd:
'A Chwefror yn y cwm yn troi tu min,
Oes rhywun ar y rhodwydd uwch y rhyd?'

Ac er mor denau'r darian, mae o hyd
Yn ddrych i'r wên oedd unwaith yn ei thrin
Ar lwyfan gwag. Mae'r llais na aeth o'r byd

Yn dal i hawlio gwerth i'r geiriau mud,
Yn dal i godi hwyl ar lwybrau blin,
'Oes rhywun ar y rhodwydd uwch y rhyd?'

Mae'r ateb parod eto'n ffoi cyn pryd.
Mae'r dwylo'n llonydd ar eu dau ben-lin.
Ar lwyfan gwag, mae llais na aeth o'r byd:
'Oes rhywun ar y rhodwydd uwch y rhyd?’

Myrddin ap Dafydd – 9.5

Englyn: Lleuad lawn

Ni wêl neb yr wyneb hyll – yn llefain
drwy'i hunllefau candryll,
ond myn Duw, mae hi'n dywyll
i'r dyn sy'n gwenu'n y gwyll.

Gruffudd Antur – 9.5

Tir Mawr
Mae hiraeth am dymhorau yn aros
hen ŵr am ei golau;
da gweld ei hasen denau
a da o hyd fynd i hau.

Gareth Neigwl – 9

Cyfanswm
Penllyn – 71
Tir Mawr - 72