Ymgyrch newydd i annog mwy i roi'r gorau i ysmygu

Mae ysmygu yn parhau i fod y prif achos o glefyd a marwolaethau yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn lansio ymgyrch newydd er mwyn cynnig cymorth i helpu pobl i roi'r gorau i ysmygu fel adduned blwyddyn newydd.
Bwriad cynllun newydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yw amlygu'r manteision i stopio ysmygu a helpu pobl i wneud hynny yn 2026.
Ar droad y flwyddyn newydd, mae'n gyffredin i bobl wneud addunedau a newidiadau i'w bywyd.
Diolch i gymorth gan y gwasanaeth iechyd gall ysmygwyr fanteisio ar y gefnogaeth a chytuno i roi'r gorau i ysmygu am byth.
Mae'r ymgyrch Break Its Hold yn canolbwyntio ar yr heriau bywyd go iawn y mae ysmygwyr yn eu hwynebu - boed yn straen yn y gwaith, dod o hyd i "amser personol", neu wella ansawdd bywyd.
Mae'r ymgyrch yn cynnig cymorth ymarferol drwy wasanaethau gan arbenigwyr, Help Me Quit.
Gall helpu i arbed arian hefyd
Mae'r rhan fwyaf o ysmygwyr am roi'r gorau, ac mae llawer yn gwneud ymgais bob blwyddyn ar eu pennau eu hunain.
Ond mae tystiolaeth yn dangos bod defnyddio cymorth a chynllun pendant gan y GIG yn cynyddu'r siawns o lwyddo yn sylweddol.
Mae Help Me Quit yn cynnig cyngor am ddim gan arbenigwyr, wedi'i deilwra i anghenion yr ysmygwyr, ar adeg ac mewn lle sy'n eu siwtio nhw.
Mae'r ymgyrch hefyd yn cynnig Therapi Amnewid Nicotin (NRT) neu feddyginiaethau eraill er mwyn helpu i roi'r gorau i ysmygu.
Gall rhoi'r gorau i ysmygu fod yn fanteisiol o ran iechyd ond gall helpu pobl hefyd i arbed arian.
Gyda chost gyfartalog pecyn o 20 sigarét bellach yn £16.45, mae rhywun sy'n ysmygu pecyn y dydd yn gwario dros £115 yr wythnos, sef tua £6000 y flwyddyn.

Mae 10% o oedolion yn ysmygu yn ôl adroddodd Arolwg Cenedlaethol Cymru 2024-25
Mae ysmygu yn parhau i fod y prif achos o glefyd a marwolaethau yng Nghymru.
Rhwng 2020 a 2022, roedd cyfartaledd o 3,845 o farwolaethau ymhlith oedolion 35 oed a throsodd yn gysylltiedig ag ysmygu - mwy nag un o bob deg o'r holl farwolaethau yn y boblogaeth dros 35.
Yn ystod yr un cyfnod, fe arweiniodd ysmygu at fwy nag 17,000 o gleifion yn mynd i'r ysbyty bob blwyddyn, gan ddangos y baich enfawr y mae ysmygu yn ei roi ar y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.
Yn ôl adroddodd Arolwg Cenedlaethol Cymru 2024-25 mae 10% o oedolion yn ysmygu.
Dywedodd Mary-Ann McKibben, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus, "fod ysmygu yn parhau i niweidio miloedd o fywydau yng Nghymru bob blwyddyn - ond mae newid yn digwydd.
Mae llai o bobl yn ysmygu nag erioed o'r blaen, a gyda'r cymorth cywir, gall hyd yn oed mwy o ysmygwyr roi'r gorau i ysmygu am byth."
Aeth ymlaen i ddweud eu bod yn annog pobl i wneud hwn yn adduned Blwyddyn Newydd gan ddefnyddio'r cyngor gan arbenigwyr er mwyn gwneud hynny.
"Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru eisiau helpu pobl i fyw bywydau hirach ac iachach" meddai.
"I wneud hyn, mae'r cynghorwyr ar gael i gefnogi pobl i roi'r gorau i ysmygu am byth."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.