Cerddwr yn Y Bala wedi marw o anafiadau i'w wddf a'i frest - cwest

Llun o ffordd yr A494 ar gyrion Y Bala ble ddigwyddodd y gwrthdrawiad
Disgrifiad o’r llun,

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A494 ar gyrion Y Bala

  • Cyhoeddwyd

Bu farw cerddwr o anafiadau difrifol i'w wddf a'i frest yn dilyn gwrthdrawiad yn ardal Y Bala ddechrau Rhagfyr, mae cwest wedi clywed.

Cafodd cwest ei agor i farwolaeth Darren Mark Hassall o Lannau Mersi. ar ôl iddo gael ei daro gan gerbyd tra'n cerdded ar 3 Rhagfyr.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw ar ôl adroddiadau bod cerddwr wedi bod mewn gwrthdrawiad ar yr A494 yn Llanfor ger Y Bala am tua 23:40.

Clywodd y cwest yng Nghaernarfon bod Mr Hassall, 43 o Benbedw, wedi'i gadarnhau yn farw gan barafeddyg am 00:30.

Dywedodd uwch grwner Gogledd Orllewin Cymru, Kate Robertson, bod archwiliad post mortem yn dangos bod Mr Hassall wedi marw o "anafiadau difrifol i'w wddf a'i frest".

Dywedodd Ms Robertson y byddai'r cwest yn cael ei ohirio tra bydd ymchwiliad yr heddlu'n parhau.

Cafodd dyn 38 oed ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus, a'i ryddhau yn ddiweddarach ar fechnïaeth tra bod ymholiadau'n parhau.

Mae Heddlu Gogledd Cymru hefyd wedi apelio am unrhyw dystion i'r gwrthdrawiad i gysylltu â'r llu.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig