Rownd 2 - Criw'r Llew Coch v Hiraethog
Rownd 2 - Criw'r Llew Coch v Hiraethog
Trydargerdd - Parodi ar unrhyw bennill enwog
Criw'r Llew Coch
Fuoch chi 'rioed yn trio
Ariannu "Ein Gŵyl" unwaith eto?
Chwythodd y nawdd mewn o'r RWE
Ond nawr yr ydym yn crio!
Alun Cefne – 8
Hiraethog
Gŵr doeth o Aberteifi
Yn gweithio i’r BBC,
Deg i bawb am drydar
Ond unarddeg i mi.
Gwenan Prysor - 8
Cwpled caeth yn estyn cydymdeimlad
Criw'r Llew Coch
Uwch bedd milwr
Sori Met. Ond dwi’n siŵr mai
Dy lofrudd oedd dy lifrai.
Gwion Aeron - 9
Hiraethog
Ein dal, â galar yn don,
wna gafael mewn atgofion.
Rhys Dafis – 9
Limrig yn cynnwys y llinell Wrth groesffordd yr oeddwn un bore
criw'r Llew Coch
Wrth groesffordd yr oeddwn un bore
Pan glywes i rywun yn dadle
Ac yno roedd Ifan
Yn siarad â'i hunan
'Diawch, ffor’ ‘ma neu ffor’ ‘na mae adre?'
Rhiain Bebb – 8.5
Hiraethog
Wrth groesffordd yr oeddwn un bora
Yn meddwl lle i fynd efo ngyrfa,
Dim ond hitio’r cynhyrchydd
Ac fe wnaed môr a mynydd -
Mae miliwnydd yn haeddu’r bwyd gora.
Gwenan Prysor – 8.5
Cywydd - Golygfa
Criw'r Llew Coch
Draw i’r Adfa sitkas sydd
Yn rhodio lle bu’r ‘hedydd
A dail gwern yn dal y gwynt;
O dreiddio tu draw iddynt
Mae hwyliau pob un melin
Yn saff o hel dros y ffin,
Hel y volts o’r awel fain;
Rhed y dŵr tua’r dwyrain
I fyd mwdlyd y Midlands;
Fel ‘rioed yno try’r coed, cans
O fan hyn fe’i gwelaf nhw.
Ni welaf lif yr elw.
Tegwyn Pughe Jones - 9
Hiraethog
Gadawsom des y stesion
ddiwedd Awst, am y wledd hon;
o’n seddi, ysu oeddem
i’r un trac arwain ein trem
at ddrama’r Wyddfa; y hi
â’r llun dan gwr ei llenni
yn raddol ddod i’r golwg,
wrth wau drwy’r cymylau mwg.
Yna ennyd ysblennydd
o wlad wych dan haul y dydd.
*********
Er i’r niwl roi’r sioe i’r nos,
ein horiel sydd yn aros.
Ffion Gwen – 8.5
Pennill ymson mewn parti gwisg ffansi
Criw'r Llew Coch
Pam y bod rhai dynion yn licio gwisgo ffrog
mae'r peth yn annaturiol yn anesmwytho cog
ac yn eu gynnau euraidd a gwyn a gwyrdd a glas
does wahaniaeth rhwng y Wil na’r Jil, a hynny sydd yn gas.
Ifan Bryn Du – 8.5
Hiraethog
Mae hi’n ddigon oer yn fama
I rywun gael croen gŵydd;
Doedd o ddim y syniad gora
Dod yn fy siwt penblwydd.
Gwenan Prysor – 8.5
Cân Ysgafn - Cymysgu
Criw'r Llew Coch
"Mae rhaid i ti gymysgu er mwyn dod mlaen ’ny byd"!
Dyna diwn gron gyson f’annwyl Fam a’n byddarodd ni i gyd.
"Mae'r gallu i gyfathrebu yn bwysig iawn i ddyn,
Sut ffŵl a dreulia'i fywyd yn siarad â fo'i hun?""
Ond mae cynnal sgwrs yn anodd i greadur swil fel fi,
Sy'n torri gair â neb trwy'r dydd ond Bartholomew y ci.
Mae gennyf ffowls a gwydde, gwartheg duon, defaid brith,
Ond ‘dyw dyddiadur llwm hen ffarmwr tlawd yn cyfrannu fawr i'm llith.
Es ati' i gynganeddu, dawnsio gwerin, canu mewn côr,
Ac eto par yr argraff fy mod yn dal yn "bore"!
OND
Mi gipies lawr i 'Syswallt a phrynes laptop drud,
A nawr 'rwy’n cyfathrebu â merched dros y byd!
Ceir rhai o Nova Scotia, 'Sbyty Ifan a Taiwan,
A thry eu 'sgyrsiau difyr fy nghoesau byr yn wan.
