Rhybudd am anelu golau laser at hofrenyddion
- Cyhoeddwyd
Cafodd y cyhoedd rybudd y byddan nhw'n cael eu herlyn os byddan nhw'n anelu golau laser at hofrennydd yr heddlu yn Ne Cymru.
Mae'r heddlu wedi cyhoeddi lluniau o laser yn cael ei anelu at yr hofrennydd.
Eisoes cafwyd wyth o bobl yn euog o droseddau yn ardaloedd heddluoedd De Cymru a Gwent eleni.
Dywedodd peilotiaid y gallai anelu'r laser ymddangos fel "hwyl ddiniwed" ond fe allai arwain at oblygiadau difrifol iawn.
Technoleg
Dywedodd yr Arolygydd Gary Smart o Uned Cefnogaeth Awyr De a Dwyrain Cymru: "Mae pobl yn anelu'r lasers at yr hofrennydd heb unrhyw syniad o'r risg i'r criw ac i'r cyhoedd.
"Y realiti yw y gall anelu'r laser at hofrennydd ladd rhywun."
Ychwanegodd fod yr heddlu yn trin y materion yn ddifrifol iawn.
"Mae camerâu a thechnoleg thermal yn yr hofrennydd yn ei gwneud hi'n hawdd i ni wybod o ble mae'r laser yn dod.
"Fe fyddwn ni'n dod i hyd i'r troseddwr ac yn ei arestio."
'Amharu ar olwg'
Dywedodd Gareth Collins, aelod o griw'r hofrennydd: "Mae'r laser yn amharu ar olwg y peilot a'r criw, felly mae'n rhaid i ni ddelio gyda'r troseddwr cyn i allu roi cymorth i bobl sy'n diodde' oherwydd troseddau eraill.
"Efallai bod pobl yn meddwl fod hwn yn dric diniwed ond mae'n ein hatal ni rhag gwneud ein gwaith a helpu'r bobl sydd ein hangen."
Y gosb fwyaf am ymddwyn mewn modd sy'n debygol o beryglu awyren neu hofrennydd yw dirwy o £5,000 ac/neu pum mlynedd o garchar.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth am droseddau ffonio Heddlu De Cymru neu Heddlu Gwent ar 101, neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.