Mae rhai sy’ am fy mhriodi, o’r Urals a’r Iwcraen
(Mae byw dan gysgod Putin yn siwr o fod yn straen).
A 'nawr 'rwy’n ffrindiau gorau â llu lodesi tlws -
Mor braf yw hi i "gymysgu" heb fentro cam trwy'r drws!
Alun Cefne – 8.5
Hiraethog
Does ond angen rhai cynhwysion, powlen fawr a llwy bren iawn
I greu pryd sy’n boeth a blasus, un sy’n haeddu’r marciau llawn.
Rhaid cael cig fel prif gynhwysyn. Cig safonol. Cig o’r fro.
Beth am gyw iaR.Williams Parry? Neu, gig Eidion Wyn wnaiff tro.
Yna, yn y fowlen rhoddwch Waldo-matos – rhai o dun,
A Hedd Wyn-wins – ond rhagrybudd, fe ddaw dagrau wrth wneud hyn.
Nesaf, ychwanegwch atynt lwyaid mawr o ambell sbeis,
Pa-pri-Ka-ren Owen gynta, yna TalieSin-sir. Neis.
Fel bod ‘cic’ i’r pryd terfynnol ychwanegwch at y bwyd
Binsied mawr o Bupur Dylan. Pinsied llai o Halan Llwyd.
Tywallt wedyn dros y cyfan, ddigon o Hiraeth-stoc, gwych.
(Gwell osgoi y llewod cochion – beryg yr â’r saig yn sych.)
Wedi berwi y Reis Iorwerth, bydd eich pryd yn barod, mwn.
Cofiwch estyn plat bach arall, gosod Cynaan Bread ar hwn.
Chwi gewch wledd ar ôl cymysgu y cynhwysion drudfawr hyn.
Steddwch, bwytewch, byddwch lawen a mwynhewch y Cyrri Wyn.
Gwenno Davies – 9
Llinell ar y pryd – Yn y ciw rwy’n mynd o’m co
Criw'r Llew Coch
Yn y ciw rwy’n mynd o’m co,
Yn y ffrae’n y ciw ffrio
0.5
Hiraethog
Caf orig unig heno,
Yn y ciw rwy’n mynd o’m co
Telyneg mewn mydr ac odl - Cwestiwn ac Ateb
Criw'r Llew Coch
Pa wahaniaeth sydd, fe holais fy hun,
A’r tân yn marw losgi yn y grât,
Pa wahaniaeth rhwng deddfau dyn a dyn,
Rhwng teyrn a theyrn; a thra bo bwyd ar blât
A chyfri banc yn gadarn fel y graig,
Fe holaf pa wahaniaeth sydd, pa iws
Deisyfu fod y teyrn yn deyrn Cymraeg,
A rhuo’r bregeth fawr a chwythu ffiws!
Pa ots pa faner sy’n cyhwfan draw?
Pa ots nad yw fy nagrau’n llifo mwy?
A pha wahaniaeth am y rhai na ddaw
Am nad oes gwres nac aelwyd iddynt hwy?
 hithau, fel erioed, mor hwyr y dydd,
Fe wyddaf, gwyddaf, pa wahaniaeth sydd.
Arwyn Groe - 9
Hiraethog
Colli ac Ennill
(wrth gofio pedwar o fawrion ein diwylliant)
A welaist ti’r aur ar y marian,
a’r arian ym mherlau’r gwlith?
A welaist ti’r blagur yn glasu,
neu oedd hynny yn ddim ond rhith?
A glywaist ti’r gwcw yn pecial,
a sisial yr awel trwy’r ŷd?
A glywaist ti’r brwyn yn chwibanu,
neu oedd hynny yn gelwydd i gyd?
A deimlaist ti niwl Tanygrisiau,
a dafnau hen law ym Mwlch-llan?
A demlaist ti friw’r Goeden Eirin,
a’r ddrycin dros Arran a’i glan?
Daw alaw o alar Cwm Ystwyth,
a chwedlau o ddagrau Caerdydd.
Daw straeon o’r Dolydd a’r ddinas,
a’r gaeaf yn haf, rhyw ddydd.
Eifion Lloyd Jones – 9.5
Englyn - Brenin
Criw'r Llew Coch
Elvis
Yn ddistaw to ôl i olau - neonaidd
Yn anial y cardiau,
Caiff arwr drwy’r cyffuriau
Eco hir y llenni’n cau.
Gwion Pugh – 8.5
Hiraethog
Richard 111
Daeth y llofrudd o’i guddfan – yn arwr
Caerlŷr a’r wlad gyfan,
ac o’r arch diwygia ran
o’i hanes ef ei hunan.
John Glyn Jones – 9.5
Cyfanswm
Llew Coch- 69.5
Hiraethog - 70.5







